Skip page header and navigation

Cynhelir cynhadledd hanner diwrnod yn archwilio’r berthynas rhwng Academi CISCO Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a’r Cwricwlwm newydd i Gymru ar 18 Ionawr ar Gampws SA1 y Brifysgol yn Abertawe.

Golygfa allanol o Adeilad IQ: pedwar llawr o frics a gwydr gyda baneri glas y Drindod Dewi Sant.

Mae’r gynhadledd wedi’i threfnu gan Ysgol Cyfrifiadura Cymhwysol a Chanolfan Gymorth Academi Rhwydweithio Cisco’r Brifysgol o 9.30am i 2pm. Bydd yn archwilio’r Cwricwlwm newydd i Gymru gan ganolbwyntio ar gamau Cynnydd Cyfrifiadurol 3, 4 a 5, a’r cyfleoedd ag Academi Rwydweithio Cisco i ddarparu model dysgu integredig sy’n cydblethu â’r diwydiant.   

Ymysg y siaradwyr bydd Semyon Ovsyannikov, Uwch Reolwr Technegol Rhanbarthol yn Cisco – EMEAR ac Elizabeth Barr, Rheolwr Datblygu Busnes, Academi Rwydweithio Cisco y DU ac Iwerddon a Vicki Price, Pennaeth Cyfrifiadura yn Ysgol Greenhill yn Ninbych y Pysgod, Sir Benfro.

Mae Semyon yn arbenigwr addysg a thechnoleg sy’n ysgogi ac yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu rhaglen cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol Cisco ar hyn o bryd, Academi Rwydweithio yn Ewrop. Mae ganddo 15 mlynedd o brofiad yn gweithio ar brosiectau addysg TGCh rhyngwladol.

Bydd Andrew Smith, Uwch Ddarlithydd mewn Rhwydweithio yn y Brifysgol Agored, hefyd yn traddodi sgwrs.

Mae Andrew yn gyn-reolwr rhwydwaith, a fu’n gweithio i sefydliadau amrywiol yn y 1990au cyn dod yn ddarlithydd coleg addysg bellach ym 1996. Fe sefydlodd Academi Ranbarthol Cisco yng Ngholeg Barnfield yn Luton ym 1999, mae Andrew wedi gweithio ar amryw brosiectau gan gynnwys datblygu casgliad cymwysterau BTEC, ymgorffori cymhwyster gwerthwr i’r FfCCh, ac mae’n awdur sawl gwerslyfr a dogfennaeth yr amgylchedd efelychu Packet Tracer. Uwch ddarlithydd yw Andrew ar hyn o bryd a bu’n gweithio’n llawn amser i’r Brifysgol Agored ers 2008, ar ôl bod yn ymgynghorydd a darlithydd cyswllt ers 2003. Mae bellach yn arwain ASC Academi Cisco yn y Brifysgol Agored.

Meddai Dr Nitheesh Murugan Kaliyamurthy, Uwch Ddarlithydd a Rheolwr Rhaglen (TystAU – Sgiliau Digidol, Peirianneg, Electroneg, Adeiladu) yn PCYDDS: “Bydd y gweithdy’n helpu cydlynwyr sgiliau digidol, athrawon TGCh, a phenaethiaid i archwilio cyfleoedd amrywiol i alinio’r cwricwlwm, yn enwedig ar gamau cynnydd cyfrifiadurol, â gofynion presennol y diwydiant.

“Bydd hefyd yn galluogi Athrawon TGCh i rannu eu harferion gorau i arbed amser ac adnoddau, wrth wella ansawdd ac effeithlonrwydd.”

I gofrestru, anfonwch e-bost at itacademy@uwtsd.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost:  rebecca.davies@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau