Skip page header and navigation

Future You: Make a Splash! Ymunodd 700 o fyfyrwyr lleol â ni ar gyfer ein Cynhadledd a’n Ffair Yrfaoedd yn Arena newydd y ddinas.

Un ar ddeg o fynychwyr cynhadledd yn gwenu mewn llun grŵp mawr.

Trefnir y gynhadledd gan Y Drindod Dewi Sant a chyda chymorth ABTA, Sefydliad Lletygarwch Cymru a’r diwydiant ehangach, roedd cynhadledd Future You: Make a Splash in Swansea yn agored i ysgolion, colegau, myfyrwyr prifysgol a chyn-fyfyrwyr.

Roedd yn ddigwyddiad rhyngweithiol, cyflym gydag amrywiaeth o siaradwyr a chysylltiadau fideo o bedwar ban byd gan gynnwys cyn-fyfyrwyr llwyddiannus Y Drindod Dewi Sant, yn rhoi’r cyfle i’r rhai sy’n mynychu rwydweithio a chyfarfod ag arbenigwyr yn y diwydiant.

Gan ganolbwyntio’n gryf ar dwristiaeth mordeithiau, trefnwyd y digwyddiad gan dîm bach o fyfyrwyr Teithio a Thwristiaeth a Rheoli Digwyddiadau Rhyngwladol Y Drindod Dewi Sant mewn cydweithrediad ag ITT a chymorth i’r diwydiant.  Mae dwy o’r myfyrwyr, Amanda, ac Amy, yn Llysgenhadon ABTA sy’n cael eu mentora gan Royal Caribbean International. Cwblhaodd un arall, Josh, leoliad gyda Celebrity Cruises gan deithio o amgylch Môr y Canoldir, y DU a Sgandinafia ac ef yw Cadeirydd Pwyllgor Myfyrwyr Sefydliad Lletygarwch Cymru. Rheolodd myfyriwr arall, Mel, y gwaith o gydweithredu â’r diwydiant a rhedeg y cyfryngau cymdeithasol ar y diwrnod.

Roedd y cyfan yn ymwneud â dathlu llwyddiannau a chyfleoedd yn y diwydiant, a datblygu sgiliau trosglwyddadwy rhagorol fel y gall myfyrwyr ddilyn gyrfaoedd amrywiol ar draws llawer o wahanol sectorau.

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen y cyrsiau Teithio, Twristiaeth a Digwyddiadau yn Y Drindod Dewi Sant: “Roedden hi’n wych cael dod  ag ITT Future You i Gymru!

Roedd hwn yn gyfle arbennig i fyfyrwyr drefnu a rheoli cynhadledd fawr ac roedd y faith mai hwn oedd digwyddiad Future You mwyaf erioed yn gamp anhygoel.

Roedd myfyrwyr o bob grŵp blwyddyn yn rhan o’r digwyddiad a sefydlwyd ac yn gwirfoddoli ar y diwrnod gan helpu i ddatblygu eu sgiliau rheoli digwyddiadau proffesiynol.

Dathlodd y digwyddiad lwyddiannau graddedigion Twristiaeth Y Drindod Dewi Sant gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i ddilyn ôl eu traed a mwynhaodd y myfyrwyr hefyd rwydweithio â diwydiant yn y Ffair Yrfaoedd.”

Mae cynulleidfa fawr yn Arena Abertawe yn gwrando’n astud ar dri siaradwr a ymunodd â’r digwyddiad drwy fideogynadledda.

Dywedodd Amanda Lewis: “Rwy’n teimlo’n hynod o anrhydedd i fod yn rhan o’r tîm trefnu ar gyfer cynhadledd myfyrwyr a Ffair Yrfaoedd ITT Future You Make a Splash yn Abertawe. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac rydym wedi cael adborth hynod gadarnhaol ar ba mor drefnus oedd y diwrnod a faint roedd ein mynychwyr wedi mwynhau. Mae gallu gwerthu bron i 700 o docynnau yn gyflawniad enfawr ac rydym yn hynod ddiolchgar i bob un o’r colegau ac ysgolion o bob rhan o Gymru a fynychodd. Mae trefnu digwyddiad ar raddfa mor fawr wedi fy ngalluogi i gael profiad mewn ystod o feysydd gwahanol o logisteg digwyddiadau, ymgysylltu â rhanddeiliaid a sefydlu cyn digwyddiad.”

Dywedodd Mel Bourke: “Ni allwn ddiolch digon i bawb a gymerodd ran a wnaeth y digwyddiad hwn yn bosibl, gan gynnwys ein Gwirfoddolwyr PCYDDS a greodd awyrgylch mor gyffrous yn Arena Abertawe ac a gymerodd nifer o rolau i helpu bob amser, rydym yn hynod ddiolchgar.

“Diolch yn arbennig i’n cyfarwyddwr rhaglen Jacqui Jones sydd wedi bod yn ddylanwad mor gadarnhaol arnom ni dros ein tair blynedd diwethaf yn y brifysgol. Mae ei hangerdd dros y diwydiant yn adlewyrchu arnom ni fel ei myfyrwyr wrth iddi barhau i’n hysgogi a’n hannog i gyflawni hyd eithaf ein gallu bob amser.

“Rydym yn aml yn siarad yn y dosbarth am “nid oes gan bob ystafell ddosbarth bedair wal” ac ni allai fod yn fwy gwir, roedd yn brofiad dysgu gwych i gymhwyso’r theori rydym wedi’i ddysgu ar waith. Rwy’n dal i gael adborth cadarnhaol diddiwedd gan y rheini ar draws llawer o wahanol sectorau, ac mae wedi gwneud i mi deimlo mor falch a chyffrous o weld yr hyn y byddaf i, Josh, Amy, ac Amanda yn gallu ei gyflawni yn ein gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Tri siaradwr mewn cynhadledd yn eistedd ar y llwyfan gan wenu.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau