Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi ei chanmol am fod yn “brifysgol flaengar sydd ag ysbryd cymdogaethol” yn ei menter Cwpwrdd Cymunedol newydd.

Yr Athro Elwen Evans a Carolyn Harris AS yn sefyll dan wenu gyda chwe menyw arall.

Mae’r Cwpwrdd Cymunedol, a lansiwyd heddiw, dydd Gwener, 2 Chwefror, gan Carolyn Harris, AS, yn galluogi pobl i gyfrannu nwyddau cartref diangen er mwyn i eraill eu defnyddio.

Gellir cyfrannu’r eitemau, sy’n cynnwys offer a thaclau’r gegin, celfi meddal, yn ogystal â nwyddau trydanol, yn unrhyw un o adeiladau’r Brifysgol yn Abertawe ac yna cânt eu cymryd i’r Cwpwrdd Cymunedol sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Dylan Thomas. Yna, caiff yr eitemau eu gwirio i wneud yn siŵr eu bod yn lân ac yn saff i’w defnyddio drwy gynnar prawf PAT yn achos nwyddau trydanol.

Mae’r eitemau yn cael eu rhoi yn rhad ac am ddim a gellir eu casglu o Ganolfan Dylan Thomas o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm. Mae drysau’r cwpwrdd ar agor i bawb yn arbennig unigolion a theuluoedd sy’n straffaglu gyda chostau byw.

Mynychwyd y lansiad gan gynrychiolwyr o Cymunedau dros Waith a Mwy, Crisis, Fair Share, Student Roost, Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed, ynghyd â gwirfoddolwyr o gymunedau a grwpiau chwarae lleol.

Daeth y syniad am y cwpwrdd cymunedol yn sgil sgwrs gyda Michelle Treasure, Goruchwylydd Gweithrediadau’r Brifysgol sydd hefyd yn gweithio fel Swyddog Ymgysylltu a Chymorth Cymunedol yn y Tîm Trechu Tlodi yng Nghyngor Abertawe, a Kate Williams, Pennaeth Cynaliadwyedd PCYDDS, Sam Bowen, Rheolwr Ehangu Mynediad a Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd Academi Golau Glas PCYDDS.

Wrth lansio’r Cwpbwrdd Cymunedol canmolodd Carolyn Harris, AS, y Brifysgol am ei hymroddiad i ehangu mynediad i addysg uwch ac am weithio gyda chymunedau er mwyn gwneud gwahaniaeth. Dywedodd:

“Mae’n bleser gen i lansio’r Cwpwrdd Cymunedol ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

“Gyda mwy a mwy o bobl yn wynebu trafferthion ariannol, bydd hwn o fantais enfawr i’n cymuned – gan leihau gwastraff a helpu’r rheiny ar gyllidebau tyn i gael eitemau cartref yn lle rhai hen neu sydd wedi torri.

“Diolch o galon i ti Michelle a’r tîm, am ddatblygu’r fenter gynaliadwy anhygoel hon”.

Ychwanegodd Yr Athro Elwen Evans, KC, Is-Ganghellor:

“Rwy’n falch iawn bod y fenter hon wedi cael croeso mor gynnes. Mae’n enghraifft o’r ffordd mae staff y Brifysgol yn gwneud gwahaniaeth i deuluoedd a chymunedau ein hardal. Mae’r fenter hon wedi tyfu o frwdfrydedd rhai unigolion a oedd eisiau helpu eraill. Canlyniad caredigrwydd, tosturi a gofal yw’r fenter ac mae’r Brifysgol yn hynod o hapus i gefnogi’r fenter ragorol hon”.

Mae’r fenter yn dilyn cynllun tebyg a lansiwyd ar draws campysau’r Brifysgol lle cafodd eitemau cegin a gafodd eu gadael ar ôl yn llety’r brifysgol eu rhoi i fyfyrwyr oedd yn dechrau eu taith yn PCYDDS. Roedd Y Llyfrgell Pethau yn fenter ar y cyd rhwng Timau Cynaliadwyedd, Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu a Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol ac fe fu’n boblogaidd iawn gan fyfyrwyr a staff.

Sylweddolodd Michelle y gellid ailddefnyddio eitemau eraill nad oedd eu hangen mwyach hefyd yn hytrach na’u taflu ac felly gofynnodd am helpu ei chydweithwyr i adnabod eitemau addas a chyn dim tyfodd y syniad yn Gwpwrdd Cymunedol, gyda’r staff gweithrediadau a myfyrwyr yn gwirfoddoli i ofalu am yr adnodd.

Dywed Michelle Treasure:

“Mae gweithio i’r Brifysgol wedi addysgu cymaint i fi ac rwy’n falch bod y Cwpwrdd Cymunedol bellach ar waith. Bu sefydlu’r Cwpwrdd yn ymdrech tîm gwych, a’r peth da yw ein bod yn gallu helpu pobl. Mae mannau casglu ym mhob un o adeiladau PCYDDS Abertawe er mwyn i bobl allu cyfrannu eu nwyddau diangen. Rydym yn hapus i gymryd unrhyw eitemau glân nad ydynt yn ddarfodus y gall bobl eu hailddefnyddio.

“Mae staff a myfyrwyr PCYDDS wedi bod yn hael wrth gyfrannu, ac rydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth.

Meddai Bronwen Williams, Cyfarwyddwr Academaidd Academi Golau Glas y Brifysgol:

“Yn ei dwy rôl, mae Michelle wedi adnabod angen am rywle i gyfrannu a chasglu nwyddau cartref ac fel tîm gwnaethom ein gorau i feddwl am ateb y gallai’r Brifysgol ei roi ar waith.

“Rydym yn deall bod pobl yn wynebu llawer o bwysau ar hyn o bryd gan gynnwys ymdrin â’r argyfwng costau byw, trafferthion ffoaduriaid sy’n ceisio lloches yn Abertawe, yr angen i fyfyrwyr ddodrefnu fflatiau a thai pan fyddant yn dod i’r brifysgol, felly roeddem am greu lle i bobl gyfrannu nwyddau gan wybod eu bod yn mynd yn syth i bobl sydd eu hangen, a rhywle i’r rheiny sydd eu hangen ddod i’w casglu’n rhad ac am ddim.

“Hefyd, mae’r Cwpwrdd Cymunedol yn helpu i gefnogi agenda cynaliadwyedd y Brifysgol drwy leihau gwastraff trwy ailddefnyddio ac ailgylchu nwyddau cartref.”

Michelle Treasure gyda dau aelod o’i thîm.

Eisoes, mae nifer o unigolion a grwpiau wedi elwa o’r cynllun, gan gynnwys Mandy Fairhead, Swyddog ASD yn Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed. Meddai:

“Diolch o galon am y cyfraniad caredig o feiros a pheli o’r Cwpwrdd Cymunedol i’r disgyblion ADY yn ysgol Cefn Hengoed. Roedd y disgyblion wrth eu bodd, ac rydym yn ddiolchgar iawn am eich caredigrwydd.”

Mae Rachel Hart yn unigolyn arall sydd wedi manteisio ar y Cwpwrdd Cymunedol yn barod, cyn cychwyn ei busnes gofal plant ei hun. Meddai:

“Alla’i ddim diolch digon i chi. Casglais dŷ dolis a thegan VTech ar gyfer babis i fy helpu i sefydlu’r busnes gofal plant. Mae wedi bod yn ddefnyddiol iawn wrth gychwyn fy musnes o’r newydd It has been very useful to set up my new business from scratch. Mae’r ffordd mae’r busnes wedi cael ei sefydlu yn bwysig er mwyn gwella cydbwysedd gwaith a bywyd teuluol ac mae’r gefnogaeth wedi bod yn gymorth anferthol. Fedra’ i ddim credu pa mor gyfeillgar mae pawb wedi bod ac yn barod i help am ddim. Heb yr hwb fyddwn i ddim wedi gallu agor mor gynnar. Mae wedi bod yn gymorth mawr!”

Meddai Janette Thorne, Tîm Teuluoedd Cyngor Abertawe:

“Casglais amrywiaeth o eitemau am ddim oedd i gyd yn ail-law ond mewn cyflwr da. Cymerais yr eitemau i un o’r teuluoedd rwy’n gweithio gyda nhw, ac roedden nhw wedi eu rhyfeddu gan yr eitemau. Dydw i ddim yn siŵr pwy oedd mwyaf cyffrous! Trwy gynllun arloesol y Brifysgol a chyfraniadau hael, mae’r teulu hwn sy’n straffaglu ar hyn o bryd, wedi’u plesio’n fawr.

“Mae’n amlwg bod PCYDDS yn brifysgol flaengar sydd ag ysbryd cymdogaethol, gan ei bod wedi sefydlu’r cynllun anhygoel hwn.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau