O Dŷ i Gartref: Arddangosfa gan bobl â phrofiad bywyd o fod yn ddigartref yn lansio yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn cefnogi arddangosfa newydd sy’n arddangos doniau artistig pobl sydd wedi profi bod yn ddigartref yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Mae Canolfan Skylight De Cymru gan Crisis, sydd wedi’i lleoli yn Abertawe, yn cynnig ystod o gymorth i bobl sy’n profi digartrefedd neu sydd mewn perygl o wneud hynny, yn cynnwys cyngor a chyfarwyddyd un-i-un, cymorth i ddod o hyd i gartref a’i gynnal, a chyfleoedd dysgu a chyflogaeth.
Mae’r Ganolfan Skylight hefyd yn cynnal cyrsiau yn y celfyddydau a chrefftau lle gall aelodau fwynhau dihangfa greadigol. I lawer sy’n ‘syrffio soffas’ neu’n aros mewn llety dros dro, gall creu celf hefyd fod yn ffordd o ddod ag ymdeimlad o gartref i amodau byw anaddas, gan gefnogi iechyd a llesiant.
Dros y 10 mis diwethaf mae Tîm Ehangu Mynediad y Brifysgol wedi bod yn gweithio mewn cydweithrediad â Chanolfan Skylight Crisis i archwilio cyfleoedd i’w haelodau a’u helpu i ddefnyddio cyfleusterau, cyngor, a gweithdai yn y Drindod Dewi Sant.
Gan weithio gyda’r adran Patrymau Arwyneb a Thecstilau, a’r cyn-fyfyriwr Naomi Seaward, sydd bellach yn gweithio’n ddangosydd technegol yn y Drindod Dewi Sant, bu modd i aelodau Crisis greu darnau o waith celf i fod yn rhan o’r arddangosfa O Dŷ i Gartref.
Mae meithrin perthnasoedd â’r trydydd sector wedi bod yn hanfodol o ran sicrhau bod y Brifysgol yn gallu cynnig ystod o gyfleoedd i’n cymunedau lleol. Gyda chefnogaeth Crisis, dechreuodd tri aelod eu graddau yn y Drindod Dewi Sant fis Medi diwethaf.
Mae’r arddangosfa newydd hon, a grëwyd gan bobl sy’n wynebu bod yn ddigartref, yn herio ymwelwyr i ystyried yn ofalus beth sy’n gwneud tŷ yn gartref, gan arddangos hefyd ystod o sgiliau artistig.
Mae’r gosodwaith yn arddangos tu fewn i gartref, sy’n arddangos, yn ogystal â nwyddau cartref eraill, bapur wal a guradwyd yn ofalus o rwbiadau stryd a gymerwyd o bob rhan o Abertawe, goleuadau a wnaethpwyd o boteli a ailgylchwyd a ryg a wnaethpwyd o ddeunyddiau a ailgylchwyd.
Meddai Esther Ley, Cydlynydd y Celfyddydau yng Nghanolfan Skylight De Cymru gan Crisis: “Rwyf mor falch o lansio’r arddangosfa hon, ac o’r holl artistiaid talentog iawn a weithiodd mor galed i greu’r man anhygoel hwn.
“Yn ogystal â darparu cymorth a chefnogaeth ymarferol, rwyf mor falch y gall ein Canolfan Skylight hefyd gynnig dosbarthiadau yn y celfyddydau, sy’n aml yn darparu dihangfa greadigol a therapiwtig o’r sefyllfaoedd trawmatig y mae ein haelodau’n eu hwynebu.
“Mae bod heb rywle i’w alw’n gartref yn gallu teimlo’n hynod o ddatgysylltiedig. I lawer o’n haelodau, mae creu darnau hardd yn debyg i’r rheini sy’n cael eu harddangos yn eu helpu i deimlo ychydig yn fwy cartrefol yn yr amodau maent yn gorfod aros ynddynt, sydd yn aml yn rhai dros dro a llwm.
“Mae’r arddangosfa hon yn rhoi sylw i’r talent artistig anhygoel ymhlith ein haelodau ac yn ysgogi pobl i feddwl am ddigartrefedd mewn ffordd wahanol. Mae tŷ’n fwy na tho uwch eich pen, mae’n lle i’w alw’n gartref a gwahoddwn y sawl sy’n edrych ar y gwaith celf i ystyried beth mae cartref yn ei olygu iddyn nhw.”
Meddai Rheolwr Rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau PCYDDS Georgia McKie: “Roeddem ni mor falch i allu cynnal y gweithdai sgrin-brintio ar gyfer O Dŷ i Gartref yn ein hadran Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Fel rhaglen cawn ein hysbrydoli’n ddi-ben-draw gan y cysylltiadau a wnawn rhwng llesiant a dylunio, a llesiant a gwneud. Gwnaeth y prosiect hwn alluogi’r ddau beth hyn i’r cyfranogwyr; gwnaethant ddylunio a gwneud, ac wedyn gwnaethant brofi effaith a gorfoledd cael eu trochi yn eu papurau wal eu hunain yn yr arddangosfa, mae hyn yn rhywbeth rhyfeddol!”
Dywedodd Sam Bowen, Rheolwr Ehangu Mynediad PCYDDS: “Mae’r Brifysgol yn falch o’n darpariaeth amrywiol ac uchelgeisiol o gynigion i godi dyheadau a rhoi mynediad i bob lefel a modd o ddysgu. Mae darparu cyfleoedd fel yr un yma yn rhoi cyfle i ddysgwyr o bob oed a chefndir ddarganfod mwy am eu hopsiynau, cael profiad ymarferol, symud ymlaen i, a bod yn llwyddiannus yn eu nodau addysg. Nid yw ein gwaith gyda sefydliadau elusennol yn dangos fawr o arwydd o arafu wrth i ni barhau i gynyddu ein cydweithrediad â’r cymunedau lleol rydym yn eu gwasanaethu er mwyn helpu i wella symudedd cymdeithasol a gwneud mynediad i addysg yn decach i bawb.”
Dywedodd Rheolwr Rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau PCYDDS, Georgia McKie: “Roeddem mor falch o allu cynnal y gweithdai argraffu sgrin o’r Tŷ i’r Cartref yn ein hadran Patrymau Arwyneb a Thecstilau. Fel rhaglen rydym yn cael ein hysbrydoli’n barhaus gan y cysylltiadau a wnawn rhwng llesiant a dylunio, a llesiant a gwneud. Galluogodd y prosiect hwn bod y ddau beth yn digwydd; fe wnaethon nhw ddylunio a gwneud, ac yna cawsant brofi effaith a llawenydd cael eu trochi yn eu papurau wal eu hunain yn yr arddangosfa, mae hyn yn beth gwych!”
Ychwanegodd Naomi Seaward: “Roedd yn bleser pur gweithio gyda’r tîm ac aelodau Crisis i fynegi eu profiadau trwy batrwm printiedig. Aeth y sawl gymerodd rhan i’r afael â phrosesau nad oeddent erioed wedi rhoi cynnig arnynt o’r blaen, gan ddod ag egni a chreadigrwydd i bob gweithdy, ac mae’r dyluniadau gorffenedig a’r arddangosfa yn gynrychiolaeth wych o’u talent.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071