Digwyddiad yn dathlu rhaglen arloesol ar gyfer ymarferwyr therapi
Trefnwyd digwyddiad ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant nos Wener i ddathlu diweddglo llwyddiannus rhaglen beilot ar gyfer ymarferwyr therapi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Y Diploma Ymarferwyr Cynorthwyol Therapi yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru ac mae’n gydweithrediad rhwng y Brifysgol, Hywel Dda, Agored Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), corff gweithlu strategol GIG Cymru.
Cwblhaodd deuddeg cyfranogwr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda’r rhaglen beilot yn llwyddiannus ym mis Medi o ddisgyblaethau gwasanaeth Neuro TAP, Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Deieteg a Phodiatreg. Mae’r rhaglen, a ddarperir ar-lein, yn cynnwys saith modiwl Lefel 4 Agored Cymru:
- Rôl yr Ymarferwyr Cynorthwyol Therapi (TAP)
- Datblygu perthnasau therapiwtig
- Gwyddoniaeth sy’n sail i ymarfer
- Arddangos sgiliau ymarferol
- Hybu iechyd a lles
- Ymchwil ac ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth
- Gwneud penderfyniadau clinigol
Yn dilyn y peilot llwyddiannus, mae’r rhaglen bellach yn cael ei chynnig ledled Cymru drwy Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru drwy Goleg Sir Gâr. Mae’r cyfranogwyr sydd eisoes wedi cofrestru ar y rhaglen o Fyrddau Iechyd Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro; Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Powys a Bae Abertawe, yn ogystal â Hywel Dda.
Sefydlwyd y rhaglen 18 mis yn dilyn trafodaethau rhwng AaGIC a GIG Cymru, a nododd yr angen i ddarparu cyfleoedd datblygu ar gyfer ymarferwyr cynorthwyol mewn therapïau.
Cynhaliwyd y digwyddiad dathlu ddydd Gwener, 19 Ionawr ar gampws Caerfyrddin y Brifysgol a alluogodd i’r bartneriaeth i ddod at ei gilydd yn bersonol ac i fyfyrwyr arddangos eu gwaith.
Meddai’r Athro Wendy Dearing, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y Brifysgol: “Rwy’n falch iawn bod llwyddiant y rhaglen yn golygu ei bod bellach yn cael ei chyflwyno ledled Cymru. Mae’n enghraifft wych o gydweithio, lle mae gan bob sefydliad yn y bartneriaeth rôl allweddol i’w chwarae a’i gyfraniad i’w wneud. Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r rhaglen hyd yn hyn.”
Dywedodd James Severs, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Llongyfarchiadau mawr i’n cydweithwyr yn Hywel Dda, sef y cyntaf i gwblhau’r Diploma Ymarferydd Cynorthwyol Therapi (TAP). Mae gallu cynnig cwrs achrededig yng ngorllewin Cymru, drwy ein partneriaeth â’r Drindod Dewi Sant, yn arwydd o fuddsoddiad sylweddol yn natblygiad y ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel, a fydd, rwy’n siŵr, o fudd i’n gweithlu cymorth iechyd perthynol, ein bwrdd iechyd, ein cleifion, a defnyddwyr gwasanaeth yn lleol. Dymunaf yn dda i’n cydweithwyr wrth iddynt ddatblygu eu gyrfa ym maes iechyd cysylltiedig ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chenedlaethau o fyfyrwyr y dyfodol wrth i ni fuddsoddi a thyfu ein talent leol.”
Meddai Trish Mathias-Lloyd, Rheolydd Datblygiad Addysg AaGIG: “Mae gweddill Cymru wedi gweld llwyddiant y rhaglen gyntaf ac erbyn hyn mae grŵp Unwaith i Gymru yn cefnogi’r gwaith parhaus o gyflwyno’r rhaglen hon gan Fyrddau Iechyd eraill ledled Cymru.
“Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb ddatblygwyr y rhaglen Kalee Thomas o’r Drindod Dewi Sant, Rheolwr Rhaglen Donna Morgan PCYDDS, Sarah Collins Hywel Dda PCYDDS ac arbenigwyr pwnc ar draws BIPHDd ac yn olaf, y mentoriaid a’r goruchwylwyr sydd wedi rhoi cymorth i’r dysgwyr gydol y 18 mis diwethaf.”
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07968 249335