Skip page header and navigation

I nodi Wythnos Prentisiaethau 2024 (5–11 Chwefror) mae Bridget Moseley, Pennaeth Uned Prentisiaethau’r Brifysgol, yn myfyrio ar ymagwedd PCYDDS at raglenni Prentisiaeth.

A young female student wearing headphones works at a glowing keyboard and monitor.

Mae’r Brifysgol bob amser wedi bod yn rhagweithiol wrth chwilio am gyfleoedd i arloesi, felly yn sgil ein gallu i weithio ar draws ffiniau traddodiadol roedd gennym y llwyfan perffaith i groesawu datblygiad Gradd-brentisiaethau, saith mlynedd yn ôl erbyn hyn. Trwy barhau i weithio’n agos gyda chyflogwyr rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, rydym wedi gallu creu rhaglenni gwych mewn ystod o sectorau i uwchsgilio, ailsgilio a datblygu’r rhai sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd yn y sectorau hynny.

Bellach mae’r Brifysgol yn darparu prentisiaethau yn y Gyfraith (CILEX); Rheolaeth Adnoddau Dynol (CIPD); Peirianneg, yn cynnwys Ordnans, Peirianneg Drydanol ac Electronig ac Electroneg Mewnblanedig; Gweithgynhyrchu Uwch; Gwydr Lliw; Rheolaeth Adeiladu; Mesur Meintiau; Ymarfer Cynorthwyo Therapi; Archaeoleg; a Phlismona.

Fel prifysgol sy’n canolbwyntio ar gyflogaeth rydym wedi ymroi i sicrhau bod ein prentisiaid, sydd o gefndiroedd eang ac amrywiol, yn datblygu’r wybodaeth academaidd a’r sgiliau ymarferol i ffynnu yn eu rolau. Maent yn cael cyfle i ennill cymhwyster, sydd yn ei dro’n hybu eu hyder a’u hunan-barch. Mae’r tîm o Swyddogion Cyswllt Prentisiaid sydd â phrofiad o ddiwydiant yn dod â dealltwriaeth a gwybodaeth fasnachol i’r broses; maent yn darparu’r cyswllt hanfodol rhwng y prentisiaid, eu cyflogwyr a’r brifysgol, a thrwy gyfarfodydd rheolaidd maent yn sicrhau bod y prentisiaid yn parhau i ddatblygu a ffynnu drwy gydol y rhaglen. Mae prentisiaid yn ymwneud ag elfennau academaidd y ddarpariaeth trwy ddysgu ar-lein, wyneb yn wyneb a dysgu cyfunol; mae’r Swyddogion Cyswllt Prentisiaid yn cadw mewn cysylltiad â nhw, a’u cyflogwyr, trwy’r broses adolygu rheolaidd.  

Yr wythnos hon rydym yn cwrdd â chyflogwyr, eu gweithwyr, a phrentisiaid newydd posibl, i drafod y rhaglenni sydd ar gael a sut y gallant gefnogi unigolion i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth sy’n uniongyrchol berthnasol i’w swyddi a’r cwmnïau maent yn gweithio iddynt.   Rydym hefyd yn dathlu cyflawniadau ein prentisiaid a sut maent wedi dangos cymaint o ymrwymiad a dycnwch i barhau i weithio ac astudio, a rheoli’r holl heriau a ddaw mewn bywyd o ran cydbwyso’r elfennau personol a phroffesiynol.  

Rwy mor falch o’n cyflawniadau hyd yn hyn o ran sefydlu, datblygu a chynnig y ddarpariaeth Brentisiaethau ac rwy wrth fy modd fod arolygiad diweddar gan OFSTED o’n saith prentisiaeth a ariennir gan gynllun ESFA Llywodraeth Prydain wedi rhoi sicrwydd ychwanegol o ansawdd ein darpariaeth.  Y dyfarniad cyffredinol a gawsom gan OFSTED oedd Da a chanfuwyd fod y brifysgol yn Dda ar draws pob maes o’r arolygiad.  

Yn yr adroddiad canmolwyd ein partneriaeth â chyflogwyr o ran cynllun a chynnwys y cwricwlwm, profiad proffesiynol ein timau darlithio yn ogystal â’r gwasanaethau cymorth, y gofal dros ein prentisiaid, a threfn lywodraethu gref y rhaglenni.  Mae’r canlyniad cadarnhaol hwn a’r gymeradwyaeth o’r rhaglenni’n tystio i waith caled, ymroddiad ac angerdd ein staff yn ogystal â chyflawniad ein myfyrwyr prentisiaeth.

Un o bleserau fy rôl yw gweithio gydag ystod mor amrywiol o bobl, sydd â phrofiadau eang o addysg flaenorol, gwaith a bywyd; a’u gweld yn ennill yr hyder a’r sgiliau y mae’r rhaglen yn eu rhoi iddynt.   


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau