Skip page header and navigation

Mae prosiect newydd sy’n cael ei ddarparu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn defnyddio ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth i wella galluoedd busnes er mwyn ysgogi twf cynaliadwy.

Mae menyw ifanc yn siglo’i dyrnau yn yr awyr mewn buddugoliaeth; yn y testun mae’r geiriau: Cyllidwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig; Ffyniant Bro; Scale.

Bydd prosiect Scale, a gydgyllidir gan Lywodraeth y DU trwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac a weinyddir gan Gyngor Abertawe, yn rhedeg drwy gydol 2024, gan gefnogi mentrau, entrepreneuriaid a graddedigion wedi’u lleoli yn Abertawe.

Bydd Scale yn defnyddio arbenigedd ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth y Brifysgol i roi cymorth i fentrau sydd am ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd yn ogystal â’r rheiny sydd am ymgorffori technolegau a phrosesau newydd. Caiff hyn ei ddarparu trwy gyfres o weithdai â ffocws ar fusnes, sesiynau cwmpasu a phrosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol.

Bydd y prosiect yn defnyddio sgiliau ac arbenigedd Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) y Brifysgol. Mae ATiC yn cydweithio gyda phartneriaid yn y sectorau academaidd, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector o’r sectorau gwyddorau bywyd, iechyd, a gofal cymdeithasol i ysgogi diwylliant o ragoriaeth ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth, ac arloesi ym maes iechyd a lles.

Meddai Dr Sean Jenkins, Cyfarwyddwr Ymchwil ATiC: “Rydym wedi cyffroi i fod yn cefnogi’r gwaith o ddarparu prosiect SCALE. Mae gan ATiC hanes llwyddiannus o gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu cydweithredol gyda busnesau yn y sector Gwyddorau Bywyd ledled Cymru. Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn rhoi cyfle i ni ddefnyddio ein galluoedd ymchwil helaeth i gefnogi’r sector hwn yn uniongyrchol yn Abertawe; ond mae hefyd yn rhoi cyfle i fusnesau lleol ar draws sectorau masnachol eraill fanteisio ar ein galluoedd ymchwil unigryw er mwyn cefnogi eu twf a chynhyrchu effaith economaidd ar gyfer ein dinas-ranbarth.”

At hynny, bydd Scale hefyd yn defnyddio arbenigedd y Brifysgol i gefnogi darpar entrepreneuriaid a busnesau newydd drwy raglen lansio a sbarduno, wedi’i llunio i greu busnesau cynaliadwy newydd wedi’u lleoli yn Abertawe.

Dywedodd Dylan Williams-Evans, Swyddog Gweithredol Menter a Chronfeydd y Dyfodol, PCYDDS: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag entrepreneuriaid newydd a phresennol ar daith o dwf a gwybodaeth. Nid dim ond rhaglenni yw ein Cyrsiau Lansio a Sbarduno Busnes, maen nhw’n llwybrau at fireinio sgiliau entrepreneuraidd, cysylltu â chymuned o unigolion o’r un anian, a chael pen ffordd drwy gymhlethdodau busnes mewn amgylchedd cefnogol. Bydd yr entrepreneuriaid yn archwilio, yn dysgu, ac yn adeiladu ar eu cyflymder eu hunain gyda chymorth Tîm Menter SCALE ac arbenigwyr blaenllaw’r diwydiant.”

Nodyn i’r Golygydd

Mae Scale yn agored i’r holl fentrau micro, bach a chanolig sydd wedi’u lleoli yn Abertawe yn ogystal ag unigolion sydd am gychwyn busnes newydd.

Os ydych chi’n fenter, yn entrepreneur, wedi graddio, neu’n unigolyn â syniad busnes ac rydych wedi’ch lleoli yn Abertawe, cysylltwch â ni er mwyn dysgu rhagor am sut y gall prosiect Scale eich helpu chi.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm SPF:

E-bost: scale@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau