Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal Diwrnod Diwydiant Lletygarwch a Gastronomeg yn ei Hadeilad IQ ar Gampws SA1 Glannau Abertawe.

Portreadau o Ali Halbert a goronwyd yn Gogydd Ifanc y Byd a Tilly Morris a goronwyd yn Weinydd Ifanc y Byd yn 2022, yn sefyll ar eu traed.

Cynhelir y diwrnod ar ddull cynhadledd ddydd Llun 22ain Mai, a bydd y drysau’n agor am 9.30am gyda’r siaradwyr rhwng 10am i 2.30pm.

Nod y digwyddiad yw annog ac addysgu darpar weithwyr proffesiynol, myfyrwyr presennol a cholegau AB am yrfaoedd a thueddiadau o fewn sector Lletygarwch ffyniannus Cymru a thu hwnt.

Ymhlith y siaradwyr y mae gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant lletygarwch a gastronomeg sy’n gweithio yn ne Cymru, gan gynnwys Thomas Ferrante, Cyfarwyddwr Grŵp yn Seren Collection; Christie Hayes, Rheolwr Bwyty’r Flwyddyn, Beach House; Vicky Probert, Cyfarwyddwr Gwerthu yn y Village Hotels; a Martyn Guest, Prif Gogydd Stadiwm Swansea.com.

Caiff mynychwyr glywed hefyd gan bencampwyr presennol y World Young Chef Young Waiter, sef Tilly Morris ac Ali Halbert, a roddodd dîm Cymru ar y llwyfan rhyngwladol ar ôl ennill y rowndiau terfynol rhanbarthol a gynhaliwyd gan PCYDDS yn Abertawe’r hydref diwethaf, a phencampwriaethau’r byd ym Monaco.

Bydd Sean Valentine FIH, Rheolwr Gyfarwyddwr Cystadleuaeth World Young Chef Young Waiter yn siarad yn y digwyddiad hefyd.  

Ffion Cumberpatch, Rheolwr Rhaglen Lleoliadau ar gyfer Rheolaeth Gastronomeg Ryngwladol yn PCYDDS sy’n trefnu’r digwyddiad, ac meddai: “Rydym yn falch iawn o gyhoeddi Cynhadledd Lletygarwch PCYDDS, ffordd i fyfyrwyr presennol, darpar fyfyrwyr a busnesau lletygarwch ddod ynghyd i ddysgu a rhwydweithio ag arweinwyr diwydiant.”

Ychwanega Robyn Griffiths, Rheolwr Rhaglen ar gyfer MBA Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol yn PCYDDS: “Credwn yn gryf ei bod hi’n amser gwych i ymuno â’r diwydiant lletygarwch.

“Gyda chyfleoedd anhygoel am leoliadau ar gynnig gan PCYDDS, megis gyda’r Seren Collection, Thomas ym Mhontcanna, Ynyshir, Marriott a Hilton Hotels i enwi dim ond rhai, rydym yn rhoi’r cyfleoedd gorau posibl yn y diwydiant i fyfyrwyr ochr yn ochr â’u gradd.”

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd lletygarwch, neu mewn astudio yn PCYDDS ar gyrsiau arbenigol y diwydiant mewn Rheolaeth Gwestai Rhyngwladol neu Reolaeth Gastronomeg Ryngwladol gofrestru am docyn rhad ac am ddim i’r digwyddiad yma.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau