Skip page header and navigation

Bydd Elin Gruffydd, un o raddedigion Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn serennu yn yr addasiad theatr o’r nofel gan Alys Conran gan deithio o amgylch nifer o theatrau Cymru.

Collage yn cynnwys tri llun: llun pen ac ysgwyddau o Elin Gruffydd, un o’n graddedigion, a dau lun o’r cynhyrchiad theatr Pijin/Pigeon.

Lluniau o’r sioe Pijin/Pigeon trwy garedigrwydd Theatr Genedlaethol Cymru

Ffotograffydd: Kristina Banholzer

Mae Elin wedi ymuno â chast Pijin/Pigeon, sioe ddwyieithog a gynhyrchir gan Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, sy’n seiliedig ar y nofel a addaswyd ar gyfer y llwyfan gan Bethan Marlow.

Mae’r stori’n canolbwyntio ar fywydau pobl ifanc sy’n byw yng nghysgod mynyddoedd a chwareli llechi Gogledd Cymru yn y 1990au gyda chymeriad cyfareddol o’r enw Pijin yn brif gymeriad. Mae’r sioe’n ymdrin â themâu megis iaith, trawma, cyfeillgarwch a chariad, gyda throeon tywyll drwyddi draw.

Mae Elin, a astudiodd BA Perfformio, yn chwarae rhan Iola, ffrind gorau Pijin sy’n fodlon gwneud unrhyw beth iddo. Mae’n ei disgrifio fel cymeriad diddorol ond cymhleth ac y mae ei magwraeth drawmatig wedi ei siapio. Mae’n ddoniol, yn deyrngar ac yn glyfar. Meddai Elin:

“Rwy’n gweld llawer ohonof fy hun yn Iola - rwy’n gallu uniaethu â’i hiwmor a pha mor deyrngar ydyw i’w ffrind, Pijin. Dyna beth ddenodd fi at y cymeriad a’r sioe.”

Mae’r rhaglen BA Perfformio ddwy flynedd yn addysgu nifer o sgiliau a thechnegau arbenigol i gynhyrchu graddedigion sy’n amlddisgyblaethol ac yn wybodus am y diwydiant.

Daw myfyrwyr i gysylltiad â’r diwydiant trwy gael profiadau go iawn a chael eu hyfforddi gan weithwyr proffesiynol, yn cynnwys Eiry Thomas, Elen Bowman a Robbie Bowman – profiad oedd yn amhrisiadwy yn ôl Elin.  

Cred Elin, sy’n dod yn wreiddiol o Drawsfynydd, Gwynedd, na fyddai yn y sefyllfa y mae ynddi nawr oni bai am yr hyfforddiant ardderchog a gafodd ar y cwrs BA Perfformio yn y Drindod Dewi Sant a chefnogaeth wych ei thiwtoriaid.  Mae’n honni:

“Yn ogystal ag addysgu’r grefft o fod yn actor, mae’r cwrs yn eich galluogi i fagu gwytnwch a dysgu sut i ofalu amdanoch chi’ch hun yn feddyliol ac yn gorfforol, sydd yn rhywbeth sydd ei angen arnoch o fewn y diwydiant hwn. Mae’r cwrs wedi fy helpu i ddatblygu nid yn unig fel actor ond fel person hefyd. Mae wedi rhoi hwb i’m hyder, wedi deffro fy nghreadigrwydd a’m harwain i ble rydw i heddiw.”

Clywodd Elin am y rhaglen am y tro cyntaf pan ymwelodd y Brifysgol â’i choleg, Coleg Meirion Dwyfor, Dolgellau i gynnig gweithdai. Ar ôl cael rhagflas o’r cwrs, gwyddai ei bod eisiau bod yn berfformwraig a felly chyflwynodd gais. Roedd y ffaith y gellid astudio’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yn fantais fawr. Ei chyngor hi i unrhyw un sy’n ystyried astudio’r cwrs a gweithio yn y diwydiant yw i ymdrechu i gyrraedd eu nod. Meddai:

“Os ydych chi’n teimlo yn eich calon ac ym mêr eich esgyrn eich bod yn berfformiwr, yna dyna rydych chi i fod, a dylech gredu ynoch chi’ch hun doed a ddelo.”

Ers graddio yn 2020 mae Elin wedi cael nifer o gyfleoedd, yn amrywio o weithio gyda Chwmni Theatr Arad Goch a Dirty Protest Theatre, ac mae hefyd wedi ymddangos mewn hysbyseb i McDonald’s. Yn ogystal â serennu yn Pijin/Pigeon ar hyn o bryd, mae hefyd yn gweithio gyda Boom Cymru ar brosiect cyffrous ar y cyfryngau cymdeithasol.

Meddai Cyfarwyddwr Rhaglen y cwrs BA Perfformio, Eilir Owen Griffiths:

“Rydym mor falch i weld un o’n graddedigion yn perfformio gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Dymunwn yn dda i Elin, yn ogystal â gweddill y cast a’r criw ar daith Pijin.”

Bydd Pijin/Pigeon yn teithio o amgylch nifer o theatrau gan gynnwys y Ffwrnes, Llanelli, Theatr Mwldan, Aberteifi a Galeri, Caernarfon. Gellir bwcio tocynnau trwy Theatr Genedlaethol Cymru | Pijin/Pigeon.

Gallwch ddysgu rhagor am y cwrs drwy dudalen we’r Brifysgol: BA Perfformio.


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau