Skip page header and navigation

Fel rhan o sgyrsiau’r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol yn Y Drindod Dewi Sant, bydd y croestoriad hudolus o freuddwydion, celf, gwyddoniaeth ac athroniaeth yn dod yn fyw yn Noah’s Yard yn ardal fywiog Uplands Abertawe’r wythnos hon.

Yr Athrawon Mark Blagrove a Julia Lockheart yn dal y gwaith celf Flying Dream (2018) rhyngddynt.
test

Mae’r Salon Breuddwydion, digwyddiad byw wedi’i guradu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn addo noson o archwilio deallusol a datguddiad artistig. Bydd mynychwyr y digwyddiad yn rhan o brofiad rhyfeddol lle bydd eu breuddwydion diweddar yn cael lle canolog yn y drafodaeth. Bydd un freuddwyd yn cael ei dewis i’w dehongli’n fyw, ei thrafod, a’i phaentio’n fyw ar dudalennau a dynnwyd o waith arloesol Sigmund Freud, The Interpretation of Dreams.

Bydd taith y freuddwyd o’r anymwybodol i’r ffurf weledol yn cael ei threfnu gan yr artist enwog Julia Lockheart, Athro yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS. Mark Blagrove, Athro Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe, fydd yn arwain y trafodaethau breuddwydiol, gan ychwanegu persbectif academaidd at yr ymdrech artistig.

Mae’r Athro Julia Lockheart yn mynegi ei brwdfrydedd dros y fenter amlddisgyblaethol hon, gan nodi, “Mae breuddwydion yn cynnig cynfas unigryw ar gyfer mynegiant artistig. Trwy’r digwyddiad cydweithredol hwn, ein nod yw ymchwilio i’r isymwybod a dod â dehongliad gweledol sy’n croesi ffiniau traddodiadol. Rwy’n siŵr mae’r rhan fwyaf ohonom wedi bod yn dyst i eiliadau ‘aha’ pan fydd breuddwydwyr yn gweld y cysylltiadau rhwng eu breuddwydion a bywyd deffro.”

Nid proses o greu darlun yn unig yw’r Salon Breuddwydion ond proses o ddatrys haenau’r seice dynol. Dywedodd Dr Rebekah Humphreys, trefnydd digwyddiadau’r sgyrsiau Athroniaeth:

“Mae’r digwyddiad hwn yn ymgorfforiad o’r ymasiad rhwng gwyddoniaeth, celf, ac athroniaeth. Mae’n gyfle i archwilio’r cysylltiadau dwys rhwng ein breuddwydion a phryderon bywyd pan rydym ar ddihun.

“Unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol am eu cefnogaeth sydd wedi rhoi’r cyfle i ni drefnu’r sgyrsiau hyn yn y brifysgol. Mae’r sgyrsiau hyn yn rhoi cyfle unigryw i glywed gan arbenigwyr o bob rhan o’r byd. Mae’n rhoi cyfle i staff, myfyrwyr ac aelodau o’n cymunedau yn Llambed, Caerfyrddin ac Abertawe i archwilio pynciau pwysig trwy fewnwelediadau’r siaradwyr amlwg hyn.”

Ariennir y digwyddiad yn hael gan y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol fel rhan o Sgyrsiau Athroniaeth Y Drindod Dewi Sant, cyfres sydd â’r nod o ennyn diddordeb y cyhoedd mewn trafodaethau athronyddol ar bynciau cyfoes.

Cynhelir Y Salon Breuddwydion rhwng 19:00 a 21:00 ddydd Mercher, 17 Ionawr yn Noah’s Yard, Abertawe SA2 0PG.

I gael rhagor o fanylion ac i weld Gweithiau Celf o ddigwyddiadau blaenorol, ewch i DreamsID.com neu ewch ati ddarllen y llyfr clodwiw, The Science and Art of Dreaming, a gyhoeddwyd gan Routledge yn 2023. I gael gwybodaeth bellach ynghylch y digwyddiad yr wythnos hon, cysylltwch â’r Athro Rebekah Humphreys ar r.humphreys@pcydds.ac.uk


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon