Ofsted yn barnu Prentisiaethau yn Dda
Mae darpariaeth prentisiaethau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi’i barnu’n ‘Dda’ mewn arolwg diweddar gan Ofsted.
Adolygiad ydoedd o’r ddarpariaeth a ariennir trwy Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau Llywodraeth y DU a oedd yn cynnwys:
- BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol
- Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron (Lefel 6)
- Ordnans, Arfau Rhyfel a Ffrwydron (Lefel 4)
- MA Arfer Archeolegol (Lefel 7)
- Electroneg Mewnblanedig
- Gwydr Lliw (Lefel 4)
- Arweinydd Uwch (Lefel 7)
Daeth yr adolygiad i’r casgliad bod y ddarpariaeth yn dda yn erbyn yr holl feini prawf a amlinellwyd o ran Ansawdd Addysg, Ymddygiad ac Agweddau, Datblygu Personol, Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Phrentisiaethau’r Fframwaith Arolygu Addysg.
Casglodd yr Arolygwyr ystod eang o dystiolaeth yn sail i’w beirniadaethau, gan gynnwys ymweld â sesiynau dysgu, craffu gwaith dysgwyr, gofyn am farn dysgwyr, cyflogwyr, staff a rhanddeiliaid eraill yn ogystal ag archwilio gwaith prentisiaid a dogfennau a chofnodion y Brifysgol.
Nododd yr adroddiad bod Prentisiaid yn mwynhau astudio eu prentisiaethau ac yn gwerthfawrogi’r amgylcheddau addysgu a chymdeithasu tawel o ansawdd uchel sydd yn y Brifysgol. Mae’n dweud:
“Mae Prentisiaid yn gwerthfawrogi’r cymorth ardderchog maent yn ei dderbyn gan swyddogion cyswllt y Brifysgol sy’n sicrhau bod eu hastudiaethau yn y brifysgol a swyddi yn berthnasol i’w gilydd. Mae prentisiaid yn trin eu hamser yn astudio fel petaent yn mynychu’r gwaith. O ganlyniad, mae eu presenoldeb yn dda, maent yn weithgar ac yn ymddwyn yn broffesiynol.
Dywedodd yr adroddiad hefyd bod darlithwyr yn defnyddio dulliau effeithiol i addysgu prentisiaid ac yn gwneud defnydd da o astudiaethau achos o’u profiadau eu hunain o weithio yn y diwydiannau amddiffyn a diogelwch i ddod â’r dysgu’n fyw.
Tynnodd yr arolygwyr sylw at y dysgu ychwanegol a’r gofal bugeiliol ardderchog a ddarparwyd gan y Brifysgol yn ogystal â’r ystod o fwrsarïau ariannol sydd ar gael i gefnogi prentisiaid i barhau gyda’u hastudiaethau.
Meddai Bridget Moseley, Pennaeth Uned Brentisiaethau’r Brifysgol:
“Mae hwn yn adroddiad cadarnhaol iawn ar saith rhaglen a ariennir trwy’r Asiantaeth Ariannu Addysg a Sgiliau, y mae’r rhan fwyaf ohonynt o fewn y sectorau amddiffyn a diogelwch. Rwyf wrth fy modd fod ein partneriaeth gyda chyflogwyr ar gynllun a chynnwys ein cwricwlwm, profiad proffesiynol ein tîm darlithio yn ogystal â’n gwasanaethau cymorth a gofal am ein prentisiaid wedi cael eu cydnabod a’u hamlygu yn yr adroddiad. Mae’r rhaglenni’n galluogi i’r Brifysgol gyd-greu ein cwricwlwm mewn partneriaeth â chyflogwyr fel y gallwn ymdrin â’r angen am sgiliau yn ein hardal ac ymhellach i ffwrdd, gyda’n gilydd”.
Ychwanegodd yr Athro Mirjam Plantinga, Pro Is-Ganghellor, Profiad Academaidd:
“Mae adroddiad Ofsted yn darparu sicrwydd o ansawdd ein darpariaeth ac rwy’n arbennig o falch bod trefn lywodraethol gryf y rhaglenni wedi’i chydnabod.
“Mae’r adroddiad hwn yn dangos ymroddiad ac angerdd ein staff. Rydym yn falch iawn o gyrhaeddiad myfyrwyr ein prentisiaethau”.
Mae’r Brifysgol yn edrych ymlaen at yr Wythnos Prentisiaethau Genedlaethol rhwng 5–11 Chwefror a fydd yn rhoi cyfleoedd i gyflogwyr a darpar brentisiaid ddysgu rhagor am y ddarpariaeth sydd ar gael.
Ewch i’n stondin yn Hwb yr adeilad IQ trwy gydol wythnos prentisiaethau sy’n dechrau ar ddydd Llun 5ed Chwefror:
Prentisiaethau i Bawb – Ewch i’n stondin yn yr adeilad IQ am ragor o wybodaeth ar brentisiaethau.
Dydd Mawrth Astudiaethau Achos a Siopau Dros Dro – Edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol a byddwn yn cymryd ein prentisiaethau ar daith.
Dydd Mercher Cyflogwyr, Ystafell IQ002 – Archebwch stondin i arddangos eich busnes a recriwtio prentisiaid newydd, e-bostiwch: Emily Hunt – e.hunt@uwtsd.ac.uk i archebu eich stondin.
Dydd Iau Prentisiaid, Ystafell IQ307 – Digwyddiad rhwydweithio ar gyfer prentisiaid.
Dydd Gwener Dathlu, Ar-lein – seremoni wobrwyo ar-lein ar gyfer prentisiaid, swyddogion cyswllt prentisiaid a darlithwyr.
Dydd Sadwrn a Dydd Sul Hunluniau – trosolwg o’r wythnos prentisiaethau ar y cyfryngau cymdeithasol.
I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu stondin yn ein digwyddiad cyflogwyr, cysylltwch ag Emily Hunt – e-hunt@uwtsd.ac.uk
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07968 249335