Skip page header and navigation

Ddydd Sul, (Ebrill 23) bydd Lara Hopkinson, Cyfarwyddwr rhaglen yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ymuno â thua 50,000 o redwyr sy’n cymryd rhan ym Marathon Llundain – pellter o 26.2 milltir.

Laura Hopkinson, sy’n flinedig ond yn hapus ar ôl gorffen Marathon Brighton, yn gwisgo ei medal gyda balchder.

Mae Lara yn codi arian ar gyfer yr elusen Mind, sy’n darparu cyngor a chefnogaeth i rymuso unrhyw un sy’n profi problem iechyd meddwl tra hefyd yn ymgyrchu i wella gwasanaethau, codi ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth.

Dywedodd Lara: “Rwy’n rhedeg dros Mind oherwydd, yn syml iawn, mae #iechydmeddwlynbwysig! Rhedeg yw fy therapi ac mae’n fy helpu i gadw fy nghythreuliaid fy hun yn rhydd. Rwy’n gobeithio, trwy gefnogi’r elusen hon, y bydd eraill yn elwa o gefnogaeth hefyd. Rwy’n gwybod pa mor hanfodol yw eu gwaith.”

Nid dyma’r tro cyntaf i Lara ymgymryd â her chwaraeon mor anhygoel. Cyn hynny bu’n rhedeg Marathon Llundain yn 2005 ac ychydig dros bythefnos yn ôl cwblhaodd Marathon Brighton hefyd.

Ychwanegodd Lara: “Rydw i wedi bod yn hyfforddi pan alla i, naill ai peth cyntaf yn y bore neu ddiwedd y dydd ar ôl dysgu fy myfyrwyr.

“Dwi methu aros i gymryd rhan yn nigwyddiad ddydd Sul gan fy mod yn gwybod pa mor anhygoel yw’r awyrgylch a pha mor gefnogol yw’r holl bobl fydd ar y strydoedd yn cefnogi ac yn codi’ch calon wrth i ni redeg heibio.

“Mae’r rhan fwyaf o bobl yn aros adref ac yn gwella ar ôl marathon, ond ar ôl cwblhau marathon Brighton ar Ebrill 2, fe wnes i ganiatáu diwrnod neu ddau o orffwys i mi fy hun, cyn mynd yn ôl i hyfforddi.”

Dywedodd Lara ei bod am ddiolch i’w ffrindiau, teulu, a’i chydweithwyr yn y Drindod Dewi Sant am eu cefnogaeth.

Ychwanegodd:

“Rydw i mor ddiolchgar i bawb sydd wedi fy nghefnogi ac wedi cyfrannu at achos mor deilwng,”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau