Skip page header and navigation

Ymunodd y Peiriannydd Ymgynghorol a chyn-fyfyriwr Frank Claydon â myfyrwyr sy’n astudio Peirianneg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i siarad fel rhan o’r gyfres Datblygiad Proffesiynol a Chyflogadwyedd.

Cyn-fyfyriwr Frank Claydon yn sefyll yn Y Fforwm ar gampws Abertawe UWTSD
Frank Claydon

Croesawodd y Brifysgol Frank Claydon, a raddiodd yn 2010 o BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro, a siaradodd fel rhan o gyfres o ddarlithoedd gan siaradwyr gwadd a drefnwyd gan staff academaidd Peirianneg i roi cipolwg ar y diwydiant i fyfyrwyr presennol.

Yn ei ddarlith arbennig, siaradodd Frank, sy’n Uwch Beiriannydd Ymgynghorol ar gyfer cwmni  peirianneg ymgynghorol wedi’i leoli yn Leamington Spa, GRM Consulting, am yr ystod o brosiectau y mae wedi’u cyflawni yn ei rôl gyda’r ymgynghoriaeth sy’n arbenigo mewn methodolegau optimeiddio dylunio, gan ddatrys problemau peirianneg cymhleth ar gyfer amrywiaeth o gleientiaid.

Canolbwyntiai darlith Frank ar sut mae GRM Consulting yn defnyddio technegau Elfen Gyfyngedig a oedd yn arbennig o amserol i fyfyrwyr presennol, gan gynnwys Bleddyn Williams, myfyriwr y drydedd flwyddyn BEng Peirianneg Fodurol, a ddywedodd:

“Roedd darlith gyda Frank Claydon o GRM yn gyfle cyffrous i ddeall sut mae diwydiant yn defnyddio’r technegau optimeiddio dylunio sylfaenol yr wyf yn eu cyflwyno fel rhan o fy mhrosiect annibynnol yn y drydedd flwyddyn. 

“Archwiliodd Frank y syniadau hyn gyda manylder a brwdfrydedd mawr ac ar ôl ei ddarlith, rwy’n teimlo fy mod wedi fy nghymell yn fwy i gwblhau fy mhrosiect annibynnol i lefel sy’n cynrychioli fy mrwdfrydedd dros faes optimeiddio.”

Un neges bwysig sylfaenol o ddarlith Frank i raddedigion y dyfodol yn y Brifysgol oedd bod gan gwmnïau llai fel GRM Consulting gymaint i’w gynnig â chwmnïau peirianneg brand mawr. 

Meddai Frank: “Pan oeddwn i lle mae rhai o’r myfyrwyr hyn nawr, yn meddwl am fy ngyrfa cyn graddio, roedd rhagdybiaeth mai’r llwybr gorau i raddedigion oedd gweithio i gwmni mawr a bod yn gysylltiedig â brand byd-enwog. 

“Nawr, ar ôl cael y profiad yn fy ngyrfa o weithio i gwmnïau mawr a llai, hoffwn rannu gyda’r myfyrwyr bod  yr hyn rydyn ni’n ei wneud mewn ymgynghoriaeth yr un mor gyffrous. Rwyf am agor eu meddyliau i ddull gwahanol a chwmni gwahanol - un nad ydych chi’n ei weld wedi’i blastro ar draws ffeiriau recriwtio.”

“Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf am fy rôl yw’r amrywiaeth a chael defnyddio hanfodion sylfeini’r egwyddorion peirianneg a ddysgais ar fy nghwrs.

“Fy niddordeb i mewn dysgu’r egwyddorion sylfaenol hyn a’m harweiniodd at y cwrs yn y lle cyntaf, ynghyd â’r syniad o’i ddysgu drwy eu cymhwyso i ddiwydiant yn hytrach na thrwy werslyfr yn unig. Mae’r ffaith fy mod i nawr yn gweithio i gleientiaid o nifer o ddiwydiannau fel y diwydiannau meddygol, awyrofod ac amddiffyn, yn ogystal â chwaraeon modur a modurol, yn dangos hyblygrwydd y cwrs a’r sgiliau a gefais ohono.”

Cyn-fyfyriwr, Frank Claydon yn siarad yn gwynebu fyfyrwyr gyda sgrin tu ôl iddo

Hwn oedd y trydydd tro i Frank fod yn ddarlithydd gwadd yn Y Drindod Dewi Sant sy’n dangos ei ymrwymiad i roi yn ôl i’r profiad academaidd a’i gysylltiad â’r Brifysgol o hyd. 

Dylai cyn-fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn bod yn ddarlithydd gwadd yn eu disgyblaeth academaidd gysylltu â alumni@uwtsd.ac.uk neu ymweld â’n tudalennau i gyn-fyfyrwyr.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau