Myfyrwyr Astudiaethau Addysg PCYDDS yn mwynhau Diwrnod Dysgu ac Addysgu Creadigol.
Daeth myfyrwyr o gyrsiau israddedig Astudiaethau Addysg o gampysau Caerfyrddin ac Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant at ei gilydd yn ddiweddar ar gyfer diwrnod dysgu ac addysgu creadigol.
Roedd yn ddiwrnod llawn dop o brofiadau dysgu trochi ymarferol y’u cynlluniwyd i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn amrywiaeth o weithgareddau deinamig wedi’u hanelu at feithrin meddwl beirniadol, gwaith tîm, a hoffter at ddysgu ar draws disgyblaethau lluosog.
Arweiniwyd sesiwn y bore gan Andrea Meyrick, Pennaeth Addysg ac Ymgysylltu o Techniquest, lle archwiliwyd addysgu gwyddoniaeth trwy bwnc y gofod, a chafodd y myfyrwyr gyfle i greu rocedi. I Andrea,
“Roedd yn gyfle gwych i gyflwyno sesiwn hyfforddi ar thema’r gofod gyda’r myfyrwyr addysg yn PCYDDS. Mae’n allweddol ennyn brwdfrydedd addysgwyr am ddysgu ac addysgu STEM a sut i fod yn greadigol wrth ei gyflwyno. Cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithgareddau hynod ddiddorol ar thema’r gofod a ddatblygwyd gan ESERO a oedd yn arddangos sut i fod yn greadigol wrth ddysgu ac addysgu. Does dim angen drysu – mae’r adnoddau sydd eisoes wedi’u datblygu yn hygyrch ac ardderchog. Ystyria Techniquest mai un o’i amcanion yw hyfforddi addysgwyr i fod yn gyfathrebwyr gwyddoniaeth yn y ffyrdd mwyaf creadigol.”
Yn ystod y prynhawn, cynigodd Emma Jones a Glyn Jenkins o dîm Profiad ac Ymgysylltu Digidol PCYDDS gipolwg uniongyrchol ar gyfleusterau’r ystafell dysgu ac addysgu trochi newydd ar y campws. Fe wnaethant arddangos cynnwys trochi amrywiol wedi’u cynllunio i gyfoethogi profiadau dysgu, yn rhychwantu cynefinoedd amrywiol megis Coedwig Law’r Amason. Meddai Glyn:
“Roedd y digwyddiad yn hynod lwyddiannus, a bu cydweithredu ardderchog gyda’r myfyrwyr. Bwriad y sesiynau Trochi hyn yw cyfoethogi profiadau’r myfyrwyr ac iddynt fwynhau’r broses ddysgu. Mae’r adborth gan y myfyrwyr ar gyfer y digwyddiad hwn wedi bod yn hynod gadarnhaol, sy’n amlygu ein hymrwymiad i gofleidio dyfodol dysgu trwy ennyn diddordeb myfyrwyr trwy brofiadau trochi cyffrous ac effeithiol.”
Fe wnaeth Mark Llewellyn Evans, ABC of Opera, gynnal sesiwn ryngweithiol gyda’r myfyrwyr ar ddulliau trawsgwricwlaidd o addysgu trwy gerddoriaeth ac opera. Roedd brwdfrydedd Mark at greadigrwydd ar draws y cwricwlwm yn heintus ac yn atyniadol i’r myfyrwyr.
Defnyddiodd Ross Phillips, darlithydd Astudiaethau Addysg PCYDDS, weithgareddau ystafell ddianc i hyrwyddo gwaith tîm a sgiliau datrys problemau.
Dywedodd Laura Hutchings, Cyfarwyddwr Rhaglen a threfnydd y digwyddiad:
“Roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr a rhoddodd gyfle i ni ddod â’r holl garfannau at ei gilydd. Caniataodd y sesiynau i’r myfyrwyr gydweithio a chyfnewid safbwyntiau o greadigrwydd mewn dysgu ac addysgu. Roedd y sesiynau’n rhyngweithiol ac yn atyniadol iawn, caniataodd y rhain i’r myfyrwyr ymgolli’n llwyr mewn dysgu. Mae adborth y myfyrwyr ar gyfer y diwrnod wedi bod yn gadarnhaol iawn, a dywedodd rhai mai hwn oedd eu hoff ddiwrnod yn y brifysgol hyd yma.
“Boed yn ymchwilio i dechnoleg ymgolli, mynd i’r afael â heriau ystafell ddianc, archwilio byd opera, neu archwilio gwyddoniaeth, mae ein rhaglenni wedi’u cynllunio i ysbrydoli, addysgu, a grymuso cyfranogwyr i gofleidio dysgu yn ei holl ffurfiau.”
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrsiau Astudiaethau Addysg, ewch i:
Astudiaethau Addysg (Llawn amser) | The University of Wales Trinity Saint David (uwtsd.ac.uk)
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476