Skip page header and navigation

Mae dau fyfyriwr o gwrs Addysg Antur Awyr Agored Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi profi rhyfeddodau Norwy drwy raglen gyfnewid.  

A group of students enjoying in the snow in Norway

Astudiodd y myfyrwyr BA Addysg Antur Awyr Agored, Jack Craft a Will Roberts, ym Mhrifysgol De-ddwyrain Norwy yn Bø am semester.  Gwnaethon nhw gais ar ôl clywed eu darlithwyr a myfyrwyr blaenorol yn canmol profiad Rhaglen Gyfnewid Norwy. 

 Meddai Jack: 

“Roeddwn i’n gwybod am y cyfle hwn cyn dewis dod i’r brifysgol hon ac roedd e’n un o’r rhesymau pam y dewisais i wneud cais i ddod yma.  Roedd hwn yn gyfle na ddylid ei golli.  Rwyf wedi teithio o’r blaen a threulio amser yn dysgu yn Seland Newydd, felly rwy’n deall gwerth dysgu gan ddiwylliannau gwahanol.  Hefyd, rwyf i bob amser wedi bod eisiau ymweld â Norwy a meddyliais, pa ffordd well sydd i wneud hynny – treulio 5 mis yn byw ac yn dysgu nid yn unig gyda phobl Norwy ond gyda phobl o lawer o genhedloedd yn rhan o raglen gyfnewid.”

I Jack, roedd y cynllun cyfnewid yn brofiad bythgofiadwy.  Meddai: 

“Mae wedi fy helpu i ddeall cymaint amdanaf i fy hun pan fyddaf i yn yr awyr agored.  Roedd bod yn hyderus yn y rhaglen gyfnewid hon wedi rhoi’r cyfle perffaith i mi ddatblygu’r sgiliau hynny mewn amgylchedd gaeafol go iawn na  fyddwn ni byth yn ei brofi yma yn y DU.  

“Roedd y cyfle hwn wedi dysgu gwerth bod yn drefnus i mi, cynllunio alldeithiau, crefft gwersylla, blaenoriaethu tasgau a sgiliau arwain.”

Roedd y cwrs Addysg Antur Awyr Agored yn y Drindod Dewi Sant wedi paratoi’r myfyrwyr yn drwyadl am eu hastudiaethau yn Norwy. Ychwanega Jack: 

“Daeth hi’n glir o fewn oddeutu wythnos fod y cynnwys a astudiom ni yn y Drindod Dewi Sant yn y semester cyntaf wedi llifo’n syth i mewn i’r cynnwys a addysgwyd i ni ym Mhrifysgol De-ddwyrain Norwy.  Roedd hi’n teimlo fel fy mod i’n gam ar y blaen gyda’r theorïau a’r cynnwys a gafodd eu haddysgu.  Bu hyn yn help i atgyfnerthu’r wybodaeth flaenorol a datblygu f’arddull arwain fy hun ochr yn ochr â bod mewn amgylchedd newydd oedd mor brydferth o galed yng nghefn gwlad anghysbell Norwy.”

Group of students socialising by a fire in the outdoors in Norway

Hefyd bu’r cyfle hwn yn sbardun i Jack feddwl yn eang ynghylch pa gyfeiriad i fynd gyda phrosiect ei draethawd hir, ac o ganlyniad mae wedi’i arwain at ei brosiect ymchwil presennol, trywydd na fyddai byth wedi’i ddilyn fel arall. 

Mae’r rhaglen gyfnewid wedi helpu’r ddau i ddatblygu’n bersonol.   Meddai Jack:

“Mae’r sgiliau gen i bellach i weithredu yn amodau caled y gaeaf gan ychwanegu at y set sgiliau oedd gen i’n barod ar gyfer ffynnu yn yr awyr agored.  Hefyd mae fy hyder fel unigolyn wedi cynyddu gan ganiatáu i mi ymdrechu i gyflawni mwy o’m bywyd personol, academaidd a phroffesiynol nawr ac ar ôl i mi adael y brifysgol.”

Meddai Denise Leonard, Darlithydd Addysg Antur Awyr Agored yn y Drindod Dewi Sant: 

“Rwy’n credu bod y profiad hwn wedi rhoi cyfle i Jack a Will brofi addysg antur awyr agored mewn amgylcheddau naturiol sy’n gwrthgyferbyniad i’r rheini byddan nhw’n eu profi yn y Deyrnas Unedig.  Mae’n dwysáu eu dealltwriaeth o’u harfer eu hun ac yn gwella eu gwybodaeth am safbwyntiau diwylliannol mewn perthynas ag addysgeg a’r pwnc. Mae’r cyfleoedd ar gyfer twf personol, caffael sgiliau a datblygiad proffesiynol yn aruthrol.”

Wrth i Jack edrych yn ôl ar ei amser yn Norwy, mae’n annog pobl eraill i wneud cais. 

“Rhowch gyfle i’ch hun brofi rhyfeddodau Norwy, a dysgu gan rai o’r bobl fwyaf caredig rwyf wedi cael y pleser o gwrdd â nhw.Plymiwch i’r profiad yn gyflawn, gan gynyddu’r datblygiad personol sy’n dod yn sgil y cyfle hwn.”

I gael mwy o wybodaeth am yr radd BA Addysg Antur Awyr Agored ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, campws Caerfyrddin, ewch i’n gwefan yn www.uwtsd.ac.uk neu cysylltwch â thiwtor derbyn y cwrs yn denise.leonard@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau