Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr BA Perfformio o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen i berfformio’u cynhyrchiad diweddaraf o ‘Nyrsys’.

A poster with details about the Nyrsys production - also available on the press release

Llwyfannwyd y sioe ‘Nyrsys’ yn wreiddiol gan Theatr Genedlaethol Cymru nôl yn 2018 pan aethant ar daith cenedlaethol mewn cydweithrediad â Chanolfan Pontio, Bangor. Mae ‘Nyrsys’ yn rhoi cipolwg ar brysurdeb dyddiol ward canser mewn ysbyty yng Nghymru Heddiw, gyda sgript a chaneuon wedi’u llunio o gyfweliadau â nyrsus ‘go iawn’. 

Mae’r cynhyrchiad, a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Bethan Marlow, yn rhoi llwyfan i brofiadau nyrsys – yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu yn eu gwaith o ddydd i ddydd, a’r direidi, y chwaergarwch, a’r teimlad o alwedigaeth sy’n eu cynnal. Mae’r cynhyrchiad yn adlewyrchu darlun o’r galon o fywyd a gwaith yr arwyr sy’n gofalu amdanom ni ac am ein hanwyliaid mewn cyfundrefn iechyd dan bwysau parhaol. 

Bydd yna berfformiadau yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd yng Nghanolfan Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru ar Fawrth y 13eg am 12:30 ac am 7 yr hwyr, ac yna yn y Llwyfan yng Nghaerfyrddin ar Fawrth 15fed am 12:30 ac am 7 yr hwyr. 

Ffion Dafis fydd yn cyfarwyddo’r sioe, ac mae’n edrych ymlaen at weithio gyda’r myfyrwyr: 

“ Pan welais  i Nyrsys am y tro cyntaf mi roeddwn i wedi gwirioni arni. Mae hi’n ddrama gynnes, ddwys a doniol sy’n dathlu’r  Gwasanaeth Iechyd a’r merched sy’n gweithio iddo. Mae gen i fyfyrwyr brwdfrydig a thalentog sy’n awchu i roi ail wynt iddi. Allai ddim disgwyl i weithio efo nhw!”

Mae’r myfyrwyr yn edrych ymlaen at berfformio’r cynhyrchiad hwn. Dywedodd Gwenan Lloyd:

“Dwi’n teimlo mor freintiedig i gael bod yn rhan o ddrama sydd mor bwerus  gan Bethan Marlow, a dwi wir methu aros i ddechrau’r ymarferion wythnos nesaf hefo’n cyfarwyddwr profiadol Ffion Dafis. Yn sicr mi fydd yn sialens yn feddyliol ond mi fydd yn brofiad cael bod mewn esgidiau nyrs ar ward cancr am yr wythnosau nesaf. “ 

Ychwanegodd Becky Timbrell:

“Dwi wir yn edrych ymlaen i weithio efo Ffion Dafis a’r cast i ddweud stori mor berthnasol, lle mae pawb yn gallu unieithu.”

Meddai Fflur Llewelyn:

“Dwi methu aros i ddechrau ar y broses ymarfer hon. Dwi methu aros i ddechrau’r gwaith efo’r anhygoel Ffion Dafis, mae mynd i fod yn brofiad a hannar! Dwi methu aros chwaith i gal neud y sioe efo’r genod ac i chitha ddod i wylio!”

Dywedodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru: 

“Dwi’n hynod falch bod Ffion wedi cytuno i ddod i gyfarwyddo y sioe arbennig hon gyda’n myfyrwyr. Mae hi’n ddrama heriol, ond gyda phrofiad Ffion rwy’n siwr bydd y myfyrwyr yn derbyn hyfforddiant o’r radd flaenaf a chreu cynhyrchiad cofiadwy.”

Os hoffech archebu tocynnau ar gyfer ‘Nyrsys’, ewch i Trinity Saint David event tickets from TicketSource. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau