Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyfranogiad gweithredol dau aelod o’i thîm Arfer Proffesiynol, Sarah Loxdale a Lowri Harris, wrth iddynt gefnogi cystadleuaeth ddadlau ‘Youth Speaks’ y Rotari a gynhaliwyd yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Caerfyrddin.

A photo of Lowri Harris, Andrew Edwards & Sarah Loxdale standing in front of a Rotary Branded stall

Yn rhan o’u hymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned, ysbrydoli myfyrwyr y dyfodol, hyrwyddo PCYDDS, a dysgu gydol oes, mae Sarah a Lowri yn ymroddedig i feithrin cysylltiadau ystyriol a hwyluso deialogau adeiladol o fewn y gymuned ieuenctid.

Cystadleuaeth i dimau yw ‘Youth Speaks’ y Rotari, a drefnir gan y Rotary International ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer plant rhwng 11 a 17 mlwydd oed. Mae’r gystadleuaeth yn agored i dimau o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys ysgolion, colegau, unigolion sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref, a sefydliadau cymunedol amrywiol megis RotaKids, Interact, Grwpiau Sgowtiaid, y Geidiaid, a mwy. Mae pob tîm, sy’n cynnwys tri unigolyn ifanc, yn paratoi ac yn cyflwyno dadl 15 munud ar bwnc o’u dewis o flaen cynulleidfa.

Bu Lowri a Sarah yn cynorthwyo wrth feirniadu nifer o dimau o Dde Cymru, o Went i Sir Benfro, a oedd wedi ennill calonnau lleol ac a oedd bellach yn cystadlu ar y lefel ranbarthol. Roeddent yn cynnwys timau o Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin, Ysgol Uwchradd Llanisien, Ysgol Uwchradd Crughywel, Ysgol Uwchradd Joseff Sant ac Ysgol Gymunedol Cwmtawe. 

Dywedodd Sarah Loxdale, aelod o dîm Arfer Proffesiynol PCYDDS: “Rydyn ni’n credu mewn meithrin lleisiau ifanc a’u hannog i gymryd rhan weithgar mewn trafodaethau sydd o bwys. Mae dadl ‘Youth Speaks’ y Rotari yn cynnig llwyfan unigryw i feddyliau ifanc lunio syniadau, mynegi eu hunain, a chymryd rhan mewn dadleuon adeiladol.”

Amlygodd Lowri Harris, aelod arall o’r tîm Arfer Proffesiynol, bwysigrwydd hyrwyddo, cefnogi ac ysbrydoli myfyrwyr y dyfodol. 

“Yn addysgwyr, gwelwn y potensial ym mhob unigolyn. Trwy gymryd rhan mewn mentrau fel ‘Youth Speaks’ y Rotari, rydym yn grymuso myfyrwyr i archwilio eu galluoedd, datblygu disgyblaeth o ran rheoli amser, a mireinio eu sgiliau o ran mynegi a chyflwyno.”

Mae nodau ac amcanion cystadleuaeth ‘Youth Speaks’ y Rotari yn cyd-fynd â chenhadaeth PCYDDS sef Trawsnewid Addysg, Trawsnewid Bywydau. 

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o gystadleuaeth sydd nid yn unig yn cyd-fynd â’n gwerthoedd ond sydd hefyd yn darparu llwyfan i feddyliau ifanc dyfu,” meddai Sarah Loxdale. “Mae’n ymwneud â mwy na dim ond dadlau; mae’n ymwneud â meithrin cenhedlaeth sy’n groyw, yn hyddysg, ac yn barod i gyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas.”

Fe wnaeth Andrew Edwards o Glwb Rotari Caerfyrddin Tywi ganmol tîm Arfer Proffesiynol y Brifysgol am hyrwyddo dadleuon ieuenctid trwy eu cyfranogiad gweithredol yng nghystadleuaeth ‘Youth Speaks’ y Rotari.

Dywedodd: “Mae ymroddiad Sarah a Lowri i ymgysylltu â’r gymuned, ysbrydoli myfyrwyr y dyfodol, a meithrin deialogau adeiladol yn ardderchog. Mae cystadleuaeth ‘Youth Speaks’ y Rotari, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer plant rhwng 11 a 17 mlwydd oed, yn cyd-fynd yn berffaith â chenhadaeth PCYDDS, gan ddarparu llwyfan unigryw i feddyliau ifanc dyfu, mynegi eu hunain, a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas.”

Hoffai Sarah a Lowri ddymuno’n dda i’r tîm buddugol, Ysgol Uwchradd Crughywel, yn rownd nesaf y gystadleuaeth a llongyfarch pawb a gymerodd ran yn yr hyn a oedd yn ddadl o safon uchel iawn. 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau