Skip page header and navigation

Gwnaeth arddangosfa syfrdanol o oleuadau a lliw drawsnewid un o gymunedau Abertawe gyda chyfranogion hen ac ifanc yn dod at ei gilydd mewn partneriaeth a arweiniwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Pedair merch yn gwenu ac yn gafael llusernau seren papur wedi’u goleuo â goleuadau bychain.

Gwnaeth yr orymdaith llusernau yn Townhill, a drefnwyd gan dîm Ehangu Mynediad y Brifysgol, greu ymdeimlad o undod, ysbryd cymunedol a dathlu wrth i gymdogion ddod at ei gilydd i fwynhau’r digwyddiad hudol.

Trwy gydweithio, mae’r tîm Ehangu Mynediad yn cynnig ystod o weithgareddau dysgu a chodi uchelgais ar gyfer plant, pobl ifanc, ac oedolion ar draws de orllewin Cymru sy’n creu llwybrau i addysg uwch.

Cyd-gyflwynodd y tîm chwe gweithdy wythnosol i greu llusernau papier mâché yng Nghanolfan y Pheonix yn Townhill, yn yr wythnosau cyn yr Orymdaith Llusernau.

Meddai Elisha Hughes, swyddog Ehangu Mynediad PCYDDS, sydd hefyd yn gwirfoddoli yn y gymuned: “Nod y sesiynau oedd annog pobl o wahanol genedlaethau i ymgysylltu, gwella sgiliau sydd ganddynt yn barod neu roi cynnig ar rywbeth gwbl newydd, gwahanol i’r afer.

“Cymerodd dros 100 o bobl ran yn yr orymdaith 45 munud trwy Townhill a’r gymdogaeth leol gan stopio mewn gwahanol fannau i ganu caneuon dan arweiniad band pres lleol. Arhoswyd mewn mannau lle’r oedd lleoliadau â threfniadau byw â chymorth fel bod preswylwyr yn gallu ymuno yn yr hwyl.

“Daeth y gymuned allan i dynnu lluniau a chymeradwyo’r rheiny oedd yn cymryd rhan a hyd yn oed cynnig siocledi Nadoligaidd i gyfranogion yr orymdaith cyn iddynt ddychwelyd i Ganolfan y Phoenix am luniaeth ysgafn.”

Ychwanegodd Elisha: “Yn y flwyddyn newydd, bydd y tîm Ehangu Mynediad yn parhau i gefnogi’r ganolfan gyda’r gobaith o gysylltu mwy o bobl yn yr ardal gyda hyfforddiant, addysg neu opsiynau cyflogaeth posibl.”

Roedd Sebastian sy’n Uwch Swyddog yn ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn un o’r rhai a oedd yn cymryd rhan. Bu iddo gwrdd â’r tîm Ehangu Mynediad mewn gweithdai a gyflwynwyd yn rhan o brosiect o’r enw ‘Ysgolion Iach’.

Meddai: “Mae’n wych gweld sut mae’r gymuned wedi cysylltu â’i gilydd a gweithio gyda’r brifysgol ar gyfer y digwyddiad hwn yng Nghanolfan y Phoenix rwy’n falch iawn i weithio ynddi fel gweithiwr ieuenctid.”

Ym Mlaenymaes, mae’r Groto Nadolig a diwrnod hwyl cymunedol wedi mynd o nerth i nerth. Cynhaliwyd y dathliad hwn ar gyfer oedolion, teuluoedd a phobl ifanc a gefnogir gan y Ganolfan Galw Heibio. Eleni, mae PCYDDS wedi parhau i adeiladu ar y bartneriaeth waith, dan arweiniad Elisha.

Ychwanegodd Elisha: “Mae un prosiect garddio newydd a chyffrous a lansiwyd y tymor hwn yn gymhwyster Lefel 2 achrededig a gyflwynir ar y cyd â Choleg Gwyr Abertawe, ar gyfer oedolion lleol sy’n mynychu cwrs yn wythnosol. Trwy eu gwaith gyda’r prosiect roedd y safle’n edrych yn eithriadol o arbennig ar gyfer y diwrnod.”

Cyrhaeddodd y dathliadau yn Townhill eu hanterth gydag ymweliad â groto Santa cyn troi’r goleuadau ymlaen yn swyddogol wrth i blant ysgolion cynradd lleol ganu carolau.

Darparodd PCYDDS amrywiaeth o fannau gweithdy rhyngweithiol yng Nghanolfan y Pheonix, gan gynnwys gwneud addurniadau, conau bwyd i geirw a chelf Nadoligaidd.

Mae Chloe Evans, myfyriwr Addysg PCYDDS yn ei thrydedd flwyddyn, wedi bod yn gwirfoddoli ym Mlaenymaes a’r gweithdai llusernau. Meddai: “Doeddwn i’n methu ag aros i helpu cefnogi’r prosiect. Rwy’n angerddol ynghylch cefnogi gwaith cymunedol ac roedd hwn yn gyfle gwych i ychwanegu profiad at fy CV i fy helpu pan fyddaf yn dechrau chwilio am swyddi ar ddiwedd y flwyddyn.”

Dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Galw Heibio Blaenymaes: “Fel cymuned, rydym yn eithriadol o ddiolchgar i PCYDDS am y cymorth wrth wneud ein syniadau’n bosibl. Roedd yn hyfryd gweld wynebau’r plant wrth iddynt gerdded i mewn i’r groto. Gennym ni roedd groto gorau Abertawe! Mae cadw pethau’n lleol yn bwysig ar gyfer ein cymuned fel bod pobl yn gallu cael mynediad i gyfleoedd heb y rhwystrau ychwanegol ac mae’r gymuned wedi dweud yn barod pa mor werthfawr yw’r profiadau hyn.”

Meddai’r Athro Ian Walsh, Profost Campws Abertawe PCYDDS: “Mae’r Brifysgol yn falch iawn o gefnogi’r fenter hon ac i barhau â’n cydweithrediad, sydd wedi datblygu dros nifer o flynyddoedd, gyda Chanolfan Phoenix.

“Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o gael ei hadnabod fel prifysgol gymunedol sy’n darparu cyfleoedd i bobl leol gael mynediad i addysg uwch. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd hynny fel y gallwn gynyddu cyfranogiad yn ein rhaglenni a datblygu sgiliau yn y rhanbarth.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau