Skip page header and navigation

Mewn cyfarfod diweddar o Gyngor Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant cymeradwywyd penodiad Emlyn Dole yn Ddarpar-Gadeirydd y corff llywodraethu.

Emlyn Dole

Fe fydd Emlyn Dole yn olynu’r Hybarch Randolph Thomas, a fydd yn ymddeol ar ȏl naw mlynedd wrth y llyw, wedi cyfnod o weithio gydag ef yn y rôl.

Mae Emlyn Dole yn adnabyddus fel cyn-arweinydd Cyngor Sir Gâr a oedd yn gyfrifol am weledigaeth a strategaeth gorfforaethol y Cyngor. Yn ei rôl fel arweinydd, ef oedd un o brif benseiri Bargen Ddinesig Bae Abertawe ynghyd â llwyddiant y Cyngor i ddenu cyllid Ffyniant Bro (Levelling Up) o du Llywodraeth y DU.

Dywedodd Yr Hybarch Randolph Thomas: “Mae’n bleser gan Gyngor y Brifysgol gymeradwyo penodiad Emlyn Dole yn ddarpar gadeirydd newydd. Mae Emlyn Dole yn arweinydd profiadol sydd wedi bod yn gyfrifol am arwain rhai o’r prosiectau mwyaf trawsnewidiol yn ne-orllewin Cymru. Mae’n gyfathrebwr penigamp a fydd yn gaffaeliad mawr i’r brifysgol wrth iddi lywio cyfnod newydd a chyffrous yn ei hanes nodedig”.

Meddai Emlyn Dole am ei benodiad: “Rwy’n ei hystyried yn fraint ac yn anrhydedd cael fy nghymeradwyo yn Ddarpar Gadeirydd y Cyngor. Fy ngobaith a’m bwriad wrth ymgymryd â’r rôl hon yw defnyddio fy mhrofiad fel Arweinydd er mantais a budd sefydliad sy’n agos at fy nghalon. Mae lle a dylanwad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ein cymdeithas yn sylweddol ac mae’r cyfle i arwain, i hyrwyddo ac i ymestyn ehangder y weledigaeth sydd eisoes yn ei lle yn un gwbl gyffrous.

“Rwy’n ymwybodol iawn  fy mod i’n camu i esgidiau sylweddol fy rhagflaenydd yr Hybarch Randolph Thomas ac rwy’n ddiolchgar iddo ef am ei holl waith a’i ymroddiad egnïol. Fy mwriad yn syml iawn yw sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i lwyddo ac i haeddu ei phriod le fel sefydliad mentrus a llwyddiannus yn ei chenhadaeth i drawsnewid addysg yng Nghymru a thrwy hynny, wrth gwrs, drawsnewid bywydau’r bobl a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu yma yng Nghymru ac yn ehangach”.

Fe fydd Emlyn Dole yn ymuno â Chyngor y Brifysgol ar unwaith a bydd yn treulio cyfnod o amser yn gweithio gyda’r cadeirydd presennol, Yr Hybarch Randolph Thomas, yn y lle cyntaf.

Nodyn i’r Golygydd

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn rhan o Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy’n gydffederasiwn o nifer o sefydliadau yn cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Mae Prifysgol Cymru yn bartner i’r grŵp. Mae’r Grŵp yn cynnig continwwm o addysg bellach i addysg uwch er budd dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau.

Gweledigaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw bod yn Brifysgol sydd ag ymrwymiad i lesiant a threftadaeth y genedl wrth galon ei holl weithgareddau. Rhan ganolog o’r weledigaeth hon yw hyrwyddo a gwreiddio system addysg sector deuol sy’n addysgu dysgwyr o bob oed a chefndir, gan sbarduno datblygiad economaidd yn y rhanbarth, ar draws Cymru a thu hwnt.

Sefydlwyd y Brifysgol yn 1822 a dathlodd ei daucanmlwyddiant yn 2022. Mae’n ymhyfrydu yn yr anrhydedd o fod yn fan geni addysg uwch yng Nghymru. Ei Siarter Frenhinol a ddyfarnwyd yn 1928 yw’r hynaf o blith holl brifysgolion Cymru. Lleolir campysau’r Brifysgol yn Abertawe, Caerfyrddin, Llambed, Caerdydd, Llundain a Birmingham.

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i wneud myfyrwyr yn ganolog i’w chenhadaeth drwy ddarparu cwricwlwm dwyieithog, perthnasol, sy’n ysbrydoli, ynghyd â darparu amgylchedd dysgu cefnogol, buddsoddi yn ei champysau a’i chyfleusterau a sicrhau bod myfyrwyr, o bob cefndir, yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o hyd at £1.3 biliwn mewn portffolio o raglenni a phrosiectau mawr ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Dros oes 15 mlynedd y portffolio, bydd y Fargen Ddinesig yn rhoi hwb o leiaf £1.8 biliwn i’r economi ranbarthol, tra’n creu dros 9,000 o swyddi. Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan y pedwar awdurdod lleol rhanbarthol - Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-Nedd Port Talbot a Chyngor Sir Benfro - ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a phartneriaid yn y sector preifat.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau