Skip page header and navigation

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru (GPC), unig eiriadur hanesyddol safonol yr iaith Gymraeg, wedi ennill cydnabyddiaeth nodedig yn adroddiad diweddaraf yr Academi Brydeinig, ‘The SHAPE of Research Impact.’

Myfyrwyr yn gwrando ar ddarlithydd yn yr ystafell drochi

Mae’r adroddiad, a gomisiynwyd gan yr Academi Brydeinig ac Academi y Gwyddorau Cymdeithasol ac a gynhaliwyd gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Leverhulme ar gyfer Gwyddor Demograffig ym Mhrifysgol Rhydychen, yn archwilio effaith ddofn ymchwil yn y maes Gwyddorau Cymdeithasol, y Dyniaethau, a’r Celfyddydau i Bobl a’r Economi o fewn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF2021).

Wedi’i ryddhau ddydd Gwener diwethaf, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at gyfraniadau eithriadol Geiriadur Prifysgol Cymru, gan bwysleisio ei effaith sylweddol ar astudiaethau ieithyddol a diwylliannol. Mae’r geiriadur Cymraeg ar lein a’r apiau symudol wedi gadael marc parhaol ar ddysgu iaith, ac wedi cael eu defnyddio dros 3 miliwn o weithiau’r flwyddyn gan unigolion sy’n astudio’r Gymraeg, gan sefydlu’r geiriadur fel adnodd amhrisiadwy.

Mynegodd Andrew Hawke, Golygydd Rheolaethol Geiriadur Prifysgol Cymru, ei falchder yn y gydnabyddiaeth o effaith geiriaduron hanesyddol, yn benodol GPC ac eDIL, gan ddweud:

“Rydym yn hynod o falch bod yr adroddiad wedi sylwi’n arbennig ar ardrawiad dau eiriadur hanesyddol, sef ein geiriadur ni, GPC, ac eDIL, geiriadur hanesyddol yr Wyddeleg hyd at 1700.”

“Ers lansio GPC Ar Lein yn 2014, mae dros 17 miliwn o chwiliadau am eiriau Cymraeg wedi bod a thros ddwy filiwn o chwiliadau am eiriau Saesneg. Yn sicr, mae’r geiriadur ar lein a’r apiau yn cyrraedd cynulleidfa fawr iawn yng Nghymru ac ar draws y byd, gan bwysleisio effaith fyd-eang Geiriadur Prifysgol Cymru.”

Parhaodd Andrew Hawke: “Mae’r ymchwil yn parhau yma yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ac mae 4,000 o eiriau newydd wedi eu hychwanegu at y Geiriadur ers y lansiad.”

Ychwanegodd yr Athro Elin Haf Gruffudd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru:

“Rydym wrth ein bodd yn y Ganolfan UwchefrydiauCymreig a Cheltaidd o glywed y newyddion ardderchog. Hoffwn ddiolch i staff y Geiriadur am eu gwaith caled a’u hymroddiad a hefyd i Lywodraeth Cymru a’r brifysgol am eu buddsoddiad parhaus yn yr adnodd pwysig hwn.

Mae Geiriadur Prifysgol Cymru ar flaen y gad o ran datblygiadau iaith, diwylliant a chymdeithas ac yn cyfrannu’n sylweddol at seilwaith ieithyddol cyfoes y Gymraeg yn ogystal ag at y maes yn rhyngwladol. Wedi dathlu canmlwyddiant y Geiriadur yn 2021, edrychwn ymlaen at barhau â’r gwaith a chefnogi ei ardrawiad yn y blynyddoedd i ddod.”

Meddai’r Athro Elwen Evans KC, Is-ganghellor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Hoffwn longyfarch y Geiriadur yn wresog iawn ar y gydnabyddiaeth ardderchog i’r gwaith eithriadol y mae’n ei wneud. Rydym yn falch iawn fel Prifysgol, ac yn hynod falch o’n cyfraniad at adnoddau ieithyddol i’r Gymraeg sydd o ansawdd mor uchel a sydd ag ardrawiad mor bellgyrhaeddol.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau