Rhaglen BA Dawns Fasnachol PCYDDS yn cynnal ‘Llwybrau’ i Ddathlu Dawns yng Nghymru.
Mae’r Rhaglen BA Dawns Fasnachol o Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru (WAVDA) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cynnal digwyddiad arbennig i ddathlu dawns yng Nghymru.
Cynhaliwyd diwrnod o weithdai dawns yn Nhŷ Haywood, cartref WAVDA ar gampws Caerdydd y Brifysgol, wedi’i drefnu gan y rhaglen BA Dawns Fasnachol. Lluniwyd uchelgais y digwyddiad ‘Llwybrau’ yn ystod modwl 2il flwyddyn i hyrwyddo cryfder dawns yng Nghymru, ac i arddangos gwaith y myfyrwyr Dawns Fasnachol yn y brifysgol.
Darparodd y digwyddiad brofiad i fyfyrwyr dawns yn yr Academi gan roi blas ar ddiwrnod yn y diwydiant wrth weithio gyda dawnswyr a choreograffwyr proffesiynol adnabyddus gan gynnwys Jesse Thornton, Dave Blaque, Gaia Cicolani, a Rheolwr Rhaglen Dawns Fasnachol PCYDDS, Tori Johns. Daeth pob artist ag arddull a dull gwahanol i’r digwyddiad y cafodd myfyrwyr WAVDA gyfle i ddysgu ohonynt.
Cafodd y myfyrwyr fod y digwyddiad yn fuddiol. Dywedodd Honey Boughey:
“Cefais amser gwych yn archwilio arddulliau gwahanol megis Afrobeats. Gadewais y sesiwn yn teimlo’n gryf ac yn gadarnhaol am fy nghwrs. Roedd hi hefyd yn dda iawn cael bod yn rhan o’r tîm a fu’n trefnu’r digwyddiad”.
Ychwanegodd un o’r myfyrwyr, Kirstin Mills:
“Rhoddodd gipolwg i mi ar lawer o arddulliau dawns gwahanol ac fe wnes i fwynhau’n fawr gweithio gyda’r holl ddawnswyr proffesiynol gwahanol”.
Meddai Rheolwr Rhaglen BA Dawns Fasnachol PCYDDS, Tori Johns:
“Mae hi wedi bod yn gyffrous cynnal Llwybrau yma yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru, digwyddiad a luniwyd ac a reolwyd gan ein Myfyrwyr Dawns Fasnachol Lefel 5 yn rhan o’u cwrs. Roedd yn gyfle i ni ddathlu Dawns yng Nghymru yn WAVDA sy’n rhedeg yr unig raglen Dawns yn y wlad ar hyn o bryd. Profodd y myfyrwyr ddiwrnod dwys o weithdai gan weithwyr proffesiynol y diwydiant sydd i gyd â chysylltiadau â Chymru, gan ddarparu cyfoethogiad, hyfforddiant a phrofiad amhrisiadwy.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476