Myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn arddangos straeon cyn-fyfyrwyr mewn prosiect ffilm
Yn ddiweddar, cwblhaodd myfyrwyr ffilm blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant aseiniad a roddodd brofiad ymarferol iddyn nhw wrth gydweithio â chyn-fyfyrwyr rhaglenni ffilm y gorffennol.
Y flwyddyn academaidd hon, rhoddwyd aseiniad unigryw i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol a BA Gwneud Ffilmiau Antur y Drindod Dewi Sant o’r enw, Straeon Cyn-fyfyrwyr, a fyddai’n cael ei asesu yn rhan o un o’u modylau.
Briff yr aseiniad oedd creu ffilm ffeithiol fer yn cynnwys cyfweliadau â chyn-fyfyrwyr cyrsiau Ffilm Y Drindod Dewi Sant a roddodd o’u hamser i roi yn ôl i’r profiad hwn i fyfyrwyr gan rannu nid yn unig eu straeon ond hefyd eu harbenigedd.
Roedd myfyrwyr a gymerodd ran yn y prosiect byw hwn yn falch o gael y profiad ymarferol a’r cyfle i gwrdd â chyn-fyfyrwyr llwyddiannus.
Meddai James Bevan, myfyriwr blwyddyn gyntaf BA Gwneud Ffilmiau Antur:
“Roedd y profiad o wneud y prosiect hwn yn fuddiol ac yn ddiddorol. Roedd clywed straeon pob cyn-fyfyriwr unigol yn ddiddorol ac yn addysgiadol ac yn rhoi ystod dda o safbwyntiau ynghylch sut y gallem ni fel myfyrwyr ddefnyddio’r cwrs hwn a datblygu gyrfa allan ohono.”
Dywedodd Gabe Morris, sydd yn ei flwyddyn gyntaf y cwrs BA Cynhyrchu Cyfryngau Digidol:
“Ces i fy hun yn edrych lan at y cyn-fyfyrwyr, a dwi’n gobeithio, wedi i mi raddio, y galla i ddilyn yn ôl eu traed nhw a chreu gyrfa lwyddiannus ac efallai hyd yn oed un diwrnod ddychwelyd yn un o raddedigion y brifysgol i rannu fy stori fy hun.”
Ymhlith y cyn-fyfyrwyr a gymerodd ran oedd Tom Smith, a raddiodd yn 2022 o BA Gwneud Ffilmiau Antur a gofrestrodd ar gyfer y cwrs unigryw hwn ar ôl penderfynu dilyn ei angerdd am antur awyr agored gyda’r nod o ffurfio gyrfa allan ohono.
Yn ei gyfweliad â’r myfyrwyr, meddai Tom:
“Mae’r cwrs yn magu angerdd am wneud ffilmiau. Rhoddodd y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sylfaenol i mi o’r agweddau niferus ar ffilm, o dechnegau traddodiadol i agweddau ymarferol.
Trwy brofiad yn y diwydiant, roeddwn i hefyd yn gallu datblygu fy sgiliau rhyngbersonol sydd wedi fy helpu i adeiladu perthnasoedd a rhwydweithiau proffesiynol.”
Bellach mae Tom yn wneuthurwr ffilmiau antur, ac yn berchennog ar Remote Horizon, sef busnes sy’n hwyluso sgiliau diogelwch ffilmiau antur. Wrth siarad am yr hyn y mae wedi ei gyflawni meddai: “Fyddwn i ddim lle ydw i heddiw heb y cwrs, heb os nac oni bai.”
Cyn-fyfyriwr arall a gymerodd ran oedd James Owen, a raddiodd yn 2021 ar y cwrs BA Gwneud Ffilmiau. Roedd ei arbenigedd yn arbennig o ddefnyddiol i’r myfyrwyr drwy gydol y prosiect hwn gan ei fod wedi creu ei fusnes ei hun ym maes cynhyrchu ffilmiau dogfen ar arddull cyfweliad, o’r enw Stori Cymru.
Meddai James: “Fe ddes i’r Drindod Dewi Sant i hogi fy nghelf, a gadawes i gyda gradd a busnes yn fy llaw. Rhoddodd y cwrs gyfleoedd i mi i ddatblygu fy sgiliau a rhoi cynnig ar bethau gwahanol, a nawr rwy am allu rhoi rhywbeth yn ôl a helpu eraill i ennill profiad yn y maes creadigol hwn.
“Roedd hi’n fraint cael gwahoddiad i ddod yn ôl i gymryd rhan yn y prosiect hwn a dwi’n gobeithio y gallaf ysbrydoli myfyrwyr presennol yn ogystal â darpar fyfyrwyr y cyrsiau Ffilm hyn.”
Meddai Brett Aggersberg, Uwch Ddarlithydd Ffilm a Chyfryngau Digidol yn Y Drindod Dewi Sant:
“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn gyflwyniad gwych i wneud ffilmiau i’n myfyrwyr newydd. Mae wedi eu helpu nhw i ddatblygu sgiliau allweddol mewn gwaith camera, goleuo, sain a golygu, a fydd yn cefnogi eu prosiectau yn y dyfodol.
“Mae hefyd wedi bod yn ysbrydoliaeth iddyn nhw weld i ble gall y graddau rydyn ni’n eu cynnig yn y Brifysgol fynd â nhw yn eu bywydau proffesiynol. Roedd gweld wynebau cyfarwydd yn dychwelyd i’r campws i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr ffilm hefyd yn creu balchder ynof i ac yn dyst i’r gwaith rydyn ni yn ei wneud i gefnogi ein myfyrwyr a’n graddedigion.”
Gallwch weld rhai o gyfweliadau’r myfyrwyr gyda Tom Smith a James Bowen ar sianel YouTube Gwneud Ffilmiau Antur a Chyfryngau Digidol PCYDDS.
Gwybodaeth Bellach
Mared Anthony
Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk
Ffôn: +447482256996