Skip page header and navigation

Bydd Coleg Celf Abertawe PCYDDS yn mynd ar y llwyfan yn y Gynhadledd Ewropeaidd ar Addysg yn Llundain ym mis Gorffennaf. Bydd Timi Isaac O’Neill yn cyflwyno ei bapur o’r enw ‘Meta-Darfu mewn Addysg Celf a Dylunio: Dull Lluniadaethol ar gyfer Myfyrwyr Ôl-raddedig Tsieineaidd’. 

Ei gwestiwn cychwynnol yw “Sut olwg fydd ar ysgol gelf y dyfodol?” Mae papur Timi’n adlewyrchu gwaith helaeth ei dîm gyda myfyrwyr Tsieineaidd sydd wedi’u cofrestru ar y rhaglenni Doethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio ac MA Celf a Dylunio. Awgryma bod addysgwyr wedi cyrraedd y ffrwd ddiadlam addysgol, a bod angen addasu i dechnolegau datblygol ar frys.

Darluniad o olygfa stryd Tsieineaidd ddelfrydol, a grëwyd efallai drwy Ddeallusrwydd Artiffisial, gydag arwyddion siopau llachar, toeon talcen cywrain, a phobl mewn gwisgoedd traddodiadol yn eistedd ar y palmentydd.

Mae twf di-baid deallusrwydd artiffisial a thechnolegau datblygol yn gofyn cwestiynau anodd o’r system addysg bresennol. Gosoda weledigaeth o’r cysyniad presennol o ysgol gelf fel colisëwm rhithiol lle mae traddodiad ac arloesi’n brwydro yn erbyn ei gilydd. O ganlyniad, mae’n dadlau ei bod hi’n anochel bod yn rhaid i addysgwyr gwestiynu arddulliau addysgu traddodiadol. Awgryma mai’r unig ateb yw nid yn unig cofleidio potensial deallusrwydd artiffisial a thechnoleg ddatblygol, ond eu defnyddio i siapio cwricwlwm creadigol. Gan amlygu ei fyfyrwyr Tsieineaidd, gyda’u gallu i gyfuno traddodiad a thechnoleg newydd, awgryma eu bod nhw’n gwasanaethu’n enghraifft gymhellol o’r rheidrwydd i ail-ddychmygu hen fodelau addysgu a llenwi addysg â bywiogrwydd newydd.

Dywedodd Timi O’Neill: “Mae’r cysyniad o ‘Meta-darfu’ a fynegwyd ym maniffesto ein cwrs yn awgrymu cyfres o ysgytwadau systemig i arferion addysgu celf a dylunio. Mae’r ysgytwadau hyn yn creu craciau yn yr olwg draddodiadol ar greadigrwydd, a, gobeithio, yn datblygu ffyrdd newydd o feddwl. Mae’n syniad tebyg i’r eglurhad academaidd bod meta-darfu’r diwygiad Saesneg wedi creu craciau yn y ffordd y gwelwyd y byd ac wedi caniatáu i Shakespeare weld strwythurau dwfn bywyd dynol. I ni, achos yr ysgytwadau hyn yw deallusrwydd artiffisial a thechnoleg ymgolli ym maes addysg celf a dylunio. Mae’r ffordd newydd o feddwl yn rhoi hyder i fyfyrwyr a staff archwilio a datblygu arferion creadigol newydd.”

Gan addysgu drwy fodel “Creadigrwydd Hybrid”, mae ymchwil O’Neill yn awgrymu y dylai myfyrwyr archwilio’n fwy manwl y berthynas symbiotig rhwng mynegiannau artistig a gynhyrchwyd gan bobl a deallusrwydd artiffisial. Trwy ddefnyddio arferion trawsddisgyblaethol, awgryma bod myfyrwyr wedi dangos mwy o ddiddordeb mewn creu ffurfiau creadigol newydd, gan eu caniatáu i lunio eu dealltwriaeth eu hunain o natur esblygol creadigrwydd. Nod Timi O’Neill a’i dîm, sef Kylie Boon ac Yueyao Hu, yw chwyldroi addysgu ar gyfer myfyrwyr arfer celf a dylunio ôl-raddedig Tsieineaidd yn y DU. Nod yr ymchwil yw grymuso’r myfyrwyr i gael pen ffordd yn effeithiol drwy’r dirwedd addysgol sy’n newid yn gyflym, a mynd â’r syniadau a’r arferion newydd hyn yn ôl i Tsieina.    

Meddai Dr Mark Cocks, Deon Dros Dro Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru’r Brifysgol: “Fel academyddion, mae’n bwysig i ni gwestiynu sut y gall cyd-destunau addysgol y dyfodol newid yng ngoleuni arloesi technolegol. Mae cysyniad meta-darfu, ym mhapur Timi O’Neill ar gyfer y Gynhadledd Ewropeaidd ar Addysg yn Llundain, yn cyflwyno her werthfawr i’r syniadau disgwyliedig am arfer dysgu celf a dylunio.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon