Skip page header and navigation

Mae Cyfres Beirdd yr Uchelwyr bellach ar gael ar lein, yn rhad ac am ddim, fel adnodd digidol cwbl chwiliadwy: 44 cyfrol, dros 1,100 o gerddi, a thros 61,000 llinell o farddoniaeth a gyfansoddwyd rhwng 1282 a tua 1550.

Graffigyn gyda rhes o lyfrau o gyfres Beirdd yr Uchelwyr ar y gwaelod a’r geiriau ‘Cyfres Beirdd yr Uchelwyr’ ar y top.

Yn hydref 2022 derbyniodd yr Athro Ann Parry Owen grant gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynhyrchu fersiwn digidol o’r gyfres arloesol, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr. Mae’r Gyfres bellach ar gael yn rhad ac am ddim ym Mhorth Adnoddau’r Coleg Cymraeg, dan drwydded mynediad agored CC BY-NC-SA 4.0.

Mae Cyfres Beirdd yr Uchelwyr yn ffrwyth prosiect ymchwil a gynhaliwyd yn ffurfiol yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth rhwng 1993 a 2008, gan barhau i gyhoeddi cyfrolau print hyd 2015. Cynhaliwyd y gwaith gan dimoedd o ymchwilwyr dan nawdd Prifysgol Cymru a grantiau olynol gan yr AHRB, AHRC, y Skaggs Foundation ac eraill a chyn eu cyhoeddi darllenwyd pob cyfrol gan Fwrdd Golygyddol gweithgar ac ymroddedig. Mabwysiadwyd y prosiect yn un o Brosiectau Ymchwil yr Academi Brydeinig.

Mae’r Gyfres yn adnodd anhepgor i unrhyw un sydd am ddysgu am iaith a llenyddiaeth y Gymraeg yn yr Oesoedd Canol diweddar, ac am fywyd diwylliannol a materol yr oes. Dyma gyfnod cyffrous iawn yn hanes y traddodiad barddol Cymraeg, pan oedd y beirdd yn aelodau pwysig iawn o’r gymdeithas a’r uchelwyr yn barod iawn i’w noddi i ganu eu moliant a hyrwyddo eu statws.

Dywedodd Athro Ann Parry Owen, Golygydd y Gyfres, ‘Bydd cael mynediad i holl gyfrolau Cyfres Beirdd yr Uchelwyr a gallu eu chwilio’n gyfrifiadurol yn gymorth mawr i ymchwilwyr ar draws y byd, ac rwy’n hynod o ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg am eu cefnogaeth ac am roi cartref diogel i’r cyfrolau.’

Dywedodd yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwyr y Ganolfan, ‘Mae Cyfres Beirdd yr Uchelwyr yn un o bennaf cyfraniadau’r Ganolfan i ysgolheictod y Gymraeg. Mae’n destun balchder bod y gwaith hwn gan yr Athro Parry Owen a’r holl ymchwilwyr bellach ar gael yn y cyfrwng digidol.’

Nodyn i’r Golygydd

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk  

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk  

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau