Skip page header and navigation

Mae’r Athro Elwen Evans, KC, wedi’i phenodi’n Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Llun o’r Is-Ganghellor newydd, yr Athro Elwen Evans
Professor Elwen Evans, KC (Ffotograffydd: Aled Llywelyn)

Bydd yn olynu’r Athro Medwin Hughes, DL, a fydd yn ymddeol ar ôl gwasanaethu yn y swydd am 23 o flynyddoedd. Bydd yn dechrau yn ei rôl yn Ddarpar Is-Ganghellor ym mis Mehefin gan gymryd yr awenau fel Is-Ganghellor gan yr Athro Hughes ym mis Medi.

Ar hyn o bryd, yr Athro Elwen Evans, KC, yw Dirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Abertawe gyda chyfrifoldeb am yr Iaith a Diwylliant Cymraeg yn y Brifysgol.

Dywedodd yr Athro Evans, arweinydd benywaidd cyntaf y prifysgolion a’r sefydliadau a’u rhagflaenodd:  “Mae’n anrhydedd mawr i mi gael fy mhenodi i rôl Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr, myfyrwyr a llywodraethwyr yn y Brifysgol a gyda phartneriaid allanol i sicrhau llwyddiant parhaus y ddau sefydliad uchel eu bri.”

Astudiodd yr Athro Evans y Gyfraith yng Ngholeg Girton, Caergrawnt, gan raddio â gradd dosbarth cyntaf ddwbl: M.A. (Cantab). Ar ôl graddio aeth ymlaen i Ysgol y Gyfraith Ysbytai’r Frawdlys ac fe’i galwyd i’r Bar gan Gray’s Inn yn 1980. Fe’i penodwyd yn Gwnsler y Frenhines yn 2002.

Mae’r Athro Evans wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus iawn yn fargyfreithiwr gan ddewis ymarfer yng Nghymru yn bennaf. Mae wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o waith cyfreithiol, ac wedi arbenigo mewn cyfraith trosedd ar lefelau treial ac apeliadau. Mae ei gwaith wedi cynnwys llawer o achosion difrifol, cymhleth, sensitif ac uchel eu proffil, megis arwain y tîm erlyn yn achos April Jones a’r tîm amddiffyn yn achos trychineb Glofa Gleision. Mae hi’n Gofiadur Llys y Goron ers cael ei phenodi yn 2001. Bu’n Bennaeth Iscoed Chambers am dros 15 mlynedd, gan ymddiswyddo adeg ei phenodi ym Mhrifysgol Abertawe yn 2015. Fe’i penodwyd i rôl Pennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg a hi oedd yn gyfrifol am sefydlu Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Yn 2020, fe’i penodwyd yn Ddirprwy Is-Ganghellor a Deon Gweithredol ar gyfer Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a bu’n gyfrifol am arwain twf llwyddiannus y Gyfadran yn ystod y cyfnod hwn. Roedd ei phortffolio hefyd yn cynnwys cynnig arweiniad strategol i weithgareddau cenhadaeth ddinesig y Brifysgol a datblygu perthnasoedd y Brifysgol yn llwyddiannus gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys cyn-fyfyrwyr a chymwynaswyr.

Gyda’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddi, mae hi’n Feinciwr yn ei Hysbyty, fe’i hanrhydeddwyd gan Orsedd y Beirdd am ei gwasanaethau i’r Gyfraith yng Nghymru a bu’n Gomisiynydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae hi wedi gwasanaethu ar amrywiaeth eang o gyrff a phwyllgorau allanol, gan adlewyrchu ei meysydd profiad a diddordeb proffesiynol. Yn 2018, roedd ymhlith y 10 uchaf ar restr yn dathlu 100 o fenywod mwyaf ysbrydoledig Cymru.

Llun o’r Is-Ganghellor newydd, yr Athro Elwen Evans a’r Hybarch Randolph Thomas
Yr Hybarch Randolph Thomas a'r Athro Elwen Evans, KC (Ffotograffydd: Aled Llywelyn)

Dywedodd yr Hybarch Randolph Thomas, Cadeirydd Cynghorau’r Prifysgolion: “Rwyf i wrth fy modd fod yr Athro Elwen Evans, KC, wedi’i phenodi i rôl Is-Ganghellor Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.  Mae’r Athro Evans wedi mwynhau gyrfa ddisglair ym maes y gyfraith ac yn y byd academaidd ac rydym yn edrych ymlaen at ei harweinyddiaeth yn y sefydliadau hanesyddol hyn”.

Ychwanegodd Emlyn Dole, Darpar Gadeirydd Cyngor y Brifysgol: “Llongyfarchiadau diffuant i Elwen Evans ar gael ei phenodi’n Is-Ganghellor. Edrychaf ymlaen yn fawr at gydweithio gyda hi i gyflawni cenhadaeth y Brifysgol, sef trawsnewid addysg a bywydau’r unigolion a’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu”.

Ategodd yr Athro Medwin Hughes, DL,: “Hoffwn longyfarch yr Athro Evans ar ei phenodiad a dymunaf yn dda iddi yn y swydd. Mae hi’n adnabyddus fel arweinydd creadigol a deinamig sydd â hanes amlwg o gyflenwi rhaglenni trawsnewid, newid diwylliannol a datblygu strategol llwyddiannus.

“Mae hi’n ymuno â sefydliadau nad ydynt erioed wedi ofni newid. Lles y genedl sydd wrth wraidd taith drawsnewidiol Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd yr Is-Ganghellor newydd yn parhau â’r gwaith i sefydlu Prifysgol newydd i Gymru. Gallaf ei sicrhau y gall ddibynnu ar gefnogaeth lawn y Prifysgolion wrth iddi ddechrau ar y bennod newydd gyffrous hon yn hanes ein sefydliadau.”


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau