Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau gyhoeddi bod preswyliadau cyfnewid Ulysses’ Shelter rhwng awduron o Gymru ac Ewrop wedi dechrau, wrth i Esyllt Angharad Lewis deithio i Valetta ym Malta, a Marek Torčík ac Ajda Bračič o’r Weriniaeth Tsiec a Slofenia baratoi i ymweld â Chaernarfon.

Pedwar portread o bobl ym mhrosiect cyfnewid Ulysses’ Shelter sydd wedi cyfnewid preswyliadau ar gyfer Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau.

Prosiect cydweithredol yw Ulysses’ Shelter a gyd-ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd ac sy’n anelu at adeiladu rhwydwaith o gyfnodau preswyl cyfnewid i awduron a chyfieithwyr llenyddol newydd addawol ar draws Ewrop. Fe’i lansiwyd yn 2016 gyda thri phartner, ac mae bellach yn cynnwys wyth gwlad: Croatia, y Weriniaeth Tsiec, Gwlad Groeg, Malta, Serbia, Slofenia, Sbaen (Mallorca) a Chymru, y DU.

Yn 2022 cyhoeddwyd blodeugerdd o gyfieithiadau Saesneg o gerddi, straeon ac ysgrifau a ddeilliodd o fersiwn diwethaf y prosiect yr effeithiwyd arno’n rhannol gan bandemig Covid-19. Mae Ulysses’ Cat (Parthian) yn cynnig cipolwg ar y materion oedd yn gyffredin i ac yn gyrru’r 30 o awduron a gymerodd ran ac mae’n cynnwys gwaith y chwe llenor o Gymru, Eluned Gramich, Steven Hitchins, Grug Muse, Morgan Owen, Lloyd Markham a Rebecca Thomas, a oedd naill ai wedi teithio i Ewrop neu oedd â phreswyliadau digidol yn ystod y rhaglen.

Dywedodd Morgan Owen am ei gyfnod preswyl ar ynys Mljet, Croatia: “Ysgrifennais lawer yno, a chael fy nghyfareddu ganwaith, ond mae’r profiad a’r awyrgylch wedi aros gyda fi, gan roi egni neilltuol i’m hysgrifennu. Mae rhaglenni a phrosiectau fel y rhain gan LLAFFyn anhepgor i lenyddiaeth.”

Yn dilyn galwad agored ym mis Awst, dewiswyd dau awdur o Gymru, Esyllt Angharad Lewis a Ruqaya Izzidien, i gymryd rhan yn y rhaglen eleni, a Malta oedd dewis y ddwy fel lleoliad eu preswyliadau. Mae Esyllt, artist amlgyfrwng sy’n byw yng Nghaerdydd, newydddychwelyd o Valletta, lle bu’n ystyried y tebygrwydd rhwng Cymru a Malta fel gwledydd dwyieithog ôl-drefedigaethol gan gyfieithu llyfryn A Manifesto for Ultratranslation i’r Gymraeg yn ystod ei harhosiad.

“Roedd cael dod i Malta ar breswyliad Ulysses’ Shelter 3 yn brofiad arbennig iawn, â minnau erioed wedi bod yno o’r blaen, nac ar breswyliad tramor,” meddai Esyllt. “Dwi wedi cwrdd â phobl ddifyr a chymwynasgar iawn a dwi’n edrych ymlaen i weld sut effaith y bydd y preswyliad yn ei gael ar fy ymarfer sgwennu, cyfieithu a chelf am flynyddoedd i ddod. Diolch rhyfeddol am y cyfle.”

Trwy gyd-ddigwyddiad hapus roedd awdur arall o Gymru, Eric Ngalle Charles, a aned yn Cameroon, yn Valetta ar yr un pryd – gwaddol o’r bartneriaeth hirsefydlog rhwng Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau a’r sefydliad diwylliannol Maltaidd Inizjamed sy’n cynnal preswyliad Malta.

“Llysgenhadon diwylliannol ydym ni,” meddai Eric. “Rwy’n falch o fod yma, yn cynnal gweithdai ysgrifennu, a hir y parha’r gwaith hwn rhwng Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Inizjamed a Chyngor Celfyddydau Malta.”

Mae Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu Marek Torčík o’r Weriniaeth Tsiec ac Ajda Bračič o Slofenia i Gaernarfon ar 11 Mai ar gyfer eu cyfnodau preswyl o bythefnos. Cânt gyfle i gwrdd â llenorion Cymru, cymryd rhan mewn digwyddiadau llenyddol ac archwilio treftadaeth lenyddol gyfoethog y wlad.

Cyhoeddir yr alwad agored am y set nesaf o breswyliadau ar Fai 17eg a bydd yn cynnwys y cyfle i awduron sgrin adadwol  o Gymru i wneud cais am gyfnod preswyl ym Mallorca ym mis Hydref 2023.

Yn ôl Alexandra Büchler, cyfarwyddwr Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, “Mae prosiect Ulysses’ Shelter yn gyfle gwych i ddod ag awduron o wahanol ddiwylliannau a thraddodiadau llenyddol ynghyd ac archwilio sut y gallant gyfoethogi gwaith ei gilydd. Rydyn ni wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda grŵp mor dalentog ac amrywiol o awduron ac yn edrych ymlaen at y cydweithredu a’r sgyrsiau fydd yn deillio o’r prosiect hwn.”

Cyswllt: Nici Beech nici@lit-across-frontiers.org, Alexandra Buchler  alexandra@lit-across-frontiers.org

Nodyn i’r Golygydd

1. Mae prosiect Ulysses’ Shelter yn rhan o ymdrechion parhaus Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i hyrwyddo cyfnewid diwylliannol a chydweithio rhwng awduron o wahanol wledydd a rhanbarthau. Ariennir y prosiect gan raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd.

2. Mae’r flodeugerdd Ulysses’ Cat, a olygwyd gan Alexandra Büchler ac a gyhoeddwyd gan Wasg Parthian, ar gael i’w brynu am £10 mewn llawer o siopau llyfrau annibynnol.

3. Yn ystod ei chyfnod preswyl, mae Ruqaya yn bwriadu ysgrifennu stori fer wedi ei gosod yn Valletta yn ystod y cyfnod y bu Malta dan reolaeth Arabaidd. Bu’n ymddiddori ers amser hir yn yr hanes Maltaidd-Arabaidd a rennir a’u hagosrwydd yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol, a bydd y preswyliad hwn yn gyfle iddi ddysgu mwy am ddiwylliant Malta, cwrdd ag awduron lleol, rhannu profiadau a chyfnewid gwybodaeth am ein cymunedau a’n hanesion ein gilydd. Mae hi hefyd yn edrych ymlaen at rannu ei gwaith ysgrifennu a’i phrofiad ei hun gyda chynulleidfaoedd lleol, gan adeiladu pont rhyngddynt a straeon o Gymru.

4. Mae Esyllt am weithio ar ysgrifennu newydd o gwmpas cyfieithu – gan ehangu’r ymchwil a ddechreuodd ar ei chwrs celfyddydau gweledol sy’n archwilio statws a natur cyfieithu rhwng cyfryngau artistig. Wrth ddewis Valletta, dinas a ddisgrifir fel ‘amgueddfa awyr agored, llawn henebion’, hoffai ystyried sut mae iaith yn bodoli yn y gofod hwn mewn perthynas â’i bensaernïaeth hanesyddol a sut mae hyn yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn meddwl am ‘beth sy’n bosibl/amhosibl ei wneud gydag iaith’.

5. Mae prosiect Ulysses’ Shelter yn rhan o ymdrechion ehangach Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau i hyrwyddo amlieithrwydd a chyfieithu mewn llenyddiaeth. Mae’r sefydliad yn gweithio i gefnogi awduron a chyfieithwyr, hwyluso digwyddiadau a phreswyliadau llenyddol, a hyrwyddo cyfnewid llenyddol a chydweithio ar draws ffiniau.

6. Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau yw’r llwyfan Ewropeaidd ar gyfer cyfnewid llenyddol, cyfieithu a dadlau polisi a sefydlwyd yng Nghymru gyda chefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd yn 2001. Cewch fwy o wybodaeth am LAF yma.

7. Mae LAF wedi ei leoli yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru sydd ger y Llyfrgell Genedlaethol ac yn rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cefnogir gweithgareddau LAF gan Gyngor Celfyddydau Cymru a chyllidwyr eraill.

8. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil bwrpasol sy’n cynnal prosiectau i dimau ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Fe’i lleolir yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n llyfrgell hawlfraint enwog yn rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil ardderchog.

9. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig weithio ochr yn ochr ag arbenigwyr mewn amgylchedd sy’n ddeinamig a chefnogol. Rydym yn croesawu ymholiadau am bynciau MPhil/PhD yn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd ymchwil, neu am sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-radd, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau