Skip page header and navigation

Mae tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn helpu i ysbrydoli tadau trwy ddarparu llwyfan ar gyfer creadigrwydd a datrys problemau ar y cyd â’u plant.

Dau ffotograff yn dangos dau dad yn helpu eu plant gyda lego.

Bu’r tîm yn gweithio’n agos ag oedolion yng nghymuned Sandfields, Port Talbot, ac mae sawl unigolyn wedi cwblhau nifer o gyrsiau sy’n bwydo i mewn i bortffolio’r Brifysgol, megis Troseddeg a’r Blynyddoedd Cynnar.

Mae rhieni yn Ysgol Awel y Môr wedi cwblhau nifer o gyrsiau, ac fe gysylltodd Swyddog Lles yr Ysgol, Vicky Hibben, â’r Brifysgol i drefnu gweithdy gyda rhai o’r tadau yn yr Ysgol. Arweiniodd hyn at sesiwn her adeiladu blociau ymarferol a rhyngweithiol gyda phlant yn yr ysgol.

Oherwydd galw mawr, mae sesiynau lluosog yn cael eu cynnal yn yr Ysgol. Bydd ymweliad ar gyfer yr holl dadau dan sylw yn cael ei drefnu yn ystod y Gwanwyn er mwyn iddynt allu cymryd rhan mewn cyfres o weithdai rhyngweithiol ar ein Campysau yn Abertawe.

Meddai Donna Williams, Swyddog Ehangu Mynediad, “Roedd hi’n wych bod rhywun wedi dod ata i a gofyn i ddarparu sesiwn oherwydd cefais mai menywod yn bennaf sydd wedi mynychu’r cyrsiau a gynhaliwyd gennym yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.  

“Roeddwn i’n chwilio am weithgaredd a fyddai’n ennyn diddordeb mwy o ddynion a chefais fod y gweithdai adeiladu blociau yn berffaith. Mae gan adeiladu nifer o fanteision i bawb, fel gwella sgiliau gwybyddol, magu hyder, ac mae’n ardderchog ar gyfer chwalu straen! Mae hi wedi bod yn braf eu gweld nhw’n ymwneud â’u plant yn y sesiynau ac wrth gwrs gweld eu hysbryd cystadleuol yn dod i’r golwg. Rydym eisoes wedi trafod mwy o sesiynau i ddilyn hyn ac mae llawer o’r tadau’n awyddus i fynd i’n campws yn Abertawe ar gyfer diwrnod o archwilio’r hyn sydd gennym i’w gynnig a chymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau a gaiff eu darparu.”

Meddai Vicky Hibben, Swyddog Lles yn Ysgol Awel y Môr, “Pan ddechreuom gyfranogiad rhieni bedair blynedd yn ôl, mamau oedd yn dod yn bennaf, ond rydym wedi bod yn gwneud rhai gweithgareddau’n ddiweddar i geisio ymgysylltu â mwy o’r tadau yn yr ysgol. Mae gweithio gyda’r Brifysgol wedi bod o fudd mawr i’r rhieni yn yr ysgol, unwaith mae’r rhwystr cychwynnol wedi’i chwalu maen nhw’n awyddus i gymryd rhan.

“Mae’r rhieni wedi gallu cael mynediad at nifer o gyrsiau ac maen nhw’n cadw gofyn ‘beth sy’ nesaf?’ Roeddem am roi cyfle i’r tadau ymgysylltu â’r Brifysgol gyda rhywbeth ymarferol ac mae’r sesiynau wedi bod yn llwyddiant ysgubol.”

Meddai Simon James, un o’r Tadau a aeth i’r sesiwn her adeiladu: “Fe wnaethom fwynhau’r sesiwn gyda’r Brifysgol yn fawr, ac fe wnes i fwynhau bod yn gystadleuol gyda thadau eraill yn arbennig. Roedd hi’n braf cael cwrdd â rhai o’r tadau eraill yn yr ysgol a gwneud gweithgaredd gyda fy machgen bach. Byddaf yn sicr yn dod eto.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau