Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymuno â’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd (CHTh) Dafydd Llywelyn i ddarparu hyfforddiant arbenigol i aelodau newydd cynllun Llysgenhadon Ieuenctid Dyfed-Powys.

Eight young people around a table in a horseshoe; the room is bright and modern with a large screen and projector.

Ddydd Mercher, Ionawr 31ain, croesawodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn naw o unigolion ifanc, yn cynnwys pum aelod newydd a phedwar aelod presennol, yn amrywio o 15 i 24 oed, i Bencadlys yr Heddlu yng Nghaerfyrddin. Nod y sesiwn sefydlu a hyfforddi oedd paratoi a chefnogi’r llysgenhadon hyn i gynrychioli lleisiau pobl ifanc ar draws Powys, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Cyflwynwyd yr hyfforddiant, sy’n rhan ganolog o’r rhaglen Llysgenhadon Ieuenctid, ar y cyd â darlithwyr Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol profiadol, Alana Enoch ac Angharad Lewis, o’r Athrofa: Athrofa Addysg a Dyniaethau Y Drindod Dewi Sant.

Dywedodd Angharad Lewis, Cyfarwyddwr Rhaglen BA ac MA Gwaith Ieuenctid ac Addysg Gymdeithasol Yr Athrofa: Sefydliad Addysg a Dyniaethau: Canolfan Plentyndod, Ieuenctid ac Addysg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:

“Roedd yn fraint cael bod yn rhan o Ddigwyddiad Sefydlu Fforwm Ieuenctid y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a threulio amser gyda’r Llysgenhadon Ieuenctid newydd. Roeddent yn dangos brwdfrydedd, cyfranogiad ac ymgysylltiad arbennig, ac mi fyddan nhw’n llysgenhadon ac eiriolwyr gwych ar gyfer pobl ifanc eraill ar draws ardal Heddlu Dyfed Powys. Mi fyddan nhw’n gaffaeliad i’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu, a dymunwn yn dda iddynt.”

Sefydlodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn Fforwm Ieuenctid am y tro cyntaf yn 2018 gyda llysgenhadon ieuenctid ac mae wedi parhau i adeiladu ar y gwaith hyd yma, fel bod gan Dyfed-Powys Fforwm o Lysgenhadon Ieuenctid sy’n barod i ‘ddylanwadu’ a ‘herio penderfyniadau’, sicrhau bod gan gymunedau Dyfed-Powys Heddlu sy’n diogelu plant a phobl ifanc yn llwyddiannus ac yn hybu eu lles.

Ym mis Gorffennaf 2023, cynhaliodd y grŵp blaenorol o lysgenhadon ieuenctid gynhadledd ieuenctid ym Mharc y Scarlets, Llanelli i gyflwyno canfyddiadau o ymgynghoriad ieuenctid yr oeddent wedi bod yn gweithio arno gyda CHTh Llywelyn yn ystod y flwyddyn academaidd. Gofynnodd ymgynghoriad Y Sgwrs i bobl ifanc sy’n byw yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Powys a Sir Benfro am eu barn a’u profiadau o gymorth iechyd meddwl i ddioddefwyr ifanc troseddau, camddefnyddio sylweddau a throseddau ieuenctid. Gofynnodd yr ymgynghoriad i bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc esbonio beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio a sut y gellid gwella pethau. Cyflwynwyd eu canfyddiadau mewn adroddiad, a rannwyd gyda sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn eu Cynhadledd Ieuenctid

Yn dilyn y Gynhadledd, mae Swyddfa CHTh Llywelyn wedi bod yn recriwtio aelodau ychwanegol i’r cynllun llysgenhadon ieuenctid, a ddaeth i gyd i’r sesiwn gynefino a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2024 ym Mhencadlys yr Heddlu.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Dafydd Llywelyn:

“Rwyf wastad wedi bod yn frwd dros feithrin perthynas gref gyda phobl ifanc ac rwyf am ddeall yn well beth sy’n arwain rhai pobl ifanc at droseddu ac anhrefn a sut y gellir eu helpu i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd.

“Rwyf am sicrhau bod gan bob bobl ifanc lais yn nyfodol plismona yn Nyfed-Powys. Rwyf am wybod beth ddylai ein blaenoriaethau fod yn eu barn nhw? Pa effaith mae trosedd yn ei chael arnyn nhw a’u cymuned? Beth sydd angen i ni ei newid?

“Roedd yn wych croesawu’r Llysgenhadon i Bencadlys yr Heddlu ar gyfer eu sesiwn sefydlu, a gorfod trafod materion amrywiol gyda nhw. Byddant nawr yn cynrychioli lleisiau pobl ifanc o bob cefndir, ac yn fy nghefnogi gyda fy ngwaith craffu trwy herio penderfyniadau, darparu argymhellion, a dylanwadu ar newid er budd pobl ifanc yn ein hardal.”

Dywedodd Bradley Cole sy’n Llysgennad Ieuenctid o Sir Benfro:

“Cawsom i gyd amser anhygoel yn y digwyddiad sefydlu. Rhoddodd gyfle i ni ddod i adnabod ein gilydd, a datblygu’r sgiliau i’n helpu i roi adborth i’r Comisiynydd a’i staff, ac rwy’n hapus iawn i allu gwneud hynny am yr ail flwyddyn.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau