Prosiect TALES Arfordirol dan arweiniad y Brifysgol yn ennill cyllid yng Ngalwad Hinsawdd a Threftadaeth Ddiwylliannol Fforwm Belmont
Mae’r prosiect TALES Arfordirol, dan arweiniad canolfan BRIDGES UNESCO-MOST (Y DU) yn PCYDDS, wedi ennill €770,000 o gyllid yng nghyd-alwad Hinsawdd a Threftadaeth Ddiwylliannol Fforwm Belmont (CCH 2023).
Nod y fenter gydweithredol yw mynd i’r afael â heriau yn y croestoriad rhwng newid hinsawdd a threftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys timau o’r Iwerddon, yr Unol Daleithiau, a Chymru. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddeall a chadw strategaethau addasol cymunedau arfordirol sy’n wynebu effeithiau newid hinsawdd.
Mewn maes hynod gystadleuol a welodd bedwar deg dau o gynigion cymwys gan dimau ymchwil amrywiol ar draws gwledydd sy’n cymryd rhan, mae’r prosiect TALES Arfordirol a phymtheg o fentrau eraill wedi cael eu hargymell am gyllid yn dilyn gwerthusiad trylwyr gan Banel o Arbenigwyr. Mae’r €14.6 miliwn o gyllid yn cefnogi un ar bymtheg o brosiectau, pob un yn cyfrannu mewnwelediadau unigryw i heriau a osodir gan newid hinsawdd ar dreftadaeth ddiwylliannol.
Meddai Luci Attala, Cyfarwyddwr yng Nghanolfan BRIDGES UNESCO (Y DU) ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:
“Rydym yn falch iawn o glywed y newyddion fod y prosiect TALES Arfordirol wedi bod yn llwyddiannus yn y cais hwn. Yn wyneb newid hinsawdd, mae treftadaeth ddiwylliannol yn chwarae rhan hanfodol wrth siapio cymunedau gwydn.”
Ymhlith y mentrau a ddewiswyd yn ofalus, mae’r prosiect TALES Arfordirol, dan arweiniad tîm cydweithredol o ymchwilwyr o’r Iwerddon, yr Unol Daleithiau, a Chymru, yn sefyll allan fel prawf o amrywiaeth yr heriau yn y cysylltle rhwng treftadaeth ddiwylliannol a newid hinsawdd. Nod y prosiect hwn sy’n torri tir newydd yw datguddio a chroniclo strategaethau addasol cymunedau arfordirol sy’n ymgodymu ag effeithiau pellgyrhaeddol newid hinsawdd. Mae’r Athro Louise Steel o PCYDDS yn un o’r rhai sy’n arwain y prosiect. Meddai:
“Mae TALES Arfordirol yn gam hollbwysig tuag at ddeall a chadw strategaethau addasol cymunedau arfordirol. Trwy ymdrechion trawsddisgyblaethol cydweithredol, credwn fod y prosiect TALES Arfordirol yn ymgorffori ymrwymiad a rennir i fynd i’r afael â’r heriau cymhleth a gyflwynir gan gyfuno newid hinsawdd a threftadaeth ddiwylliannol.”
Mae’r amgylcheddau prifysgol allweddol sy’n arwain y prosiect yn cynnwys Canolfan BRIDGES y DU ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant; Coleg y Drindod Dulyn; a’r BRIDGES Flagship Hub ym Mhrifysgol Talaith Arizona. Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Washington, Seattle a SUNY Cortland hefyd yn cyfrannu at lwyddiant y prosiect. Mae Universidade do Porto hefyd yn cefnogi’r fenter.
Ymhlith y partneriaid cymunedol hollbwysig, y mae Cymdeithas Coryglau a Rhwydwyr Caerfyrddin, Pysgod a Helwriaeth Dyffryn Tywi, a Physgod Bae Aberteifi a Câr-y-Môr, y sefydliad addysg amgylcheddol ac ieuenctid, ECO-UNESCO, yr Archaeological Diving Company (Iwerddon), y Native Village of Old Harbor, yr Alutiiq Tribe of Old Harbor, Old Harbor Alliance, yr Old Harbor Native Corporation, ac Amgueddfa ac Ystorfa Archeolegol Alutiiq (UDA), a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau effaith y prosiect yn y byd go iawn.
I gael gwybodaeth fanylach am y prosiect TALES Arfordirol a’r fenter ar y cyd, ewch i wefan Fforwm Belmont.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076