Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr trydedd flwyddyn cyrsiau Teithio, Twristiaeth a Digwyddiadau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cynnal cynhadledd a ffair yrfaoedd lwyddiannus yn Arena Abertawe am yr ail flwyddyn yn olynol.

Cynulleidfa y tu mewn i Arena Abertawe yn wynebu'r sgrin

Trefnwyd digwyddiad Future You â’r thema Cymru i’r Byd a gynhaliwyd yn Arena Abertawe ar Chwefror 27ain gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr ar ran y Sefydliad Teithio a Thwristiaeth.

Cefnogwyd y digwyddiad a ddenodd 500 o westeion gan gynnwys myfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled Cymru, gan ABTA a’r Sefydliad Lletygarwch.

Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Aggie Grover, un o raddedigion Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol y Drindod Dewi Sant, sy’n Bartner Caffael Talent gyda TUI, arbenigwyr diwydiant o Royal Caribbean International a Celebrity Cruise lines a Silversea Cruises, a Claire Steiner, Cyd-sylfaenydd ITT Future You a Chyfarwyddwr y DU y Bartneriaeth Teithio a Thwristiaeth Fyd-eang.

Clywsom hefyd gan y graddedigion Twristiaeth a Digwyddiadau a drefnodd ddigwyddiad arobryn Future You y llynedd; Amanda Lewis, sydd bellach yn Gynorthwyydd Digwyddiadau gyda 4TheRegion, Mel Bourke, Cydlynydd Gwerthiant Cyfarfodydd a Digwyddiadau yn Stadiwm Principality Experience, Amy Harris, sy’n cwblhau rhaglen raddedig 1 flwyddyn PCYDDS gyda Gwesty’r Sonnenalp Resort yn Vail Colorado, a Joshua Wilson sydd wedi bod yn gweithio ar lansio llong fordaith enwog Ascent o Ffrainc i Florida a’r Caribî.

Mel Bourke yn sefyll o flaen y ddarllenfa yn siarad
Mel Bourke

Dywedodd Amanda Lewis: “Mae’n wych bod yn ôl yma yn cefnogi’r myfyrwyr presennol trwy fod yma yn nigwyddiad ITT Future You yr oeddwn yn ei gynnal yr adeg hon y llynedd. Fe wnaeth bod yn rhan o’r tîm trefnu ar gyfer y digwyddiad fel myfyriwr fy helpu i feithrin y sgiliau i ffynnu yn fy rôl bresennol fel Cynorthwyydd Digwyddiadau gyda 4TheRegion. 

“Mae fy astudiaethau wir wedi gosod y sylfaen ar gyfer fy llwyddiant yn fy ngyrfa gan roi’r arbenigedd a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnaf i weithio ym myd deinamig rheoli digwyddiadau.”

Dywedodd Mel Bourke: “Heb os, mae’r cyfleoedd dirifedi a gefais yn y Drindod Dewi Sant wedi siapio nid yn unig fy ngyrfa o fewn digwyddiadau ond wedi fy cyfoethogi fel person. O brosiectau ymchwil, profiad gwaith i gyfleoedd rhwydweithio. Roeddwn i’n gallu archwilio fy niddordebau a’m doniau mewn ffordd na feddyliais erioed ei bod yn bosibl. 

“Nawr yn fy rôl fel Cydlynydd Cyfarfodydd a Digwyddiadau gyda Stadiwm Principality, rydw i’n ymwneud â chynllunio a chynnal ystod o ddigwyddiadau cyffrous roeddwn i wedi mwynhau eu rhannu gyda’r gynulleidfa heddiw.”

Bu Mel hefyd yn cynnal sesiwn holi ac ateb gyda’r panel arbenigwyr yn y diwydiant a oedd yn cynnwys Heledd Williams, un o raddedigion y Drindod Dewi Sant, sy’n Bennaeth Digwyddiadau Busnes Event Wales a Thomas Aguis-Ferrante, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Casgliad Seren a Chadeirydd Cangen Sefydliad Lletygarwch Cymru. 

Tri person yn eistedd yn gwynebu cynulleidfa yn Arena Abertawe
O'r chwith i'r dde: Mel Bourke, Heledd Williams a Thomas Aguis Ferrante

Daeth dros 40 o arddangoswyr diwydiant i’r Ffair Yrfaoedd gan gynnwys Celtic Collections, Folly Farm, Gŵyl In It Together, Oakwood, Twristiaeth Sir Benfro, Distyllfa Penderyn ac Arena Abertawe yn ogystal ag Yummy Jobs sy’n recriwtio ar gyfer Disney & Universal, Gwersylloedd Haf CCUSA a PGL.

Cefnogwyd y digwyddiad hefyd gan gynrychiolwyr y diwydiant o sefydliadau Teithio a Thwristiaeth allweddol gan gynnwys Digwyddiadau Cymru, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a Croeso Cymru.

Dywedodd Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen Portffolio Rheoli Teithio, Twristiaeth, Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol Y Drindod Dewi Sant: 

“Mae cynnal ITT Future You yn brofiad anhygoel i’n myfyrwyr ei drefnu ac yn gyfle gwych i arddangos eu cyflawniadau a llwyddiant graddedigion Twristiaeth a Digwyddiadau gydag arweinwyr diwydiant.

“Roedd y digwyddiad eleni yn cynnwys ffair yrfaoedd a diwydiant rhyngweithiol fawr yn y neuadd arddangos gyda 40 o sefydliadau o Gymru ac o bob cwr o’r byd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd lleoliad a chyfleoedd i raddedigion.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau