Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr yng Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn paratoi gwaith i’w ddangos yn yr arddangosfa haf flynyddol, sydd i’w chynnal mewn lleoliadau amrywiol o amgylch y ddinas ymhen ychydig wythnosau.

Gosodwaith amlgyfrwng yn dangos delwedd wedi’i thaflunio o artist ar sgrîn; mae lliain blaen yn cael ei rhoi ar gadair o flaen y sgrin, ac o ganlyniad mae rhannau o’r ddelwedd sydd wedi’i thaflunio i’w gweld ar y lliain.

Bydd myfyrwyr Celfyddyd Gain yn arddangos eu gwaith ar Gampws Dinefwr y Brifysgol ar 19 Mai am 6pm.

Meddai Hannah Henson: “O barhad Covid a chyfuniad yr argyfwng costau byw, profodd y grŵp blwyddyn hwn ddwyster y byd trwy lens Radd Celfyddyd Gain. Trwy’r cwrs hwn, rhoddwyd cyfle i ni ddeall a chwarae â sbectrwm eang o dechnoleg ddigidol, ond eto rydym i gyd yn unigolion yn cael ein harwain gan brosesau materol. Mae’r byd go iawn yn cael blaenoriaeth neu’n cyfuno â’r byd digidol. Nodwedd di-sôn-amdani bron wrth grybwyll fy ngrŵp oedran mewn prifysgolion eraill.

“Mae gan ein grŵp blwyddyn ni gysylltiad pwysig â deunyddiau; rwy’n credu y daeth y berthynas glos hon o’r cysur a’r cwmni a ddarparwyd gan ein harferion drwy gydol y casgliad o gyfnodau clo. Daeth llawer ohonom i ddibynnu ar ein harfer a threulio amser ag ef fel petai’n endid byw go iawn, gan gael cysur ac ymdeimlad o heddwch yn ein deunyddiau a’n mynegiant o’n hunain. Gyda chefnogaeth y penderfyniad i gael ein clywed, mae’r ystyron a gyflëwn yn unigol, yn bersonol, ac yn real.

“Treuliwyd tair blynedd gennym yn datblygu gwell dealltwriaeth o ddeunyddiau amrywiol a ganiataodd i ni archwilio cyfeiriadau newydd, gan arwain at osodiadau paent, cerflun ac amlgyfrwng.”

Meddai’r Athro Sue Williams: “Mae pob myfyriwr wedi darganfod eu llais creadigol, nid yn unig o ran materoldeb ond yn gysyniadol ac yn athronyddol hefyd. Yn nodedig y flwyddyn academaidd hon, mae ein myfyrwyr wedi croesawu cydweithio fel agwedd at ymarfer, a gellir gweld y deialogau pwysig hyn ochr yn ochr â gweithiau celf unigol o fewn yr arddangosfa.

“Rydyn ni wedi teithio trwy adegau diddorol a digynsail yn ystod Covid gyda’n myfyrwyr 3edd flwyddyn, ar-lein ac yn y gofod real, ac maen nhw wedi wynebu’r heriau hyn â’r gwytnwch a’r uniondeb creadigol mwyaf. Rwy’n dymuno’n dda iddynt ar gyfer agoriad eu harddangosfa. Da iawn!”

Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Coleg Celf Abertawe PCYDDS: “Dathliad yw’r Sioe Raddio, a phenllanw astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig y myfyrwyr, lle byddwch yn profi creadigrwydd anhygoel ar draws ystod amrywiol o feysydd pwnc celf a dylunio. Mae colegau celf yn newid y byd – bydd ein myfyrwyr, y cewch weld eu gwaith pan fyddwch yn ymweld â’r sioe, yn mynd ymlaen i newid y byd.”

Mae croeso i chi ddod i weld ein bydoedd gweledol unigol a chydweithredol. Cynhelir y sioe raddio yng Ngholeg Celf Abertawe, Campws Dinefwr ar y 19eg o Fai am 6pm, a hon yw’r arddangosfa fewnol gyntaf ar ôl Covid. Ymunwch â ni i ddathlu ein gilydd, ein lleoliad dysgu a’n cymuned unigryw.

Cynigir diodydd a chatalogau wrth gyrraedd, yn rhad ac am ddim.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau