Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau o Goleg Celf Abertawe ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cymryd rhan mewn briff byw a osodwyd gan frand papur wal eiconig, gan arwain at adborth proffesiynol ac arddangosfa o waith sy’n gwneud argraff.

Myfyriwr dylunio’n ystumio tuag at arddangosfa wrth i Mark Hampshire a Keith Stephenson wylio.

Roedd Mini Moderns, deuawd dylunio yn Llundain sy’n cynnwys Mark Hampshire a Keith Stephenson, wedi creu partneriaeth gyda’r Drindod Dewi Sant ar y dasg hon gan osod y briff dylunio i’r myfyrwyr, a redodd o fis Hydref i fis Ionawr.  

Gofynnodd y briff i fyfyrwyr ddylunio ‘Patrwm â Stori’ wedi’i seilio o gwmpas un o bedair thema: Teithlyfr, Diwylliant, Ymwelydd Undydd neu Gartref.  Y dasg oedd defnyddio naratif bersonol i ddatblygu papur wal yn gyntaf, wedyn ystyried sut gellid addasu’r dyluniad ar gyfer cynnyrch eraill megis gwrthrychau i’r cartref, ategolion ac eitemau dodrefnu.  

Ar ddechrau’r briff, cyflwynodd Mark a Keith ddarlith ar gampws Dinefwr y Brifysgol yn Abertawe wedyn darparant adborth digidol hanner ffordd, gan roi cyfle i fyfyrwyr adfyfyrio ar gyngor a datblygu syniadau ymhellach. Ym mis Ionawr, dychwelodd Mini Moderns i’r campws i adolygu a beirniadu’r arddangosfa o ddyluniadau terfynol, a oedd wedi’u hargraffu’n fewnol gan y myfyrwyr yn defnyddio sidanau mewn dulliau argraffu sgrin, bloc a digidol.

Mae’r rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn gweithio gyda brandiau gwahanol bob blwyddyn i gyflwyno’r briff byw, ac yn ystod hwnnw rhaid i fyfyrwyr ddylunio yn ôl gofynion sefyllfaoedd yn y byd go iawn ac maent yn cael eu hymestyn i gymhwyso eu harddulliau a’u syniadau i dasgau’r diwydiant.  Mae cael profiad o ystod amrywiol o gleientiaid a chyd-destunau’n helpu myfyrwyr i adeiladu eu set sgiliau ac ehangu eu portffolios ac ar yr un pryd mae’n annog trafodaethau iach yn y stiwdio, deialogau rhwng cyd-fyfyrwyr a chwmnïaeth ar draws grwpiau blwyddyn.

Mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r briff wedi’i osod gan gwmnïau megis Rolls Royce, H&M, Patternbank, Hallmark, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac Eley Kishimoto. Mae’n helpu i ddatblygu perthynas rhwng y Brifysgol, y myfyrwyr a’r partneriaid hyn, gyda rhai myfyrwyr, yn cynnwys un o raddedigion y llynedd Rebecca Davies a gafodd swydd yn Rolls Royce, yn cael cynnig gwaith yn dilyn y briff.

Pedwar ar ddeg o staff a myfyrwyr yn gwenu mewn llun grŵp o flaen cefndir arddangosfa o batrymau bywiog.

Meddai Georgia McKie, Rheolwr Rhaglen ar gyfer Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn y Drindod Dewi Sant: “Mae wedi bod yn gymaint o bleser croesawu Mini Moderns yn ôl i’n rhaglen.  Buom yn gweithio gyda’r brand yn gyntaf yn 2007, gan deimlo mai’r flwyddyn academaidd hon oedd yr adeg iawn i gydweithio eto.

“Roedd cynhesrwydd Mark a Keith a’u cariad amlwg at ddylunio yn heintus, ac roeddem wrth ein boddau â’r profiad o ddatblygu a rhannu gwaith newydd gyda nhw. Roedd lefel yr adborth a’r arbenigedd a roddwyd i’r myfyrwyr yn eithriadol.  

“Hwyluso cyfleoedd unigryw tebyg i hyn yn y pen draw yw’r hyn sy’n galluogi ein myfyrwyr i’w gosod eu hun ar wahân fel graddedigion.  Roeddem yn gallu dangos i’r myfyrwyr pa mor bwysig mae hi i feithrin rhwydweithiau a chysylltiadau o fewn y diwydiant dylunio, a sut i ystyried pob cyfarfod yn botensial i ddysgu.”  

Ychwanega Safiyyah Altaf, myfyriwr y drydedd flwyddyn:  “Rydw i wedi dysgu sut gall dyluniadau i ddiwydiant fod yn ystyrlon a defnyddio naratifau personol ond yn dal i allu bod yn hygyrch i’r gymuned.  Mae gweithio gyda Mini Moderns wedi fy helpu i ddeall pa mor bwysig mae dweud stori o fewn dylunio, sut mae’n codi gwaith uwchlaw dim ond lliw, deunydd a thechneg, a sut gallwn gyfoethogi bywydau pobl drwy eu cysylltiadau â’n dyluniadau.”

Soniodd myfyrwyr eraill am “ymdeimlad enfawr o gyflawniad” pan gafodd eu gwaith “ei werthfawrogi a’i gydnabod” gan y cwmni, eu bod yn falch o’u dyluniadau a bellach eu bod yn teimlo’n “fwy parod i lwyddo yn y diwydiant”.  

Gellir gweld yr arddangosfa ‘Patrwm â Stori’ ar Gampws Dinefwr ar ddiwrnodiau’r wythnos 9:30–16:00 tan 24 Mawrth.  Croeso i bawb.

Keith Stephenson a Mark Hampshire o Mini Moderns yn gwenu wrth ochr aelodau o staff addysgu’r rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau