Skip page header and navigation

Mae Harmoni wrth Galon Lles yn dod ag academyddion, therapyddion proffesiynol ac athrawon at ei gilydd, yn ogystal ag ymarferwyr lleyg arferion llesiant Tsieineaidd o bob rhan o’r byd.

Baner digwyddiad ar gyfer y Gynhadledd Harmoni wrth Galon Lles sy’n cael ei chynnal ar Gampws PCYDDS yn Llambed ar 15-16 Ebrill 2023.

Mae’r gynhadledd yn gydweithrediad rhwng Sefydliad Confucius a Menter Iechyd Athrofa Cytgord ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r ddau sefydliad yn rhannu diddordeb cyffredin mewn archwilio cyfraniad pwysig arferion llesiant Dwyrain Asia at ddeall iechyd a ffyniant dynol. Mae’r gynhadledd yn darparu platfform ar gyfer rhannu a thurio i’r gwahanol ysgolion o feddwl, arfer, a thraddodiad o fewn taiji, qigong a hunanofal Tsieineaidd.

Ymhlith y prif siaradwyr mae’r Athro Zhang Wenchun o Brifysgol Meddygaeth Tsieineaidd Jiangxi. Mae Prifysgol Jiangxi yn un o brif ganolfannau ymchwil Tsieina i Ddamcaniaeth Qi – sef egwyddor sylfaenol meddygaeth Tsieineaidd ac arferion therapiwtig megis qigong a taiji. O’r UD bydd Alex Jacobs yn archwilio sut mae meddygaeth Tsieineaidd, arferion hunan-ofal a qigong yn gyfuniad pwerus ar gyfer hunan-iachau a grymuso. Hefyd bydd arbenigwyr o bartner Tsieineaidd Sefydliad Confucius, sef Prifysgol Unedig Beijing, ac ymarferwyr blaenllaw ac athrawon eraill o bob rhan o’r DU ac Ewrop.

Yn dilyn diwrnod o sgyrsiau a gweithdai, mae Gŵyl Ymarfer ar yr ail ddiwrnod. Mae hon ar agor i bawb ac mae’n darparu cyfle prin i gael blas ar ystod o arferion megis Celfyddydau Shaolin, Qigong Meddygol, Qigong Zhineng, Taiji Pêl, Baduanjin, a llawer mwy.

Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol Athrofa Confucius, Krystyna Krajewska: “I athrawon ac ymarferwyr qigong a taiji, neu i’r rheini sydd, yn syml, â diddordeb yn y modd y gall arferion llesiant Tsieineaidd gyfoethogi llesiant personol, mae’r gynhadledd yn wir yn gyfle unigryw i gael dealltwriaeth ddyfnach a rhannu profiadau ag eraill. Mae’n fraint i ni gael cynifer o gyfranwyr uchel eu parch o’r DU a Tsieina yn dod i ymuno â’r digwyddiad.”

Er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn cael mynediad i’r gynhadledd, mae’r gynhadledd bellach ar gael am bris gostyngol ac yn cael ei chyflwyno ar-lein yn unig. Bydd recordiadau o’r holl anerchiadau a gweithdai ar gael wedi’r gynhadledd i’r rheini sydd wedi cadw lle.

Cynhelir y gynhadledd arlein ar Ebrill 15. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Krystyna Krajewska (k.krajewska@uwtsd.ac.uk) ac ar wefan y gynhadledd.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau