Skip page header and navigation

Mae Myfyriwr MA Perfformio o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael y cyfle i bortreadu Barti Ddu gyda chwmni theatr ‘Mewn Cymeriad’. 

David yn sefyll yn ei wisg fel Barti Ddu

Bydd David Harding yn ymgymryd â’r her o bortreadu Barti Ddu yng nghynhyrchiad diweddara’ cwmni theatr ‘Mewn Cymeriad’. Pwrpas cynhyrchiadau’r cwmni yw addysgu plant am gymeriadau a straeon o hanes Cymru drwy ddarparu sioeau rhyngweithiol i ysgolion mewn ffordd addysgiadol ac adlonianol. Mae gan y cwmni ystod eang o gyflwyniadau dramatig ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, yn blant ac oedolion, oll yn canolbwyntio ar gymeriad neu stori o hanes Cymru – o gyfnod y Celtiaid i gofnodi 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae David ar hyn o bryd yn astudio MA Theatr: Perfformio, cwrs unigryw sydd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr firenio eu sgiliau perfformio. Yn y modiwl arbennig hwn mae disgwyl i’r myfyrwyr wneud cyfres o berfformiadau cyhoeddus. Yn dilyn sgwrs gyda chwmni Mewn Cymeriad daeth y cyfle arbennig hwn i gydweithio i roi cyfle i fyfyriwr bortreadu cymeriad a chwblhau y modiwl mewn cydweithrediad â’r cwmni. Penderfynwyd mai Barti Ddu fyddai’r cymeriad addas i David ymgymryd ag ef. 

Mae David yn edrych ymlaen at ymgymryd â’r her. Dywedodd:

“Mae’n ffordd wych o weithio ar y technegau yr wyf wedi’u datblygu yn ystod fy astudiaethau yn y brifysgol, a gwneud rhain ar fy mhen fy hun yn hytrach na chast. Roedd yn teimlo braidd yn frawychus ar y dechrau gan y byddwn yn gwneud y sioe ar un dyn heb actor arall fel cefnogaeth. 

“Mae’n ffordd arbennig i mi ymddiried ynof fy hun ac yn fy ngwaith i lwyddo mewn perfformiad yn enwedig i blant lle mae angen cymaint o egni i’w cadw i ymgysylltu â’r stori. Dydw i erioed wedi gwneud sioe i blant chwaith o’r blaen felly mae hynny’n brofiad hollol newydd.”

Edrycha David ymlaen at bortreadu Barti Ddu, ac i ddysgu ychydig o’i hanes i’r plant fydd yn gwylio. Ychwanegodd:

“Mae’n her hollol newydd i mi ac ni allaf aros am her a gweld fy hun yn tyfu drwy’r profiad.”

Dywedodd David fod y cwrs MA Perfformio wedi ei gynorthwyo’n helaeth tra’n paratoi ar gyfer y cynhyrchiad. Meddai: 

“Mae’r dawnsio wedi fy helpu i gadw stamina ac egni i fyny am amser hir i gadw pethau’n ddiddorol yn enwedig i blant sydd bob amser angen eu cadw ym myd y dychymyg ac adrodd straeon. Rwyf wedi cael gwersi canu Estill gyda’r brifysgol ar gyfer fy nwy flynedd o fy BA ac yn y Meistr. Mae wedi fy helpu i ddysgu techneg ar gyfer taflu fy llais yn ddiogel ac wedi helpu gyda chanu yn enwedig gyda Barti Ddu lle mae yna gân rydw i wedi gorfod dysgu a dysgu fy hun. Mae’r actio wedi fy mharatoi ar gyfer yr hyn sydd angen i mi ei wneud i helpu i ddysgu’r darn ar gyfer unrhyw rolau y byddaf yn eu derbyn yn y dyfodol.”

Dywedodd Eleri Twynog, Cyfarwyddwr Cwmni ‘Mewn Cymeriad:

“Mae nifer fawr o actorion Mewn Cymeriad wedi graddio o Brifysgol y Drindod Dewi Sant, ac wedi llwyddo i gynrychioli’r cwmni drwy gyflwyno sioeau safonol a phroffesiynol. Mae’r bartneriaeth yma felly yn un naturiol rhywsut, am ei fod yn pontio’r byd addysg a’r byd gwaith. Ni’n edrych ymlaen yn fawr at gael cydweithio gyda David a gweddill staff y Brifysgol ar y prosiect hwn, ac at gryfhau’r bartneriaeth tuag at y dyfodol.”

Meddai Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru: 

“O fewn yr Academi rydym yn ceisio cynnig profiadau sydd yn paratoi y myfyrwyr ar gyfer y byd gwaith. Mae y cyfle yma i gyd-weithio gyda chwmni mor arbennig a Mewn Cymeriad yn sicrhau fod ein myfyrwyr yn cael blas o’r diwydiant cyn camu allan i fyd gwaith. Ein gobaith yw y bydd y bartneriaeth hon yn parhau ar gyfer y dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau