Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at berfformio dwy sioe gerdd yng Nghaerdydd ddiwedd y mis.

Posteri o’r sioeau cerdd Xanadu a Rent

Bydd Myfyrwyr MA Theatr Gerddorol yn perfformio’r sioe gerdd ‘Xanadu’ yn Theatr The Gate yng Nghaerdydd ar Fawrth 23ain a’r 24ain. Mae’r sioe ‘Xanadu’ yn dilyn taith cerddor Groegaidd hudolus a hardd sy’n disgyn o nefoedd Mt. Olympus i Venice Beach, Califfornia ym 1980 ar ymgais i ysbrydoli artist sy’n ei chael hi’n anodd cyflawni’r greadigaeth artistig fwyaf erioed - y ROLLER DISCO cyntaf!

Mae’r sioe wedi’i seilio ar y ffilm sy’n serennu Olivia Newton- John gyda cherddoriaeth Jeff Lynne o’r Electric Light Orchestra, ac mae’n sioe sy’n arddangos yr 80’au i’r dim.

Luke Hereford sydd wedi cyfarwyddo’r sioe o ran y Drindod Dewi Sant gyda Chris Fossey yn Gyfarwyddwr Cerdd.

Dywedodd aelod o’r cast, Cody Walkingshaw:

“Mae gweithio ar y sioe gerdd hudolus Xanadu wedi dangos i mi nad oes dim yn amhosib. Hefyd, y dylech chi bob amser freuddwydio’n fawr, dydych chi byth yn gwybod ble y gallech chi ddiweddu nesaf.”

Yna, bydd myfyrwyr BA Theatr Gerddorol yn perfformio’r Sioe Gerdd enwog ‘Rent’ yn Ystafell Las – Cwmni Theatr Dawns Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd ar Fawrth 29ain a’r 30ain. Robbie Bowman sydd wedi cyfarwyddo’r Sioe Gerdd gyda’r enwog John Quirk yn Gyfarwyddwr Cerdd.

Yn seiliedig ar opera adnabyddus Puccini, La Bohème, mae Rent yn dilyn hynt a helynt y flwyddyn ym mywyd grŵp o ffrindiau artistig tlawd, sy’n byw ym Mhentref Dwyrain Manhattan. Mae’r sioe gerdd yn ymdrin â themâu fel byw gyda HIV ac AIDS, ac amryw o straeon caru.

I’r myfyriwr Nico James

“Mae wedi bod yn brofiad arbennig paratoi ar gyfer y cynhyrchiad hwn, ac mae wedi adlewyrchu pam yn union wnes i benderfynu astudio Theatr Gerddorol.”

Dywedodd yr Uwch Ddarlithydd Eilir Owen Griffiths,

“Mae’n bwysig i ni roi profiadau i’n myfyrwyr sydd mor agos i fywyd actor proffesiynol a sy’n bosib o fewn ffiniau addysg uwch. Mae’r myfyrwyr wastad yn edrych ymlaen i gyfnod cynyrchiadau a mae gweithio gyda timoedd creadigol proffesiynol yn amhrisiadwy. Mae’r ddwy sioe yma yn eiconig yn eu ffurf eu hunain a mae hi wedi bod yn bleser gwylio’r myfyrwyr yn mynd i’r afael â’r arddulliau amrywiol o sioeau cerdd.”

Mae modd archebu tocynnau i’r ddwy sioe drwy ddilyn y ddolen ganlynol: Trinity Saint David event tickets from TicketSource.

Nodyn i’r Golygydd

Bydd perfformiad Rent am 7pm ar y Nos Iau nid 7.30pm fel sydd ar y poster.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau