Skip page header and navigation

Mae Cronfa Dreftadaeth Y Werin Prifysgol Cymru wedi dyfarnu ei gwobrau blynyddol.

Adeilad CAWCS yng Nghaerfyrddin.

Cyflwynwyd Gwobr Hywel Dda 2022 i Dr Sara Elin Roberts am ei chyfrol The Growth of Law in Medieval Wales, c.1100–c.1500 (Boydell & Brewer, 2022). Dyfarnwyd Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith 2022 i Dr Gareth Evans-Jones am ei gyfrol, ‘Mae’r Beibl o’n tu’: Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838–1868) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2022).

Mae Dr Saran Elin Roberts yn gwenu’n llydan ac yn gwisgo sgarff goch dros dop glas.

Mae Dr Sara Elin Roberts (DPhil Rhydychen) yn hanesydd sydd yn awdurdod ar Gyfraith Hywel a diwylliant Cymru a’r Mers o’r ddeuddegfed i’r bymthegfed ganrif. Yn ogystal â’i gwaith ar y cyfreithiau, mae hi hefyd wedi gweithio ar Dafydd ap Gwilym, yr enwocaf o’r beirdd Cymraeg canoloesol. 

Yn ogystal â chyfrannu at y golygiad newydd o’i gerddi a gyhoeddwyd yn 2010, mae hi hefyd wedi cyhoeddi astudiaethau unigol ar wahanol agweddau o’i waith. Rhai o’i chyhoeddiadau nodedig ym maes Cyfraith Hywel yw Llawysgrif Pomffred: An Edition and Study of Peniarth MS 259B (‘Medieval Law and its Practice Series’, Brill, 2010), The Legal Triads of Medieval Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007; ailargraffiad 2011), a The Growth of Law in Medieval Wales, c.1100–c.1500 (Boydell & Brewer, 2022). Cafodd ei hethol yn Gymrawd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru eleni.

Meddai Dr Roberts: “Mae’n bleser mawr gen i dderbyn Gwobr Hywel Dda eleni, ac mae’n fraint dilyn yn ôl traed cymaint o ysgolheigion o bwys ym maes astudiaethau ar y cyfreithiau. Diolch o galon i’r pwyllgor am eu geiriau caredig ac am eu holl gefnogaeth.”

Daw’r wobr hon o incwm cronfa a godwyd drwy danysgrifiadau cyhoeddus i goffáu milflwyddiant Hywel Dda ym 1928.

Ffotograff du a gwyn o Dr Gareth Evans-Jones gyda chaeau’n ymestyn i’r gorwel tu ôl iddo.

Enillydd Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith yw Dr Gareth Evans-Jones sydd yn ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Astudiodd am radd BA mewn Cymraeg ac Astudiaethau Crefyddol, MA mewn Ysgrifennu Creadigol Cymraeg a doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, a ffrwyth ei ymchwil ddoethurol, a gwblhaodd dan arweiniad yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Emeritws Eryl Wynn Davies, yw ‘Mae’r Beibl o’n tu’: Ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth, 1838–1868’ (Gwasg Prifysgol Cymru, 2022). Ynghyd â bod yn academydd, mae Gareth yn llenor sy’n ysgrifennu rhyddiaith, drama a barddoniaeth. 

Mae wedi cyhoeddi dwy nofel, sef Eira Llwyd (Gwasg y Bwthyn, 2018) ac Y Cylch (Gwasg y Bwthyn, 2023); wedi llunio cyfrol o lên feicro a ffotograffau, Cylchu Cymru (Y Lolfa, 2022), a enillodd wobr Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn 2023; ac wedi golygu’r flodeugerdd gyntaf o lenyddiaeth LHDTC+ yn y Gymraeg: Curiadau (Barddas, 2023). Yn ogystal, mae wedi ennill rhai gwobrau am ei waith sgriptio, gan gynnwys Medal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2019 a 2021, ac wedi llunio dramâu yn cynnwys Adar Papur (2020) ac Ynys Alys (Frân Wen, 2022).

Meddai Dr Evans-Jones: “Rydw i wedi cael sioc enfawr o dderbyn y wobr hynod yma. Roedd llunio’r thesis doethurol oedd yn sail i’r llyfr dan arweiniad dau ysgolhaig eithriadol, ac yna gydweithio â Gwasg Prifysgol Cymru ac Aled Llion Jones, yn werthfawr iawn, ac mae clywed fod y Gronfa wedi dyfarnu ‘Mae’r Beibl o’n tu’ yn deilwng o’r wobr yn deimlad tu hwnt i eiriau. Diolch o waelod calon i bawb oedd yn rhan o’r broses ddyfarnu. Mae hyn yn hwb enfawr ac rydw i’n eithriadol ddiolchgar.”

Cyflwynir y wobr yn flynyddol o Gronfa Ellis-Griffith yn enw Prifysgol Cymru ar gyfer y cyhoeddiad gorau yn y Gymraeg sy’n ymdrin â llenorion, arlunwyr neu grefftwyr Cymraeg neu eu gweithiau. Daw’r Wobr o gronfa a godwyd i gofio enw’r diweddar Wir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis-Griffith MA KC PC (1860–1926), a fu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Fôn. 

Meddai Dr Stuart Robb ar ran Prifysgol Cymru: “Mae Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith a Gwobr Hywel Dda yn parhau i fod yn ffordd bwysig o annog, meithrin a dathlu ymchwil academaidd i’n hanes a’n diwylliant. Rydym yn falch iawn fod y gwobrau eleni wedi cydnabod cyfraniadau sylweddol i ddealltwriaeth o hanes cyfreithiol Cymru a hanes y Cymry alltud. Ar ran yr Ymddiriedolwyr, hoffwn longyfarch Dr Gareth Evans-Jones a Dr Sara Elin Roberts ar eu llwyddiant.”

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones ar ran y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd: “Hoffem longyfarch y Dr Sara Elin Roberts a’r Dr Gareth Evans-Jones yn wresog iawn ar ennill y gwobrau nodedig hyn sy’n cydnabod eu cyfraniadau gwerthfawr i ysgolheictod yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Hoffwn ddiolch i’n beirniaid am eu gwaith trylwyr ac i’r Ymddiriedolwyr am eu cefnogaeth barhaus.”

Ataliwyd Gwobr Goffa Vernam Hull 2022.

Nodyn i’r Golygydd

Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk 

1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.

2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk 

3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru:.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau