Skip page header and navigation

Mae cwblhau taith bedair blynedd ar brentisiaeth uwch ar yr un pryd â rheoli rôl beirianyddol amser llawn gyda sefydliad byd-eang, wedi tanio brwdfrydedd dros reoli prosiectau i Amy Evans, sydd yn y rownd derfynol i ennill gwobr.

Amy Evans yn sefyll o flaen casgliad cymhleth o beipiau metel a deialau.

Bellach mae Amy yn beiriannydd prosiect cymwysedig gyda Zimmer Biomet, arweinydd byd-eang ym maes technoleg feddygol, ac mae wedi ennill cydnabyddiaeth am ddynodi gwelliant gweithgynhyrchu a fydd yn arbed £180,000 y flwyddyn ac yn lleihau’r defnydd o sylweddau seiliedig ar doddyddion.

Cwblhaodd Amy ei Gradd-brentisiaeth mewn Uwch Weithrediadau Gweithgynhyrchu (BEng) gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gynharach eleni.  Mae’n dweud mai’r dysgu seiliedig ar waith yw’r rheswm pam y cafodd hi’r hyder i ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau, gan arwain a rheoli prosiectau sy’n cyfrannu at lwyddiant cyffredinol y cwmni.

Nawr, mae Amy wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer rownd derfynol Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2024.

Y gwobrau yw uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith. Maent yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.  Y noddwr pennaf yw EAL.

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni wobrwyo sydd i’w chynnal yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024.  Mae’r gwobrau’n rhoi sylw i gyflawniadau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

“Mae ymgymryd â’r brentisiaeth wedi gwella fy hyder a hunan-barch yn sylweddol, ac wedi agor drysau ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol,” meddai Amy.

“Wrth i mi ennill sgiliau newydd a gwybodaeth, mae fy hyder yn fy ngalluoedd wedi tyfu.  Bellach rwy’n dod at brosiectau a heriau ag ymdeimlad uwch o sicrwydd ac rwyf wedi dod yn fwy rhagweithiol o ran ymgymryd â thasgau newydd.”

Yn sicr mae’i chynnydd wedi tynnu sylw, gyda’r cwmni’n rhoi clod i Amy am wella eu proses reoli prosiectau, gan arwain at well amlygrwydd, cyfathrebu, tracio ac adrodd nôl i gefnogi prosiectau cyfredol a gwella paratoadau am waith yn y dyfodol.

“Mae’r ymrwymiad a ddangosodd Amy i gwblhau’i phrentisiaeth tra oedd â rôl beirianyddol amser llawn mewn sefydliad mor brysur i’w ganmol, am ei bod wedi ymdrin yn rheolaidd â galwadau gwaith ar frys, dyddiadau terfyn y coleg ac arholiadau,” meddai Christian Teague, Rheolwr Prosiect Gweithrediadau.

“Rwy’n meddwl bod ei phrentisiaeth wedi atgyfnerthu’i dewis o ran gyrfa o fewn peirianneg ac wedi tanio brwdfrydedd go iawn am reoli prosiectau.  Mae’r ymrwymiad, penderfyniad a thwf a ddangosodd Amy gydol y broses hon yn fy ngwneud i’n falch iawn i’w chael hi’n rhan o’m tîm.”

Llongyfarchodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, Amy a phawb arall yn y rownd derfynol.

“Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gadael i ni gydnabod prentisiaid, ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, a chyflogwyr sydd wedi mynd tu hwnt i’r gofyn.  Mae’u dycnwch, brwdfrydedd, ac ymrwymiad i wella eu gyrfa eu hun, gyrfaoedd pobl eraill, ac economi Cymru yn ehangach, yn ysbrydoli.  Rwy’n dymuno’r gorau yn y gwobrau a gyda’u hymdrechion yn y dyfodol i bob un sydd yn y rownd derfynol.”

Gan longyfarch y rheini yn y rownd derfynol, meddai Al Parkes, Rheolwr Gyfarwyddwr yn EAL: “A ninnau’n sefydliad gwobrwyo arbenigol a phartner sgiliau i’r diwydiant peirianneg a gweithgynhyrchu, mae prentisiaethau yng Nghymru yn arbennig o bwysig i ni.  Mae prentisiaethau’n chwarae rôl bwysig o ran cefnogi cynnydd personol drwy gyfleoedd gyrfa ac ymdeimlad o gyflawniad, ac ar yr un pryd yn sicrhau bod cyflogwyr â’r sgiliau iawn ar yr adeg iawn i gadw’n gyfredol ag anghenion sy’n dod i’r amlwg yn y diwydiant.  Mae EAL wedi ymrwymo i annog cyflogwyr i gymryd prentisiaid ymlaen.  Mae nodi cyflawniadau cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn hollbwysig ar gyfer hyn.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau