Skip page header and navigation

Gyda Seremoni Coroni’r Brenin Siarl a’r amrywiaeth o ddigwyddiadau i’w cynnal i ddathlu’r achlysur ar fin digwydd, mae Ruth Gooding, Llyfrgellydd Casgliadau Arbennig PCYDDS, yn ymchwilio i archifau’r Brifysgol i amlygu sut y dathlwyd rhai coronau yn y gorffennol:

Llun o goronau amrywiol a ddefnyddiwyd mewn seremonïau Coroni

Y Deyrnas Unedig yw’r unig frenhiniaeth Ewropeaidd sy’n parhau i gynnal seremoni goroni, yn hytrach na seremoni urddo neu seremoni orseddu.  Mae’r gwasanaeth coroni hwn wedi cadw at yr un ffurf sylfaenol ers mwy na mileniwm.   Gwelir llawer o’r prif elfennau yn y ddefod a luniwyd gan Dunstan, Archesgob Caergaint, ac a ddefnyddiwyd yn 973 yn seremoni goroni Edgar. Roedd testun o 1 Brenhinoedd 1, sy’n disgrifio Sadoc yn eneinio’r Brenin Solomon, eisoes yn cael ei ddefnyddio.

Pan fo’n bosibl, cynhelir seremonïau coroni yn Abaty Westminster; y seremoni goroni gynharaf yno y mae gennym gofnod ohoni oedd seremoni goroni Wiliam y Concwerwr ar 25 Rhagfyr 1066. Yn yr Oesoedd Canol, cynhelid seremonïau coroni’n fuan ar ôl marwolaeth y brenin neu frenhines flaenorol, yn enwedig petai cydymgeiswyr am yr orsedd.  Yn fwy diweddar, bu oedi sylweddol i ganiatáu amser i drefnu’r digwyddiad yn ogystal ag ar gyfer galaru.  Er diwedd y 14eg ganrif, mae pob seremoni goroni wedi dilyn yr un drefn gwasanaeth fwy neu lai.  Cyflwynir y teyrn, fel arfer gan Archesgob Caergaint.   Wedyn bydd ef neu hi’n tyngu cyfres o lwon, yn cael ei eneinio ag olew sanctaidd, ei goroni, yn cael y teyrndlysau brenhinol ac yn derbyn gwrogaeth.  Mae’r seremoni’n llawn dop â symbolaeth grefyddol ac wedi’i modelu’n fanwl ar seremonïau urddo brenhinoedd Israel yr Hen Destament.

Llun o Gochl o frethyn aur, botasau a sandalau

Er gwaethaf ei natur sefydlog, mae’r ddefod goroni wedi esblygu dros amser, gyda llawer o newidiadau yng ngeiriad y llw yn arbennig.  Cynhelid seremonïau teyrnoedd canoloesol a Thuduraidd yn y Lladin; seremoni goroni Iago I ar 25 Gorffennaf 1603  oedd y seremoni goroni gyntaf i ddefnyddio’r Saesneg.  Yn dilyn dienyddio Siarl I cafodd y rhan fwyaf o’r teyrndlysau hynafol eu toddi neu eu gwerthu, gydag ond y llwy a’r gostrel (llestr a ddefnyddid i gynnwys olew ar gyfer yr eneinio) yn goroesi. Ar ôl yr Adferiad, gwariodd Siarl II, sef mab Siarl I, £32 000 ar ail-wneud tlysau’r goron, gan ddefnyddio disgrifiadau manwl a gedwir yn Nhŵr Llundain.  Roedd hyd yn oed fwy o arwyddocâd symbolaidd nag arfer yn drwm ar seremoni goroni Siarl.  Fe’i cynhaliwyd ar Ddygwyl Siôr 1661, a’r pasiantri ysblennydd yn arddangos gogoniant y frenhiniaeth. Daeth gorymdaith Siarl drwy Lundain y diwrnod blaenorol yn gyrhaeddiad gorfoleddus, gan ei gyflwyno fel ‘arwr epig’ yn dychwelyd i feithrin ‘undod, heddwch a ffyniant’.  Wedyn arddangosai’r seremoni goroni wreiddiau sanctaidd, pwerau a rhwymedigaethau brenhiniaeth.  Ysgrifennodd Syr Edward Walker, brenin arfau’r Gardas, ddisgrifiad manwl o’r digwyddiad mewn hanner cant a dau o ffolios llawysgrif, dyddiedig 25 Mai 1661. Fe’i cyhoeddwyd yn 1820 â’r teitl A circumstantial account of the preparations for the coronation of His Majesty King Charles the Second … Disgrifiodd Walker yr achlysur yn y geiriau canlynol ‘so great as no age has seen the like.’ Mae’r naw plât yn darlunio’r dillad a pharaffernalia a ddefnyddiwyd, gan gynnwys darluniad o’r Goron St Edward newydd.  Mae copi o hwn gan y Drindod Dewi Sant a roddwyd gan Thomas Phillips yn 1842.

Iago II

Llun o dudalen deitl Coroni Iago II

Daeth Iago, brawd iau Siarl II, yn frenin yn 1685; cynhaliwyd seremoni goroni Iago hefyd ar Ddygwyl Siôr.  Roedd litwrgi’r ddwy seremoni goroni’n debyg.  Fodd bynnag, nid oedd seremoni goroni Iago yn cynnwys yr Ewcharist; ac yntau’n aelod o’r Eglwys Gatholig, ni allai gymryd y cymun yn Eglwys Loegr.  Treuliodd dau herodr, Francis Sandford a Gregory King, ddwy flynedd yn ysgrifennu cofnod o’r seremoni goroni, a argraffwyd ‘by His Majesties especial command’. Roedd eu cyfrol wych, The history of the coronation of the most high, most mighty, and most excellent monarch, James II … , yn cynnwys saith ar hugain o ysgythriadau ysblennydd o’r gwyliau, y gorymdeithiau a’r tân gwyllt. Roedd y darluniadau hyn yn hysbysebu’r frenhiniaeth a’r hierarchaeth gymdeithasol a gwleidyddol roedd y brenin yn ben arni.  Mae’r hanesydd Kevin Sharpe wedi dweud ‘Sandford’s volume provided a massive testament to the historicity and sanctity of monarchy at a time when some were beginning to question it.’ Roedd hon yn gyfrol gostus; y gynulleidfa darged oedd yr uchelwyr, yn cynnwys y rheini oedd yn bresennol yn y seremoni.  Fodd bynnag, yn anffodus i’r ddau awdur, ni chyhoeddwyd y llyfr tan ychydig cyn y Chwyldro Gogoneddus a gorfodi Iago i ildio’r orsedd.  Er i Iago roi rhodd o £300 iddynt, o’r braidd eu bod wedi talu am eu treuliau.  Rhoddwyd copi’r Drindod Dewi Sant o’u llyfr gan yr Esgob Thomas Burgess yn 1828.

Llun o Goroni Iago II a’r Frenhines Mary

Ar ôl teyrnasiad anffortunus Iago II, roedd y llwon a dyngwyd gan ei olynwyr, Wiliam III a Mary II, yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw at ‘the statutes in parliament agreed on’ a chynnal ‘the Protestant reformed religion established by law.’ Ar ôl hyn, cymharol ychydig o newidiadau a fu yn y ddefod tan deyrnasiad y Frenhines Victoria.

Siôr II

Llun o orymdaith ar gyfer coroni

Mynnodd Siôr II y byddai’i seremoni goroni ar 11 Hydref 1727 yn ddigwyddiad ysblennydd.   Codwyd tramwyfa uchel rhwng Neuadd Westminster ac Abaty Westminster, er mwyn i’r torfeydd gael gwell golwg ar yr orymdaith. Gwerthodd Abaty Westminster docynnau am yr ardal rhwng y drws gorllewinol a’r côr.  Cyfansoddwyd cerddoriaeth y seremoni gan George Frederick Handel. Roedd pedair anthem Handel i’r seremoni goroni yn cynnwys Zadok the priest, a genid cyn eneinio’r teyrn ymhob seremoni goroni yn dilyn hynny.  Fodd bynnag, ni aeth popeth yn dda; ar un adeg, ymddangosai fod y côr yn canu dwy anthem wahanol.  Mae gan y Drindod Dewi Sant A complete account of the ceremonies observed in the coronations of the kings and queens of England, a ysgrifennwyd ychydig cyn seremoni goroni Siôr.  Dywedir bod y gyfrol yn llawn o wybodaeth ddiddorol ynghylch rheolau a threfn seremonïau brenhinol.   Mae’n cynnwys wynebddalen fawr, a ysgythrwyd ar gopr, yn darlunio’r ‘Procession of kings and queens with over 150 robed figures.’ Mae ail ysgythriad plyg yn darlunio  ‘The manner of the champions, performing the ceremony of ye challenge.’ Yn ystod y wledd wedi’r seremoni, marchogodd y pencampwr mewn llawn arfogaeth i mewn i’r neuadd.  Gan daflu’i faneg ddur i’r llawr, datganodd,  

‘If any person, of what degree soever, high or low, shall deny our sovereign, Lord King George II … ; here is his champion, who saith that he lyeth, and is a false traytor, being ready in person to combat with him; and in this quarrel will adventure his life against him, on what day soever he shall be appointed.’

Mae torluniau pren yn y testun yn darlunio nifer o wrthrychau seremonïol, yn cynnwys yr orsedd, y goron, a chleddyfau.

Siôr IV

Seremoni goroni Siôr IV, ar 19 Gorffennaf 1821, oedd y fwyaf afradlon a gynhaliwyd ym Mhrydain erioed; roedd yn ymwybodol iawn o botensial rhwysg i sbarduno teyrngarwch a chyffro yn ei ddeiliaid.  At hynny, roedd yn benderfynol y byddai’i seremoni urddo’n rhagori ar seremoni ymerawdwr diorseddog Ffrainc, Napoleon Bonaparte. Er bod hwn yn gyfnod o dlodi eang, rhoddodd y Senedd £243,000 i dalu’r costau. Ysgrifennodd y Fonesig Williams Wyn am ‘more display than ever was yet known.’ Cafodd goron newydd ei gwneud yn arbennig i Siôr, a oedd yn cynnwys mwy na 12 500 o ddiemwntau.  Ar gyfer yr orymdaith i’r abaty, cerddodd o flaen canopi o frethyn aur.  Roedd ei wisg o faint a chyfoeth aruthrol, gyda chynffon o felfed ruddgoch a oedd mor hir roedd angen naw gwas bach i’w gynnal. Gan godi cyfeiriad at dreftadaeth hanesyddol Prydain, roedd cyfranogwyr wedi’u gwisgo yng ngwisgoedd cyfnod y Tuduriaid a’r Stiwartiaid.  Parhaodd y gwasanaeth ei hun am bron pum awr.  Ar ôl hyn, daeth gwledd y coroni i dri chant o westeion yn Neuadd Westminster.

Llun o Banorama Henry Aston

Er gwaethaf hyn i gyd, ni aeth popeth yn dda.  Pan gyrhaeddodd gwraig Siôr, Caroline o Brunswick, yn annisgwyl, a hithau wedi ymddieithrio wrtho, gwrthodwyd mynediad i’r seremoni iddi. Fodd bynnag, roedd Siôr wedi llwyddo i droi’r seremoni goroni’n atyniad i dwristiaid.  Cyn hir, roedd modd i wylwyr weld panorama o’r seremoni goroni yn cael ei arddangos yn Leicester Square. Yn 1793, roedd Robert Barker, peintiwr portreadau crwydrol, wedi agor adeilad pwrpasol cyntaf y byd ar gyfer arddangos panoramâu 360 gradd yno.  Byddai cwsmeriaid yn talu tri swllt i sefyll ar blatfform canolog dan ffenest yn y to, i weld paentiad a arddangoswyd ar arwyneb silindrog.  Gallai gwylwyr droi i unrhyw gyfeiriad a gweld golygfa barhaus, lydan.  Roedd y rhan fwyaf o’r panoramâu a beintiwyd gan fab Barker, Henry Aston Barker, yn darlunio pynciau o ddiddordeb cyfredol.  Ei Description of the procession on the coronation of His Majesty George the Fourth, a gyhoeddwyd yn 1822, oedd ei banorama diwethaf.   Cymaint fu ei lwyddiant bu modd iddo ymddeol yn gynnar yn 1824, ac yntau ond yn bedwar deg wyth oed.  Mae gan y Drindod Dewi Sant gopi o’i Description of the procession on the coronation of His Majesty George the Fourth, a dynnwyd o’r panorama.

Mewn gwrthgyferbyniad llwyr i seremoni goroni Siôr, gorchmynnodd ei olynwr, William IV, ‘no ceremonies are to be celebrated at the Coronation, except the sacred rites attending the administration of the royal oath in Westminster abbey.’ Y tro hwn, cost y seremoni goroni ar 8 Medi 1831 oedd £37,000 yn unig. Hepgorwyd yr orymdaith fawreddog ar droed i’r abaty a’r wledd yn dilyn y seremoni, a fyddent byth yn cael eu cynnal eto.

Victoria

Roedd seremoni goroni Victoria ar 28 Mehefin 1838 hefyd yn gymharol syml, gan gostio £70 000, yn hytrach na’r £200,000 a ddosrannwyd gan y Senedd.  Gwariwyd y rhan fwyaf o’r arian ar orymdaith seremonïol er budd y cyhoedd cyffredinol.  Meddai The Gentleman’s Magazine ‘It was conducted in most respects after the reformed model of that of her immediate predecessor … To meet in some degree the general wishes expressed for a coronation more stately than the last, the exterior cavalcade was increased in splendour and numbers, and a much more extended line of approach was adopted.’ Roedd yr orymdaith hon yn cynnwys y Gosgorddlu, y preswylwyr tramor, dwy fintai o Adran yr Osgordd, a chant o Iwmyn y Gard, yn ogystal ag aelodau’r teulu brenhinol a gweision y frenhines.  Diolch i’r rheilffyrdd, heidiodd oddeutu 400,000 o ymwelwyr i Lundain ar gyfer seremoni’r goroni. Dywedid bod parciau Llundain yn debyg i wersylloedd milwrol.  Roedd miloedd o bobl yn cymeradwyo ar hyd daith y frenhines ifanc.  Ysgrifennodd Victoria yn ei dyddiadur, ‘I really cannot say how proud I feel to be the Queen of such a nation.’  Fodd bynnag, ni chynhaliwyd rihyrsal o’r seremoni ei hun, a bu sawl camgymeriad i ddifwyno’r diwrnod.  Meddid, ‘there was continual difficulty and embarrassment, and the Queen never knew what she was to do next.’ Roedd allor yng nghapel St Edward wedi’i llwytho â brechdanau a photeli o win.  Gorfododd Archesgob Caergaint y fodrwy ruddem ar bedwerydd bys Victoria, heb sylweddoli ei bod wedi’i gwneud i’r pumed.   Daliodd yr Arglwydd Rolles wyth deg dwy flwydd oed, ei droed yn ei wisg a chwympo ar y grisiau i orsedd Victoria. Fodd bynnag, credai Victoria y byddai hi bob amser yn ‘remember this day as the proudest of my life.’

Llun o Goroni’r Frenhines Victoria

Mae Anecdotes, personal traits, and characteristic sketches of Victoria the First (1840) yn rhoi disgrifiad hir a manwl o seremoni goroni’r Frenhines.  Ysgrifenna’r awdur dienw am y ‘gorgeous and imposing ceremonial.’ Hefyd mae’n disgrifio’r dathliadau o amgylch y digwyddiad, a oedd yn cynnwys y torfeydd enfawr.  Dechreuodd y diwrnod gyda thanio’r cyfarchiad brenhinol yn St James Park.  Cynhaliwyd ffair yn Hyde Park ac arddangosiad o dân gwyllt yn Green Park gyda’r nos.  Ysgrifenna’r awdur am ‘a colossal figure of Queen Victoria, painted on canvass, and placed under a triumphal pyrotechnic arch. It was so contrived as to be altogether invisible, until a brilliant display of rockets were made to fire the triumphal arch, when the figure and its accessaries became brilliantly prominent.’

Fodd bynnag, yn ardaloedd diwydiannol gogledd Lloegr, nid ystyrid ‘gwyliau cenedlaethol’ seremoni’r coroni’n achlysur ar gyfer dathlu.  Yn wir, roedd protestiadau ar draws y gogledd, gydag Oldham yn cynnal ei wyliau ei hun gyda’i arwyddeiriau ei hun.  Fodd bynnag, mewn lleoedd eraill, cafwyd dathliadau.  Yng Nghaergrawnt, ymgasglodd 15,000 o bobl ar Parker’s Piece am wledd.  Yn y canol, chwaraeodd cerddorfa o fandstand a oedd wedi’i orchuddio â baneri a blodau.  O gwmpas hwn, roedd chwe deg o fyrddau’n ymledu, fel adenydd o olwyn. Yn hwyrach y diwrnod hwnnw, gorymdeithiodd pawb i Midsummer Common am chwaraeon gwledig ac i weld pâr o bobl yn mynd i fyny mewn balwn.  Daeth y dathliadau i ben gydag arddangosiad o dân gwyllt.  Mae gan y Drindod Dewi Sant ddisgrifiad o ŵyl goroni Caergrawnt, a gyflwynwyd gan A.J. Brothers, cyn-ddarlithydd yn y clasuron.  

Llun o Goroni’r Frenhines Victoria

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: eleri.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau