Skip page header and navigation

Er mwyn cicdanio tymor olaf y flwyddyn academaidd hon, mae rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau’r Drindod Dewi Sant wedi bod yn dathlu’r cyfleoedd cyflogaeth ac entrepreneuraidd anhygoel sy’n wynebu ei myfyrwyr. 

Harriet Popham, Charlotte Field a Grace Exley yn sefyll ac yn gwenu.

Bu cyfres o ddigwyddiadau’n ymwneud â chymysgedd o sgyrsiau, gweithdai a thiwtorialau gyda chyn-fyfyrwyr sy’n dychwelyd ac ymarferwyr dylunio yn gatalydd ar gyfer bwrlwm optimistaidd yn yr adran. Mae’r myfyrwyr bellach yn fwy parod nag erioed i ymgymryd â’r byd dylunio!

Meddai’r Rheolwr Rhaglen, Georgia McKie:  “Rydyn ni bob amser yn llawn balchder wrth groesawu cyn-fyfyrwyr yn ôl. Yn ystod y digwyddiadau hyn, cawsom glywed gan raddedigion a gwblhaodd gwta 2 flynedd yn ôl ac sy’n ffynnu mewn meysydd gwaith creadigol amrywiol, a chlywsom gan y rhai a raddiodd 9 a 10 mlynedd yn ôl, sydd bellach mewn uwch gyflogaeth a rolau hunangyflogaeth sefydlog.

“Braf oedd gweld fod yr holl raddedigion yn dal i drysori eu hatgofion o’u cyfnod gyda ni ac yn defnyddio’r sgiliau a gawsant yma yn eu harfer creadigol yn ddyddiol. Rydym yn ddiolchgar eu bod nhw am roi’n ôl yn y ffordd hon.

“Mae digwyddiadau’r pythefnos diwethaf mewn lle perffaith i roi hwb i’n myfyrwyr sydd ar fin graddio’r haf hwn. Nid oes hafal i glywed gan y rhai sydd wedi bod yn eich esgidiau chi o’r blaen, ac sydd nawr yn brawf byw fod yr esgidiau hyn yn rhai gwych i’w llenwi!”

Fe wnaeth digwyddiadau’r ‘Wythnos Dyfodol Patrymau Arwyneb a Thecstilau’ groesawu yn eu hôl Rosie Jiggins – Cyn-fyfyriwr MA Tecstilau a drodd yn Gyfarwyddwr Creadigol RMJ Studio a Swatch Editor, a Harriet Popham – Cyn-fyfyriwr BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau sydd bellach yn Wneuthurwr Printiau a Dylunydd Amlddisgyblaethol, a chroesawu’r Dylunydd Tecstilau Printiedig clodwiw, Jess Priest, am y tro cyntaf. Bu’r myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amryw weithdai, gan glywed gan bob ymarferydd am sut y maen nhw’n defnyddio’r prosesau hyn yn eu swyddi o ddydd i ddydd.

Meddai Claire Savage, Darlithydd Patrwm Arwyneb: “Mae gwerthfawrogi gwerth yr hyn a addysgir ar y rhaglen wir yn cael ei bwysleisio i’n myfyrwyr trwy weithgareddau cyfoethogi fel hwn. Mae’r sgiliau a archwilir yn ystod y sesiwn yn brawf o ethos amlddisgyblaethol y rhaglen – o baentio blodau ac arlunio yn y stiwdio ddylunio, i brintio leino a gwneud patrymau yn yr adran Gwneud Printiau, i ddelweddu printiau ffasiwn drwy realiti estynedig yn yr Ystafell Mac. Rydym yn gyfoethog o ran sgiliau. Mae hyn creu graddedigion hyderus a chyflogadwy.”

Mae’r digwyddiadau hefyd wedi cynnwys dau Symposiwm i Raddedigion, lle croesawyd graddedigion yn ôl i gyflwyno a rhannu eu teithiau o adeg graddio i ble maen nhw heddiw, gyda’r hynt a helynt er mwyn cyrraedd yno.

Harriet Popham - BA Patrymau Arwyneb a Thecstilau, sydd bellach yn Wneuthurwr Printiau a Dylunydd Amlddisgyblaethol, yn eistedd wrth ddesg ac yn siarad â myfyriwr.

Fe wnaeth y Symposiwm cyntaf groesawu’n ôl y Cyn-fyfyriwr BA, Charlotte Field, Uwch Ddylunydd a Phennaeth Print ar gyfer grŵp brand wedi’i leoli yn Llundain, a Nobody’s Child oedd yr enw a gipiodd sylw’r rhan fwyaf o’r bobl yn yr ystafell. Yn hael iawn, rhannodd Charlotte werth ei 10 mlynedd o brofiad yn y diwydiant tecstilau printiedig ar gyfer manwerthu ffasiwn, ac roedd y staff a’r myfyrwyr yn dal ar bob gair o’i genau!  Daeth Grace Exley, enillydd Gwobr New Designers Wilko a raddiodd ag MDes yn 2020, â’i rôl yn Design Group UK yn fyw gyda’i straeon am y cracers Nadolig Brenhinol y mae’n helpu eu dylunio, a llwyddiant ei chasgliadau masnachol cyntaf o bapur lapio a deunydd rhoddion yn siopau Sainsburys. Ymwelodd y Cyn-fyfyriwr BA Harriet Popham eto, gan ddwyn y brwdfrydedd swynol sydd ganddi bob amser, i rannu ei chipolygon ar fywyd yn ddylunydd llawrydd, tiwtor gweithdai a hyrwyddwr grym creadigrwydd. Mae uchafbwyntiau fel ei chyhoeddiad print a gomisiynwyd ar gyfer The V&A yn sicr yn nod gyrfa wedi’i gwblhau.

Yn yr ail Symposiwm, croesawyd y cyn gyd-fyfyrwyr Rebecca Davies, Dylunydd Pwrpasol yn Rolls Royce a raddiodd ag MDes yn 2021, a’r entrepreneur a’r gweithiwr llawrydd Naomi Seaward o Naomi Elizabeth Design. Rhyfeddwyd y gynulleidfa gan y ddwy ferch radd a’r hyn maen nhw wedi llwyddo ei gyflawni mewn cyfnod o lai na dwy flynedd.  Er bod eu rolau a’u teithiau wedi bod yn o wahanol, roedd y themâu o fanteisio ar gyfleoedd, wynebu eu hofnau a dyfalbarhau drwy syndrom ffugiwr, creu rhwydweithiau, dysgu gan bob un cyfarfyddiad, a llawenydd pur creadigrwydd ym mha bynnag ffurf y deuir ar ei draws, yn gyfareddol.

Meddai’r Darlithiwr Patrymau Arwyneb a Thecstilau, Kate Coode: “Mae haelioni’r graddedigion yn wefreiddiol – mae eu clywed nhw’n rhannu eu profiadau yn dwymgalon ac annog y myfyrwyr tuag at eu camau nesaf yn werth chweil i ni gyd. Mae hyn yn rhoi hwb mawr i hyder Dosbarth 2023 a’n myfyrwyr sy’n parhau.”

Grŵp o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdy peintio blodau yn y stiwdio patrymau arwyneb yn PCYDDS.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau