Skip page header and navigation

Yn gam arwyddocaol tuag at adeiladu cynaliadwy, mae Canolfan Arloesi Adeiladwaith (CWIC) Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o ddatgelu ei menter hyfforddi ddiweddaraf, ‘Effeithlonrwydd heb Gyfaddawd’, yn rhan o’r rhaglen Adeiladu Cymru Sero Net.

A picture of a building which is benefitting from a new project being undertaken by UWTSD's CWIC.

Mae’r fenter arloesol, blwyddyn o hyd hon yn barod i chwyldroi’r dirwedd adeiladu yn Sir Gâr trwy ymgorffori egwyddorion a thechnegau safon Passivhaus yn yr ethos adeiladu lleol.

Mae ‘Effeithlonrwydd heb Gyfaddawd’ yn darparu’n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â dylunio ac adeiladu adeiladau effeithlon o ran ynni. Mae’r rhaglen yn cynnig dau gwrs unigryw: y Dylunydd Passivhaus Ardystiedig a’r Crefftwr Passivhaus Ardystiedig, y mae’r ddau wedi’u llunio ac yn cael eu cyflwyno gan Coaction, sefydliad nid-er-elw adnabyddus gyda hanes o 12 mlynedd ym maes hyfforddi 

Passivhaus uwch. Mae’r cyrsiau hyn yn anelu at ymdrin â chwricwlwm helaeth, o wyddor adeiladu ac effeithlonrwydd ynni i bynciau mwy manwl megis aerglosrwydd, awyru, a dylunio solar goddefol. 

Bydd cyfranogwyr hefyd yn elwa ar sesiynau ymarferol yn rhan o brosiect ‘Nid Busnes Fel Arfer’ CWIC, gan gael mynediad at offer a meddalwedd arbenigol wedi’u cynllunio i wella eu dealltwriaeth a’u gallu i optimeiddio perfformiad ynni adeiladau.

Yn ogystal â’r arlwy hwn, bydd cwrs pwrpasol yn cael ei ddatblygu yn ystod y flwyddyn i ddod sydd wedi’i anelu at unigolion mewn rolau cynnal a chadw, adeiladu, a rheoli cyfleusterau. Ategir y dull hyfforddi cynhwysfawr hwn gan ddarlithoedd, gweminarau, ac arddangosiadau, gan arddangos astudiaethau achos rhanbarthol llwyddiannus.

Gan gyd-fynd ag ymrwymiad Cyngor Sir Gâr i adeiladu ysgolion newydd yn unol â safonau Passivhaus, mae’r rhaglen hyfforddi hon, sydd wedi’i hariannu’n llawn, wedi’i theilwra ar gyfer y rheiny sy’n byw neu’n gweithio yn Sir Gâr. Ymhlith y cynulleidfaoedd targed y mae penseiri, peirianwyr, crefftwyr a chontractwyr, staff rheoli cyfleusterau, arolygwyr adeiladau, myfyrwyr a staff addysg bellach ac uwch, a grwpiau cymunedol. Mae’r fenter hon yn cynrychioli cam anferthol i Sir Gâr, gan ei rhoi mewn safle arweinydd ym maes tai ac arferion adeiladu cynaliadwy ac effeithlon o ran ynni yn y DU.

Meddai Gareth Evans, Pennaeth CWIC: “Wrth i ni gychwyn ar y daith drawsnewidiol hon gyda’r fenter ‘Effeithlonrwydd heb Gyfaddawd’, rydw i wedi cyffroi gan bosibiliadau’r hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd. Mae’r rhaglen hon yn fwy na dim ond cwrs hyfforddi; mae’n borth at ddyfodol cynaliadwy ar gyfer y rhanbarth. Yma yn CWIC, rydym wedi ymrwymo i feithrin oes newydd o adeiladau sy’n cyd-fynd â’n hamgylchedd. Rwy’n hyderus y bydd Sir Gâr, drwy’r fenter hon, nid yn unig yn cofleidio egwyddorion safon Passivhaus, ond hefyd yn dod yn esiampl o arferion adeiladu cynaliadwy ac effeithlon o ran ynni. Mae’r cyfle i arwain y newid hwn a chael effaith amlwg yn ein cymuned yn gyfrifoldeb yr ydym i gyd yn CWIC yn llawn cyffro i ymgymryd ag ef.” 

Wedi’u hariannu gan raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a’u cefnogi gan Gyngor Sir Gâr, mae’r cyrsiau hyn yn brawf o’n hymrwymiad i feithrin sgiliau ac arbenigedd mewn arferion adeiladu cynaliadwy.

Meddai’r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

“Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid hinsawdd, mae lansiad y fenter ‘Effeithlonrwydd heb Gyfaddawd’ yn enghraifft gyffrous o sut y gall addysg, hyfforddiant ac adeiladu hwyluso newid ymarferol. Rwy’n croesawu ffocws y prosiect gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant o ran cefnogi ein cymunedau i arwain ar arloesi mewn arferion adeiladu a sicrhau bod Sir Gâr yn parhau i ddarparu arweinyddiaeth wrth helpu i liniaru achosion newid hinsawdd.”

Mae’r cyrsiau, sy’n cychwyn y gwanwyn hwn o ran y cwrs Crefftwyr Passivhaus Ardystiedig ac ar ddechrau mis Mawrth o ran y cwrs Dylunydd Passivhaus Ardystiedig, yn cynrychioli cam sylweddol tuag at wella ein galluoedd adeiladu rhanbarthol.

Mae argaeledd ar sail y cyntaf i’r felin, gan sicrhau mynediad teg at yr hyfforddiant gwerthfawr hwn. Er mwyn bod yn gymwys am gyllid, mae angen i gyfranogwyr fod wedi’u lleoli yn Sir Gâr neu fod yn ymwneud â phrosiect lleol o fewn yr awdurdod. I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru, cysylltwch â Julie Evans, rheolwr y prosiect yn CWIC, dros y ffôn ar 01792 481273, drwy e-bost ar julie.evans@uwtsd.ac.uk neu drwy gwblhau’r ffurflen ymholi.



Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon