Skip page header and navigation

Mae prentis Gradd Ddigidol PCYDDS, Tyler Williamson, 26, yn astudio ar gyfer Gradd Gwyddor Data Cymhwysol a dywed fod y Brifysgol wedi helpu ei yrfa, yn broffesiynol ac yn bersonol.

Tyler Williamson yn gwenu.

Ar ôl cael diagnosis o golled clyw, Awtistiaeth ac yn fwy diweddar (drwy’r Brifysgol) ag ADHD, dywedodd Tyler ei fod wedi cael trafferth gyda’r dulliau traddodiadol o ddysgu.

Dywedodd: “Fe wnes i’n eithaf da drwy’r ysgol tan y flwyddyn ddiwethaf, pan gefais i drafferth aruthrol gyda phwysau cymdeithas ac amgylchedd arferol yr ysgol am fod yn wahanol. Gweithiais am rai blynyddoedd, ond nid oedd dim yn taro tant gyda mi a fyddai wedi fy ngalluogi i gael gyrfa lawn a heriol, nes i’r cyfle hwn ddod i’m ffordd.

Dywedodd Tyler ei fod wedi gwneud cais am y Brentisiaeth Gradd Ddigidol i astudio Gwyddor Data Cymhwysol gan fod ganddo ddiddordeb mawr mewn datblygiadau technoleg.

“Rwy’n ddysgwr eithaf ymarferol ac yn mwynhau cymryd rhan yn y rôl sydd gennyf trwy’r brentisiaeth ac mae’r gefnogaeth a’r hyfforddiant a gefais wedi bod yn wych.

“Fy uchelgais nawr yw ymwneud mwy ag AI a gallu symud ymlaen yn y llwybr gyrfa hwn.”

Dywedodd Tyler fod gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr cyfeillgar a gwybodus wedi helpu i hwyluso ei yrfa newydd.

“Rwyf wedi gallu gwneud llawer o gysylltiadau trwy fy ngwaith a’m hastudiaethau ond o’r blaen roeddwn yn cael trafferth cyfathrebu ag eraill ar adegau. Yn fy rôl yn y gwaith, rwyf wedi cael y dasg o gyflwyno newidiadau newydd i gronfeydd data a meddalwedd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth sy’n newid yn barhaus. Mae hyn wedi golygu dysgu llawer o bethau gwahanol ac mae gennyf fwy i’w ddysgu gan fod y prosiect hwn yn mynd rhagddo. Mae ansawdd data hefyd yn faes arall yr wyf hefyd wedi bod yn ymwneud ag ef.”

“Mae bod allan o addysg am 11 mlynedd wedi bod yn heriol ar brydiau ond rydw i wedi cael llawer o gefnogaeth i’m helpu i ddechrau arni a dal ati eto. Mae gweithio ochr yn ochr ag astudio hefyd wedi bod yn ddefnyddiol iawn ar adegau i ennill y wybodaeth angenrheidiol.”

Dywedodd Tyler y byddai’n argymell y cwrs oherwydd ei fod yn eich galluogi i “ennill a dysgu.”

“Bydd cael y profiad gwaith sy’n gysylltiedig â’ch gradd yn eich paratoi’n well ar ôl i chi raddio,” ychwanegodd,

“Efallai y bydd llawer o raddedigion yn ei chael hi’n anoddach mynd i mewn i’r rolau y maen nhw eu heisiau oherwydd mae llawer o gwmnïau hefyd yn chwilio am weithwyr sydd â phrofiad yn y diwydiant hefyd.

“Mae’r cwrs hwn wedi bod o gymorth mawr i mi ym mhob agwedd ar fy mywyd yn broffesiynol ac yn bersonol. Rwyf wedi magu hyder yn fy ngalluoedd fy hun, o bwy ydw i, ac rydw i’n gallu cyfathrebu’n well ag eraill. Rydw i wedi ennill sgiliau gwerthfawr i’w cario ymlaen gyda mi ac rydw i nawr yn edrych yn barhaus i ddatblygu a thyfu ym mhob agwedd.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau