Skip page header and navigation

Mae’r Rheolwraig Gwybodaeth a Chynnwys sydd newydd gael ei dyrchafu, Samantha John, yn defnyddio sgiliau o’i Phrentisiaeth Gradd Ddigidol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i helpu i lunio a thrawsnewid gofal iechyd i gleifion.

Samantha John

Mae Samantha, sy’n gweithio i Iechyd Digidol Cymru (DHCW), yn dweud bod ganddi brofiad uniongyrchol o’r effaith y gall gwasanaethau gwybodaeth ei chael ar ofal cleifion.

Meddai: “Pan benderfynes i gofrestru yn brentis gradd ddigidol fy mhrif nod oedd cael gwybodaeth newydd mewn maes a oedd o ddiddordeb i mi a gwella fy lefel gyffredinol o addysg er mwyn i mi allu datblygu fy ngyrfa.

“Fodd bynnag, ar ôl dim ond cyfnod byr ar y cwrs, sylweddoles i fod fy nodau wedi newid, rwy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ers nifer o flynyddoedd ac wedi cael profiad uniongyrchol o’r effaith y gall systemau gwybodaeth ei chael ar ofal cleifion. Sylweddoles i y gallai’r sgiliau a’r wybodaeth yr oeddwn i’n eu hennill drwy’r cwrs helpu i lunio a thrawsnewid y gwasanaethau a ddarparwyd gennym i gleifion sy’n defnyddio’r GIG.”

Dywedodd Samantha fod yr angen i ddarparu ar gyfer ei theulu ifanc yn golygu nad oedd hi’n gallu dod yn fyfyrwraig amser llawn. “Ond mae’r gallu i astudio o bell yn rhan-amser wrth barhau i weithio wedi gwneud addysg bellach yn bosib i mi,” ychwanegodd.

“Er fy mod i eisoes wedi dechrau ar lwybr dysgu addysg  bellach yn fy rôl flaenorol, dewises i drosglwyddo i’r Drindod Dewi Sant pan ymunes i ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru.  O’n i’n teimlo y byddai’n rhoi cyfle i gysylltu â myfyrwyr eraill mewn sefyllfa debyg i mi fy hun. Mae rhwydwaith cymorth Y Drindod Dewi Sant wedi ei gynnig imi ers trosglwyddo wedi fy helpu’n fawr i gael y gorau o’m hastudiaethau.”

Dywedodd Samantha mai un o nifer o uchafbwyntiau’r cwrs yw’r sesiynau rhyngweithiol a gynigiwyd yn ystod llawer o’r modylau.  

“Yn ystod y modylau rhwydweithio a rhai datblygu meddalwedd datblygedig roedd cyfle i gymryd rhan mewn sesiynau ymarferol gyda chymorth darlithydd,” meddai. “Roedd pob sesiwn wedi ei llunio i adeiladu ar y sesiynau a addysgir, gan roi gwell dealltwriaeth i chi o sut i weithredu ystod o feddalwedd. Yn bersonol, roeddwn i’n gweld bod y sesiynau hyn yn fanteisiol iawn gan fy mod i’n ddysgwr gweledol.”

Er ei bod wedi wynebu rhai heriau yn ystod ei hastudiaethau, dywedodd Samantha ei bod wedi bod yn ffodus i gael rhwydwaith cymorth ardderchog o fewn DHCW yn ogystal â staff cymorth graddau digidol yn Y Drindod Dewi Sant a’i theulu.  

Meddai: “Mae’r cymorth hwn wedi fy helpu i oresgyn yr heriau hyn. I mi, yr her fwyaf oedd jyglo fy amser; mae cael teulu ifanc a chymryd swydd amser llawn wedi golygu bod rhaid i mi gynllunio fy amser yn ofalus iawn er mwyn sicrhau bod gen i gydbwysedd rhwng gwaith, astudio, a bywyd.

“Er bod amseroedd pan roedd hi’n dreth arna i, roedd fy nghydweithwyr a’m swyddog cyswllt  yn fy annog yn barhaus i fynd drwy’r amseroedd anodd a gweld y budd yn y pen draw. “

Dywedodd Samantha y byddai’n argymell y cwrs i’r rhai sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau, gwella eu gwybodaeth a datblygu eu gyrfa.

“Er ei bod hi’n ymddangos o’r tu allan fod y cwrs hwn yn canolbwyntio ar sgiliau technegol a gwybodaeth, rwy’n teimlo fy mod i wedi datblygu llawer o  sgiliau eraill y  galla i eu trosglwyddo a’u defnyddio yn fy rôl, er enghraifft sgiliau adrodd ac ysgrifennu,” ychwanegodd.

Mae Samantha, a fydd yn graddio haf nesaf, hefyd yn canmol Y Drindod Dewi Sant am ei helpu i sicrhau rôl newydd yn y Ddesg Wasanaeth.

“Rwy’n gobeithio y ca i gyfle i ddefnyddio llawer o’r sgiliau rwy newydd eu dysgu a chael effaith gadarnhaol ar y gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu i’n cwsmeriaid a’n cleifion sy’n defnyddio’r GIG,” meddai.

“Mae’r radd prentisiaeth ddigidol wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi o ran fy ngyrfa. Mae wedi rhoi’r hyder i mi ymgeisio am swyddi newydd yn y GIG ac wedi dysgu llawer o sgiliau newydd i mi. Dwi hefyd yn teimlo bod y cwrs hwn wedi gwella fy hyder ar lefel bersonol.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau