Skip page header and navigation

Partneriaeth addysg uwch a busnes newydd yn anelu at greu cymwysterau technegol lefel uwch ar gyfer y sector gwasanaethau proffesiynol.

Pedwar myfyriwr yn trafod rhywbeth ar gyfrifiadur tabled a rennir.

Mae Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, sy’n cynnwys Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion a’r colegau Addysg Bellach blaenllaw Grŵp CAVC, Grŵp Colegau NPTC, Coleg Sir Benfro, ar fin trawsnewid llwybrau’r gyfraith, cyfrifeg, AD ac arweinyddiaeth busnes.

Bydd y brifysgol a’r colegau yn darparu cymwysterau newydd i alluogi gweithwyr newydd a phresennol i ddechrau gyrfaoedd mewn llwybrau a ddominyddir yn draddodiadol gan raglenni proffesiynol gradd ac ôl-raddedig prifysgol. Mae gyrfaoedd yn y sector yn cynnig cyflogaeth ar gyfraddau sy’n gyffredinol uwch na’r cyflog cyfartalog yng Nghymru ac mae Llywodraeth Cymru wedi’i hamlygu fel sector blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi.

Gan ddefnyddio rhwydwaith newydd o Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymru, mae’r partneriaid yn dechrau datblygu’r cymwysterau newydd trwy gyfres o weithdai ymgysylltu â chyflogwyr ar draws de a gorllewin Cymru.

Bydd y gweithdai, a gynhelir yn Llanelli, Abertawe a Chaerdydd yn galluogi busnesau a chyflogwyr o’r sector gwasanaethau proffesiynol i rannu gwybodaeth i sicrhau bod eu barn ar ddyfodol sgiliau yn cael ei chlywed a’i hystyried.

Dywedodd Anne Smith, Partner Rheoli gyda chyfreithwyr Harrisons yn y Trallwng, “Mae ein cwmni yn cyflogi staff amrywiol a medrus iawn sydd wedi gwasanaethu pobl a busnesau Canolbarth Cymru a Swydd Amwythig ers dros 170 o flynyddoedd. Er mwyn parhau i wneud hyn mae angen i ni recriwtio a chadw’r dalent orau sydd ar gael. Trwy ymgysylltu â’r Sefydliadau Prifysgol Technegol newydd, rydym yn gobeithio sicrhau ein dyfodol fel busnes a pharhau i gefnogi pobl leol am ddegawdau i ddod.”

Bydd y Sefydliadau Prifysgol Dechnegol yn darparu cyfleoedd newydd ar gyfer addysg dechnegol uwch a hyfforddiant ac arloesedd a arweinir gan gyflogwyr. Bydd y rhwydwaith yn sicrhau parch cyfartal rhwng addysg alwedigaethol ac addysg lefel uwch. Gan weithio o fewn strwythur cydffederal, caiff y bartneriaeth ei llywio gan anghenion cyflogwyr a’i nod yw hyrwyddo cyfle cyfartal ac annog cyfranogiad mewn addysg drydyddol.

Wrth siarad ar ran y pum coleg AB, dywedodd Mike James Prif Swyddog Gweithredol Coleg Caerdydd a’r Fro, “Rydym eisoes yn archwilio ffyrdd y gall y rhwydwaith newydd hwn gyflwyno llwybrau galwedigaethol i faes y gyfraith. Mae’r llwybr newydd hwn yn ategu ein gwaith presennol ym maes cyfrifyddiaeth a phartneriaethau gyda chwmnïau fel Deloitte.”

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Cymru a’r Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes, “Mae lansio Sefydliadau Technegol Prifysgol Cymrua’u hystod o gymwysterau newydd yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i bobl Cymru. Drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr a busnesau, byddwn yn sicrhau bod addysg a hyfforddiant o’r radd flaenaf ar gael iddynt. Mae’r cytundeb rhwng Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant a’i phartneriaid AB yn garreg filltir yn nhaith addysg uwch ac addysg bellach. Gyda’i gilydd mae’r prifysgolion a’r colegau yn ymateb i weledigaeth Llywodraeth Cymru i greu un sector addysg ôl-orfodol i Gymru.”

Dyma’r dyddiadau ar gyfer pob digwyddiad. Os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â j.walker@uwtsd.ac.uk 

Llanelli (Campws Y Graig) – 30 Ionawr (9am-11am)

Abertawe (IQ SA1) – 30 Ionawr (5pm-7pm)

Caerdydd (Coleg Caerdydd a’r Fro) – 31 Ionawr (9am-11am)


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  arwel.lloyd@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau