Skip page header and navigation

Mae llyfr newydd a gyhoeddwyd gan ymchwilydd yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ar Ddydd Gŵyl Dewi yn cyflwyno amrywiaeth trawiadol o ddelweddau o seintiau o eglwysi ledled Cymru.

Clawr Welsh Saints from Welsh Churches gan Martin Crampin.

Dan y teitl Welsh Saints from Welsh Churches, y llyfr clawr caled godidog hwn yw’r astudiaeth gyntaf o’r portread o seintiau’r genedl ac mae’n datgelu trysorfa ddisglair o ddelweddau mewn gwydr lliw, cerflunwaith a chyfryngau eraill, na welwyd fawr ddim ohonynt mewn print o’r blaen. Mae dros 500 o ffotograffau hardd o tua 250 o eglwysi ar hyd a lled Cymru yn adrodd stori am le’r seintiau yn niwylliant crefyddol Cymru ac fel ffigurau cenedlaethol.

Mae Dr Martin Crampin yn ein tywys ar daith o amgylch eglwysi cadeiriol ac eglwysi bach a mawr yng nghanol dinasoedd, maestrefi tawel, trefi, pentrefi a chaeau pellennig, y mae rhai ohonynt bellach ar gau. Mae’r llyfr yn cynnig golwg ffres ar y gelfyddyd yn ein heglwysi, ac yn cymharu agwedd gwahanol artistiaid a stiwdios, ac yn dangos sut mae ein dirnadaeth o seintiau Cymru wedi newid dros y blynyddoedd.

Meddai Dr Martin Crampin, “Mae seintiau cynnar Cymru wedi dod yn rhan annatod o stori’r genedl. Erys ein nawddsant, Dewi Sant, yn rhan hanfodol o hunaniaeth Gymreig fodern, ac mae eraill megis Teilo, Illtud, Cadfan, Melangell, Beuno a Gwenffrewi neu Gwenfrewy yn dal lle arbennig yn nhraddodiadau gwahanol ranbarthau Cymru.

Mae’r rhan fwyaf o ddiwylliant gweledol canoloesol seintiau Cymru wedi ei golli ond mae cyfoeth o ddelweddau ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i’w cael mewn eglwysi Cymreig. Ar adeg pan fo cymunedau’n gweithio’n galed er mwyn sicrhau bod eu heglwysi yn parhau i fod ar agor i addoli ac i ymwelwyr, mae’r llyfr yn ein hatgoffa’n amserol o’r trysorau artistig sydd i’w cael mewn addoldai ledled Cymru.”

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: “Dyma gyfraniad hynod bwysig at ein treftadaeth ddiwylliannol a’n hysgolheictod ym maes delweddu eglwysig. Mae gwaith arloesol y Ganolfan ar ddiwylliant gweledol Cymru yn adnabyddus ac yn ogystal mae yma gryn arbenigedd ym maes am y seintiau wedi cyfres o brosiectau ymchwil dros y degawd diwethaf yn arbennig. Hoffwn longyfarch Dr Martin Crampin ar y gyfrol sylweddol hon, yr ail sydd ganddo mewn trioleg ar gelfyddyd grefyddol Gymreig.”

Cyhoeddwyd Welsh Saints from Welsh Churches gan Martin Crampin ar 01/03/2023 (£35, Y Lolfa).

Digwyddiad: ‘Enwau Lleoedd, Seintiau ac Eglwysi’

Bydd y llyfrau Welsh and English in Medieval Oswestry a Welsh Saints from Welsh Churches yn cael eu lansio yng nghwmni’r awduron yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ar nos Fawrth, 14 Mawrth, am 5.00 o’r gloch.

E-bostiwch canolfan@cymru.ac.uk am fwy o wybodaeth. Croeso cynnes i bawb!

Nodyn i’r Golygydd

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau