Skip page header and navigation

Bydd myfyrwyr Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Rio Grande, Ohio y flwyddyn hon.

Yr wyth myfyriwr yn sefyll yn gwenu o flaen silff ben tân â’r geiriau ‘Y Cartref Cymraeg’ mewn llythyrau euraid.

Mae gan y Brifysgol gysylltiad hirsefydlog gyda Phrifysgol Rio Grande a’i Chanolfan Madog yn ogystal â gyda chymunedau o dras Gymreig yng Ngogledd America.

Trefnwyd ac ariannwyd y daith dwy wythnos hon gan brosiect ‘Taith’ Llywodraeth Cymru, sydd â’r brif genhadaeth o “Gymryd Cymru i’r Byd.”  Bydd myfyrwyr yn arddangos eu talentau i gynulleidfaoedd yn y cymunedau hyn yn Ohio yn ogystal ag ysgolion yn Ohio.

Pan fyddant yn Ohio, bydd y myfyrwyr yn cymryd rhan mewn Cyngerdd Dewi Sant gyda chôr Rio Grande.  Byddant hefyd yn teithio i Cleveland i ymweld â chartref Cymreig a’r ‘Rock and Roll Hall of Fame’. Yn ogystal, byddant yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Gallia Academy gyda’r Côr Madrigal ac yn ymddangos ar y sianel deledu a gorsafoedd radio lleol, ac hefyd yn perfformio yn Eglwys Bresbyteraidd Oak Hill ar gyfer cinio a pherfformiad Dydd Gŵyl Dewi.

Meddai Eilir Owen Griffiths, Uwch Ddarlithydd:

“Mae’n wych gallu aildanio’r berthynas gyda Rio Grande. Bu rhai blynyddoedd ers i grŵp fynd yno. Gyda chysylltiadau cryf â Chymru, roedd yn addas bod ein myfyrwyr celfyddydau perfformio cyfrwng Cymraeg yn ymweld ag Ohio eleni. O dan gyfarwyddyd Angharad Lee byddant yn cyflwyno casgliad o waith yn cynnwys monologau, caneuon a threfniannau bendigedig newydd o rai o glasuron corawl Cymru gan Nathan Jones. Gan raddio yn yr Haf 2023, mae’r gwaith hwn yn arddangos eu talentau yn ogystal â dathlu rhai o ysgrifenwyr ac emynau gorau Cymru.

Pobl ifanc yn eistedd mewn hanner cylch yn gwrando ar fenyw yng nghanol y grŵp.

I Lowri Voyle, un o fyfyrwyr y BA Perfformio,

“Mae wedi bod yn brofiad anhygoel a gallwn weld faint mae’r gymuned yma’n gwerthfawrogi diwylliant Cymru. Teimlaf fod hanes y Cymry yma yn Rio Grande, Ohio, yn un na allwn ei anghofio, ac ar ôl y daith, hoffwn sicrhau bod y cysylltiadau’n parhau’n gryf rhyngom.”

Meddai Jeanne Jones Jindra, Cyfarwyddwr Canolfan Madog ar gyfer Astudiaethau Cymraeg, Prifysgol Rio Grande:

“Bu nifer o flynyddoedd ers i ni gael grŵp o fyfyrwyr theatr gerddorol o’r Drindod Dewi Sant yma ym Mhrifysgol Rio Grande ac rydym wrth ein bodd i groesawu’r grŵp hwn o 7 o ferched ifanc ac un dyn ifanc. Cyraeddasant ar Chwefror 15fed ac nid ydynt wedi stopio am funud ers hynny, gan asio’n rhwydd i fywyd myfyrwyr ar ein campws. Maent wedi cwrdd â’n côr Corawl Mawr ac yn paratoi i ganu gyda’i gilydd ar gyfer rhai digwyddiadau yn yr ardal, a’r dathliad Dydd Gŵyl Dewi yw’r mwyaf nodedig o’r rhain.”

Mewn dillad gaeaf, mae’r myfyrwyr yn sefyll wrth Afon lwyd Ohio wrth arwydd yn coffau glaniad y Cymry yn y Gallipolis.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau