Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyhoeddi dathlu 15 mlynedd o’i Fframwaith Arfer Proffesiynol, carreg milltir sy’n nodi degawd a hanner o feithrin datblygiad a thwf proffesiynol.

Pobl mewn ystafell gynadledda lawn yn codi ei dwylo fel pe baent yn ymateb i gwestiwn.

Nid yn unig y mae’r fframwaith unigryw hwn yn grymuso unigolion yn eu meysydd perthnasol ond hefyd, mae wedi gadael effaith positif a gwirioneddol ar y sefydliadau maent yn eu gwasanaethu.

Mae’r Fframwaith wedi’i deilwra i gyfoethogi sgiliau a gwybodaeth gweithwyr proffesiynol, gan arwain at lwyddiannau anhygoel. Mae nifer o unigolion wedi ymgymryd ag astudiaethau o fewn y fframwaith wedi cael dyrchafiadau yn eu gyrfaoedd, gan arddangos effaith y rhaglen yn y byd go iawn.

Nodwedd benodol o’r Fframwaith yw ei ymrwymiad i achredu dysgu blaenorol trwy brofiad, gan ychwanegu gwir werth i gywerthedd proffesiynol. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn cydnabod y cyfoeth o wybodaeth a sgiliau a gafwyd trwy brofiadau ymarferol, gan ddarparu llwybrau i ymarferwyr proffesiynol at ragoriaeth bellach a chael cydnabod eu harbenigedd.

Mae’r Brifysgol yn credu mewn darparu profiad dysgu deinamig sy’n rhoi i unigolion y sgiliau sydd eu hangen i ragori yn eu teithiau proffesiynol. Mae’r rhaglen yn cynnig ystod amrywiol o fodylau sydd â’u ffocws ar ddysgu sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Mae’r modylau hyn wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch, hyblyg, cynhwysol, ac yn bwysicach oll, yn berthnasol i bob diwydiant.

Mae’r Brifysgol yn cydnabod na fyddai’r cyrhaeddiad hwn wedi bod yn bosibl heb gymorth cadarn a chydweithrediad ei chleientiaid yn y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Mae’r Brifysgol yn eithriadol o ddiolchgar am y ffydd a roddwyd yn y Fframwaith Arfer ac mae’n edrych ymlaen at barhau â’r cydweithio effeithiol hwn.

Wrth i’r brifysgol ddathlu 15 mlynedd o’r Fframwaith Arfer Proffesiynol, mae’n ailddatgan ei hymrwymiad i ddarparu addysg ardderchog a chyfrannu at lwyddiant unigolion a sefydliadau.

Mae Lowri Harris, Rheolwr Rhaglen y Fframwaith Arfer Proffesiynol, yn eithriadol o falch o’r cyfleoedd trawsnewidiol a roddir i nifer di-rif o unigolion a sefydliadau. Meddai:

“O roi hyder i ddysgwyr dihyder i feithrin sgiliau academaidd ac ymchwil cadarn, mae’r fframwaith wedi bod yn gatalydd ar gyfer twf personol, proffesiynol a chyfundrefnol ardderchog.

“Mae tîm y Fframwaith yn edrych ymlaen at gydweithio yn y dyfodol, ac yn bwriadu cynnal ac ymestyn eu heffaith bositif ar y tirlun addysgol o fewn sefydliadau yng Nghymru a ledled y byd.”

Mae’r tîm yn cynnal gweminar ym mis Chwefror, felly os hoffech ddysgu rhagor am y posibiliadau o fewn y Fframwaith Arfer Proffesiynol, e-bostiwch ppf@uwtsd.ac.uk, neu ffoniwch 01267 676882.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau