Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ymlaen at eu perfformiad o ‘Fugitive Songs’

Llun o heol

Mae Fugitive Songs yn gylch o ganeuon gwerin Americanaidd, casgliad o straeon am bobl sy’n rhedeg i ffwrdd o bethau, boed hynny’n gorfforol neu’n emosiynol, a fydd yn cael ei berfformio ar yr 22ain a 23ain Chwefror yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd am 7:30pm. Mae’n edrych ar y cryfder y deuwn o hyd iddo wrth rannu ein profiadau gydag eraill. 

Wedi’i leoli mewn bar ar ymyl un o briffyrdd America, fe fydd y gynulleidfa yn y bar ei hun. Gan rannu’r gofod a chlywed straeon yn atseinio o’u cwmpas, mae Fugitive Songs yn dangos i ni’r hyn y mae’n ei olygu i rannu ein buddugoliaethau a’n gorchfygiadau gyda’n gilydd, i ddysgu ganddynt a gwthio ymlaen i bennod nesaf ein bywydau.

Mae Matthew Holmquist, y Cyfarwyddwr Cerddorol, wedi cael y cyfle i gyfarwyddo’r perfformiadau. Meddai: 

 “Mae cyfarwyddo’r cynhyrchiad hwn wedi bod yn bleser mawr. Rwyf wedi gweithio gyda rhan fwyaf y cast o’r blaen fel israddedigion ac mae’n anhygoel gweld eu twf erbyn dechrau’r prosiect hwn ac yn ei ystod. Mae cyflwyno cylch o ganeuon yn her creadigol gwych i’r actorion. Rhaid iddynt greu cymeriadau cyflawn drwy ddefnyddio un gân yn unig. Heb os, fe fydd y myfyrwyr yn dangos eu creadigrwydd a’u sgil yn y cynhyrchiad hwn ond fy ngobaith i yw y byddant wedi elwa o ran eu harfer wrth symud ymlaen. Rwy’n gyffrous iddynt gymryd eu greddfau creadigol ynghylch datblygu cymeriadau i mewn i bob prosiect ar ôl hwn.

Mae’r ymarferion yn mynd yn arbennig o dda! Mae gennym gast a thîm creadigol eithriadol o dalentog ond maent hefyd yn grŵp llawen iawn. Rydym yn cael llawer o hwyl wrth weithio allan sut i adrodd y straeon hyn yn y ffyrdd mwyaf diddorol. Rwy’n gyffrous iawn i gynulleidfaoedd allu eistedd yn y gofod rydym wedi’i greu a phrofi’r sgôr hyfryd o’u cwmpas ym mhobman.”

Mae Victoria Davis, sy’n fyfyrwraig, yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y cynhyrchiad hwn. Meddai: 

“Rwyf wedi bod wrth fy modd yn gweithio ar y cynhyrchiad hwn gyda chriw o bobl mor dalentog. Mae’r broses wedi bod yn llawn mwynhad ac yn gydweithredol ac mae llais unigol unigryw pawb wedi bod yn bresennol drwy gydol y cyfnod creu. Yr hyn sydd wedi bod yn arbennig o foddhaus yw gallu darganfod drosom ni ein hunain siwrne’r cymeriad trwy gydol y sioe a chreu hanes ar gyfer ein cymeriad. 

 “Mae yna ystod eang o ganeuon ensemble, unawdau, deuawdau, triawdau a grwpiau bach, sydd i gyd wedi helpu i wella ein medrau fel perfformwyr theatr gerddorol.   Bu’n arbennig o gyffrous i rai ohonom sydd wedi cael y cyfle i goreagraffu rhai o’r darnau ein hunain. 

“Mae’r cynhyrchiad hwn yn gyfle gwych i ni arddangos y sgiliau rydym wedi bod yn eu datblygu ar ein cwrs ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at berfformio’r darn o flaen cynulleidfa.”

Meddai Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru: 

 “Hyfryd yw gweld ein myfyrwyr MA yn datblygu ac mae’r prosiect hwn yn defnyddio’r sgiliau o’r holl fodylau mae’r myfyrwyr wedi bod yn gweithio arnynt.”

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau i weld y perfformiad, ewch i: Chapter | The Wales Academy of Voice and Dramatic Arts Students:…


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau