Skip page header and navigation

Darganfu Emma Williams, Swyddog Technegol TGCh yn Is-adran TGCh a Pholisi Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin, y prentisiaethau gradd digidol ar ôl i e-bost gyrraedd adran TGCh y cyngor, yn rhoi gwybodaeth am gyllid Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithwyr cymwys i ddilyn gradd.

Mae Emma Williams yn gwenu fymryn wrth wisgo het a gŵn academaidd sydd â chwfl  aur.

“Neidiais ar unwaith at y cyfle i wneud cais am y llwybr BSc mewn Cyfrifiadura (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch), gan fy mod yn meddwl bod hwn yn gyfle gwych,” meddai.

Cafodd ei hastudiaethau yn werth chweil ar sawl lefel.

“Un fantais sylweddol yw’r cynnydd yn yr hyder a gefais,” meddai. “Bellach mae gen i’r hyder i fynychu digwyddiadau prifysgol i drafod fy nhaith, siarad mewn cyfarfodydd gwaith a chysylltu ag eraill mewn modd mwy hyderus.”

Dechreuodd y radd tra’n gweithio fel Peiriannydd Cymorth Digidol TGCh, a rhoddodd ei hastudiaethau’r hwb yr oedd ei angen arni i wneud cais am rôl Swyddog Technegol TGCh. Ers mis Medi 2022, mae hi wedi gweithio o fewn y tîm Cybersecurity, mewn rôl sy’n ei galluogi a’i hysbrydoli i barhau i dyfu a datblygu.

“Rwy’n ffodus iawn bod fy nghyflogwr mor galonogol a chefnogol i ni’n fyfyrwyr Prentisiaeth Gradd Ddigidol, gan ein galluogi i dyfu fel gweithwyr,” meddai. “Roeddem yn gallu dod â’r hyn a ddysgom a’r profiad yn ôl i’r gweithle a chyfrannu at y gwasanaeth.” Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyflogwr calonogol a chefnogol iawn, roeddem yn gallu cymryd yr amser i astudio a datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol, gan gyfrannu’r hyn a ddysgom ac a brofwyd yn ôl i’r gweithle a’r gwasanaeth.”

Ei chynlluniau yw parhau â’m dysgu a’m datblygiad ymhellach trwy hyfforddiant cysylltiedig â gwaith/seiberddiogelwch. Mae seiberddiogelwch yn bwnc sy’n newid yn gyflym ac mae angen dysgu cyson a meithrin gwybodaeth er mwyn gallu lliniaru a rheoli bygythiadau.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau