Skip page header and navigation

I gydnabod Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth ddydd Sadwrn 11eg Chwefror, cynhaliwyd diwrnod o weithgareddau â gogwydd benywaidd i ferched ysgol gan dîm o staff o gampws Glannau Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), er mwyn rhoi profiad ymarferol o gyrsiau a gyrfaoedd mewn TG a STEM, a chyflwyniad iddynt.

Deuddeg merch yn eu harddegau, rhai yn dal siasïau car model, yn gwenu tuag at y camera.

Fe wnaeth 45 disgybl rhwng 12 a 18 oed fynychu o Ysgol Bae Baglan ac Ysgol Gyfun Olchfa, a chawsant eu trochi mewn gweithgareddau a oedd yn cynnwys adeiladu ceir rasio bychain, arbrofi â seiberddiogelwch a hacio moesegol, dylunio Gemau a gyrru efelychydd car rasio o’r radd flaenaf y Brifysgol. Nod pob un o weithgareddau a darlithoedd y diwrnod oedd hyrwyddo menywod mewn STEM a rhoi enghreifftiau i’r merched ysgol o fodelau rôl benywaidd llwyddiannus i’w hedmygu.

Yn ystod y prynhawn, cafodd rhai o’r merched, ochr yn ochr â myfyrwyr a staff presennol PCYDDS, glywed gan un model rôl o’r fath, Rachel Hogg, cyn-fyfyriwr o PCYDDS sydd bellach yn Rheolwr Cynnyrch Byd-eang ar gyfer Electric Range Rover yn Jaguar Land Rover.

Gan gyfarch y merched, meddai Rachel: “Byddwn i’n dweud wrth unrhyw ferched neu fenywod mewn pynciau peirianneg neu STEM: mae eich llais, eich safbwynt, eich cefndir a’ch sgiliau’n werthfawr iawn yn y byd gwaith. Yn y diwedd, gwneud cynhyrchion i’w gwerthu i boblogaeth y byd y mae Jaguar Land Rover, felly mae safbwynt benywaidd yn andros o bwysig.

“Fy nghyngor i, a’r cyngor gan uwch arweinwyr benywaidd yn y busnes, yw ‘byddwch yn chi eich hun’. Dewch â’ch hunan cyfan i’r gwaith bob dydd, a dylech godi eich llais a bod yn falch o gyflwyno eich barn. Os ydych chi’n dda yn eich gwaith a bod gennych y cymhelliant i lwyddo, fe fyddwch, ac fe allwch.

Gyda’r bwriad o rymuso, rhoi gwybodaeth a chefnogi merched i ddarganfod eu potensial mewn llwybrau gyrfa STEM a TG, roedd y digwyddiad hwn hefyd yn rhan o gyfres Ehangu Mynediad bresennol y Brifysgol, ‘Merched mewn TG’, sydd eisoes wedi rhoi cyfle i fwy na 200 o ferched ysgol brofi cyfleusterau eithriadol y Brifysgol a chlywed gan siaradwyr arbenigol.    

Rachel Hogg yn sefyll wrth ochr Range Rover o flaen Adeilad IQ.

Sefydlwyd y fenter mewn ymateb i ymchwil gan Ymgyrch WISE a amlygodd fod gweithwyr TG benywaidd proffesiynol yn cyfrif am ddim ond 21% o weithlu Technoleg cyfan y DU yn 2021, a Pheirianwyr benywaidd yn cyfrif am ddim ond 12.5%, gan ddangos yr angen am fwy o anogaeth i fenywod a merched ymuno â’r meysydd hyn.

Mae timau Ehangu Mynediad a Recriwtio Myfyrwyr y Brifysgol yn cydweithio i ddarparu gweithgareddau i blant oed ysgol a choleg ledled Cymru, i’w helpu i wireddu eu potensial yn llawn a gwneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol. Meddai Samantha Bowen, Rheolwr Ehangu Mynediad: “Mae’r gyfres gyffrous hon o ddigwyddiadau’n rhoi modelau rôl i bobl ifanc ac yn codi ymwybyddiaeth o ystod eang o gyfleoedd STEM ar adeg allweddol yn eu taith addysgol.

“Mae’r nifer o fynychwyr sydd bellach yn ystyried gyrfa mewn STEM nad oeddent wedi ystyried hynny’n flaenorol, ac y mae’r syniad o yrfa o’r fath yn eu cyffroi, yn profi bod gwir angen am ddiwrnodau fel hyn. Mae’r digwyddiadau hyn yn atgyfnerthu’r neges fod menywod yn hanfodol ar gyfer atebion technoleg ac arloesi’r dyfodol ac y gallant fod yn hynod lwyddiannus mewn STEM – rydym am weld mwy o ferched yn pontio o’r ysgol i gyrsiau a swyddi STEM.”

Meddai Joanne Cooper, Arweinydd Arloesi, Dysgu Digidol a Busnes yn Ysgol Bae Baglan: “Roedd y diwrnod yn gyfle i’r disgyblion ddysgu a deall pob agwedd ar STEM, o yrfaoedd mewn adeiladu, seiberddiogelwch, gwyddor yr amgylchedd a’r diwydiant gemau. Fe wnaeth pob disgybl fwynhau’r profiad yn fawr, ac maen nhw’n llawn cyffro i ddilyn gyrfaoedd STEM yn y dyfodol. Hoffai Ysgol Bae Baglan ddiolch i PCYDDS am y cyfle anhygoel hwn a byddem yn argymell y digwyddiad hwn yn fawr.”

Ychwanega Danielle Blythe, Athro Ffiseg o Ysgol Olchfa: “Roedd trochi ein disgyblion blwyddyn 12 mewn amgylchedd STEM hynod gyffrous, yng nghanol modelau rôl positif, yn ffordd wych o ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn STEM.

“Dychwelodd y merched i’r ysgol yn llawn brwdfrydedd am y syniad o ddilyn astudiaethau STEM ar ôl cael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu a datrys problemau. Diolch yn fawr i chi am y gwaith caled a’r trefnu a wnaed ar gyfer y diwrnod. Rydym yn argymell y profiad hwn i ysgolion eraill â’n holl galon.”

Meddai Sophie Williams, disgybl yn Ysgol Bae Baglan: “Roedd hi’n brofiad anhygoel a ganiataodd i mi ystyried fy nyfodol mewn dylunio a rhaglennu gemau. Dysgais lawer am yrfaoedd mewn STEM a sut y gallwn ddefnyddio fy sgiliau i fod yn llwyddiannus yn y maes hwn. Roedd y cyfleusterau yn y Brifysgol yn anhygoel a byddwn wir yn hoffi mynychu yno pan fyddaf yn hŷn.”

Dwy ferch ysgol yn eistedd wrth ddesg, un yn dal pad rheoli.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau