Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Y Drindod Dewi Sant) ac Institut Supérieur d’Electronique de Paris (ISEP) wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MC) i rannu arbenigedd, hwyluso cyfnewidfa astudio myfyrwyr a staff, ac archwilio cyfleodd ymchwilio ar y cyd.

Y tu allan i adeilad yr Institut Supérieur d’Electronique de Paris (ISEP)

Cyflogadwyedd yw un o werthoedd craidd Y Drindod Dewi Sant ac ISEP a byddant yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu graddedigion cyflogadwy, gwydn sy’n llythrennog yn ddigidol.

Sefydlwyd ISEP yn 1955, ac mae’n Ysgol Beirianneg ddielw i Raddedigion yn Ffrainc, a gydnabyddir gan Wladwriaeth Ffrainc. Mae ISEP yn hyfforddi peirianwyr o’r radd flaenaf ym meysydd y technolegau digidol: TG, Electroneg, Telegyfathrebu, Deallusrwydd Artiffisial, Signal a Delwedd a’r Dyniaethau. Mae ISEP yn darparu rhaglenni academaidd amrywiol: Baglor, Meistr, Meistr Arbenigol a PhD. Cyflwynir y rhaglenni peirianneg yn ISEP yn Ffrangeg a Saesneg.

Mae partneriaethau cryf yn galluogi i ISEP ddarparu cwricwlwm amrywiol sy’n cadw’n gyfredol. Mae gan ISEP dros 400 o bartneriaid corfforaethol mewn gwahanol ddiwydiannau (e.e. Airbus, IBM, Thals, Dassault, Cap Gemini, Renault, ayb) ac mae ganddi raglen fyd-eang gyda thros 150+ o sefydliadau rhyngwladol.

Y bartneriaeth yw’r diweddaraf mewn portffolio o raglenni sydd ar gael i fyfyrwyr o ystod eang o ardaloedd daearyddol ac mae’n cynnig iddynt brofiad addysg gwirioneddol fyd-eang. Mae myfyrwyr a staff rhyngwladol yn cyfoethogi profiad y myfyriwr, yn cyfoethogi dysgu ac addysgu, ac yn helpu i baratoi graddedigion Cymru yn well ar gyfer byd gwaith.

Hefyd, mae’r bartneriaeth yn cyd-daro â lansiad menter ‘Cymru yn Ffrainc’ Llywodraeth Cymru, dathliad blwyddyn o ddigwyddiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon a gynlluniwyd i gryfhau cysylltiadau presennol a llunio cysylltiadau newydd rhwng y ddwy wlad.

Yn rhan o’r prosiect cydweithio, bydd myfyrwyr Y Drindod Dewi Sant yn cael y cyfle i wneud cais am brosiect symudedd a ariennir gan Taith yn yr Hydref a bydd myfyrwyr o Baris yn ymweld â champws SA1 y Brifysgol yn Abertawe, gyda chyfleusterau cyfrifiadura a pheirianneg o’r radd flaenaf, gan gynnwys Academi Rhwydweithio Cisco Y Drindod Dewi Sant. Taith yw rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol newydd Cymru, gan greu cyfleoedd sy’n newid bywydau i deithio, gwirfoddoli a dysgu ar gyfer myfyrwyr.

Mynychodd Dr Kapilan Radhakrishnan, Cyfarwyddwr Academaidd (Cyfrifiadura Cymhwysol) Y Drindod Dewi Sant gynhadledd Diogelwch Data a gynhaliwyd gan ISEP ym Mharis fis Rhagfyr diwethaf i gyflwyno sgwrs ar wahanol fodelau storio cwmwl, materion diogelwch data cwmwl, y cylch oes diogelwch data, a modelau amgryptio cwmwl.

Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol (Gogledd America a Symudedd Allanol), Academi Fyd-eang Cymru: “Nodwedd allweddol o raglen Taith yw cydgyfnewidiaeth; y gallu i feithrin a datblygu partneriaid tramor sydd eisoes yn ymrwymo i drefniadau dwyffordd o ran cyfnewid myfyrwyr. Trwy Taith, mae’r ymagwedd hon yn galluogi lleoliadau o ansawdd uchel ac yn cyfrannu at ein huchelgais i roi’r cyfle i bob myfyriwr cartref astudio’n rhyngwladol.”

Meddai’r Athro Medwin Hughes, DL, Is-Ganghellor Y Drindod Dewi Sant: “Rwyf wrth fy modd bod y Brifysgol wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gydag ISEP a fydd yn cryfhau ein proffil rhyngwladol ac yn creu cyfleoedd i staff a myfyrwyr ddilyn eu diddordebau, gyda chyfleoedd o’r un fath i ddysgwyr o dramor yma yng Nghymru.

“Bydd y bartneriaeth yn galluogi i fyfyrwyr gymryd rhan yn ein rhaglen astudio dramor trwy fenter Taith Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn rhoi cyfle rhagorol i fyfyrwyr gael profiad o fyw ac astudio mewn gwlad arall ac i gael cipolwg gwerthfawr ar gyfleoedd cyflogaeth rhyngwladol.”

Nodyn i’r Golygydd

Crëwyd yr Institut Supérieur d’Electronique de Paris, sydd wedi’i leoli yng nghalon Paris, ger y ‘Quartier Latin”, yn 1955, ar yr union fan y gwnaeth Edouard Branly, Athro Ffiseg ym Mhrifysgol Catholig Paris (21 Rue d’Assas), ddarganfod y dargludydd radio a fyddai’n arwain at ddyfeisio’r Teledu Ffrengig yn 1890.

Wrth wraidd addysgeg ISEP, mae arloesi a’r digidol yn mynd law yn llaw. Mae’r hyfforddiant yn ffocysu ar sgiliau pwysig, wedi’u hysbrydoli gan anghenion busnes, fel dylunio a modelu gwrthrychau technolegol, caffael arbenigedd penodol a bod yn agored i’r byd, creu ‘Encouraged’ yn ISEP.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau